- Am fwy o wybodaeth am unrhyw ffyrdd cynlluniedig sydd ar gau ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2019, gwiriwch eto’n agosach at ddyddiad y digwyddiad.
Dîm Arddangos Aerosuperbatics
Mae acrobatiaid awyrofod yn bwriadu cyflwyno perfformiad syfrdanol yn Sioe Awyr Cymru fis nesaf.
Bydd cerddwyr adenydd o Dîm Arddangos Aerosuperbatics yn serennu ar awyrennau stỳnt dwbl yn uchel uwchben Bae Abertawe fel rhan o ddigwyddiad mwyaf am ddim Cymru eleni.
Mae Sioe Awyr Cymru eisoes wedi cadarnhau y bydd y Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain a thîm arddangos Typhoon yr Awyrlu Brenhinol yn dychwelyd eleni.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae cerdded ar adenydd yn olygfa feiddgar a bydd yn ychwanegu at gynnwrf y penwythnos gwych hwn ar gyfer y teulu cyfan.
“Mae tîm yr Aerosuperbatics yn enwog mewn arddangosfeydd ledled y byd o Tsiena i Awstralia a’r Dwyrain Canol, felly mae’n wych ei fod hefyd yn ymweld ag Abertawe eleni.”
Mae Sioe Awyr Cymru yn ddigwyddiad blaenllaw yng nghalendr digwyddiadau’r ddinas. Y llynedd denodd tua 250,000 o bobl bob cwr o dde Cymru a’r DU i’r ddinas.
Yn ogystal â’r adloniant o safon ryngwladol yn yr awyr, bydd hefyd digonedd o ddigwyddiadau ar y ddaear i ymwelwyr eu mwynhau.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Yn ogystal â chreu penwythnos llawn busnes i’n masnachwyr, mae Sioe Awyr Cymru’n helpu i gynyddu proffil Abertawe fel dinas sydd â digwyddiadau o safon uchel.”
Ynghyd â dychweliad y Red Arrows bydd perfformiadau cyntaf i awyren fôr Catalina a Thîm Rhyfel Mawr Bremont hefyd a fydd yn helpu i ddathlu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd yr ap, sydd bellach ar gael, yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a all godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
RAF Chinook
Mae hofrennydd milwrol sy’n gallu cael ei weithredu o’r tir neu ar long yn rhai o amgylcheddau mwyaf eithriadol y byd wedi’i ychwanegu at y rhestr o atyniadau ar gyfer Sioe Awyr Cymru.
Bydd Chinook yr Awyrlu Brenhinol ymysg nifer yr awyrennau a fydd yn perfformio yn nigwyddiad am ddim Cyngor Abertawe a gynhelir yn yr awyr uwchben Abertawe ddydd Sadwrn 30 Mehefin a dydd Sul 1 Gorffennaf.
Gydag uchafswm cyflymder o 160 notiau a chyfanswm uchder o 15,000 troedfedd, gall Chinook 30 metr o hyd gael ei weithredu yn yr Arctig, y jyngl neu’r anialwch. Mae gan ei le peilot y gallu i gael ei ddefnyddio yn ystod y nos pan fydd yn cael ei weithredu gyda gogls golwg nos, gan ganiatáu gweithrediadau gyda’r nos mewn amgylcheddau gelyniaethus.
Mae’r Chinook wedi bod yn gwasanaethu mewn gweithrediadau milwrol a dyngarol gyda’r Awyrlu Brenhinol ers y 1980au. Bu’n gweithredu yn Rhyfel y Falklands, yn Kosovo ac mewn dau Ryfel y Gwlff a gall gludo hyd at 55 o filwyr yn eu holl offer.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Gyda’r Sioe Awyr dim ond 7 wythnos i ffwrdd, mae’r cyffro wedi dechrau.
“Dyma un o’n prif ddigwyddiadau yn y calendr blynyddol o ddigwyddiadau a dyma’r digwyddiad am ddim gorau o’i fath yng Nghymru sy’n denu miloedd ar filoedd o wylwyr ledled de Cymru a thu hwnt, diolch i’r cyfuniad o arddangosiadau erobatig, awyrennau clasurol ac adloniant ar y tir.
“Yn ogystal â chreu penwythnos llawn busnes i’n masnachwyr, mae Sioe Awyr Cymru’n helpu i gynyddu proffil Abertawe fel dinas sydd â digwyddiadau o safon. Dyma un o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau niferus a gynhelir yr haf hwn fel rhan o’n rhaglen Joio Bae Abertawe.”
Mae’r Red Arrows, tim arddangos y Typhoon, y Catalina, Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain a Thîm Rhyfel Mawr Bremont wedi’u cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, gyda mwy o awyrennau i’w cadarnhau dros yr wythnosau nesaf.
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd yr ap, sydd bellach ar gael, yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a all godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
Awyren Fôr Catalina yn dod i Sioe Awyr Cymru
Bydd un o’r awyrennau môr enwocaf erioed yn dod i Sioe Awyr Cymru fis nesaf.
Bydd awyren fôr Catalina a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd yn dangos y rhesymau pam mai’r awyrennau hyn oedd y gweithwyr caled a oedd yn croesi’r moroedd, gan deithio pellterau helaeth mewn un hediad ac yn gallu glanio bron yn unrhyw le.
Bydd yr un sy’n ymweld â Sioe Awyr Cymru’n dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni. Bu’n gweithio ar ôl y rhyfel fel awyren ddŵr yn diffodd tanau coedwigoedd yng Nghanada cyn cael rôl newydd fel awyren arddangos.
Nid y Catalina oedd yr awyren gyflymaf i hedfan yn yr Ail Ryfel Byd gydag uchafswm cyflymder tua hanner yr hyn roedd y Spitfire yn gallu ei wneud, ond roedd hi’n gryf, yn ystwyth ac roedd ganddi amrediad o 2,500 o filltiroedd.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’r Sioe Awyr yn gyfle gwych i bobl weld hanes yr awyren ar waith.
“Gwelodd yr awyren fôr Catalina sy’n dod i Abertawe lawer o’r ymladd yn ystod diwrnodau caletaf yr Ail Ryfel Byd fel heliwr tanfor, gan hedfan o orllewin Canada dros rannau helaeth o’r Môr Tawel yn chwilio am longau’r gelyn i’w targedu gan ein dinistrwyr ar y tir.”
Mae Sioe Awyr Cymru eleni dros ddeuddydd ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf yn addo bod y gorau a’r mwyaf erioed a bydd yn cynnwys awyrennau o ddyddiau cynnar hedfan hyd at yr 21ain ganrif.
Gall y rhai sy’n dod i’r sioe ganfod mwy amdani drwy lawrlwytho ap Sioe Awyr Cymru ar Apple App Store a Google PLAY.
Dîm Rhyfel Mawr Bremont
Bydd blas ar Biggles a dewrder yn dod i Sioe Awyr Cymru am y tro cyntaf yr haf hwn pan fydd awyrennau Prydeinig ac Almaenig y Rhyfel Byd Cyntaf yn hedfan dros Abertawe.
Bydd atgynyrchiadau o ddwy awyren ddwbl Prydeining SE5 a fu’n hedfan dros feysydd brwydr Ffrainc a Gwlad Belg dros gan mlynedd yn ôl yn mynd wyneb yn wyneb ag atgynhyrchiad o awyren Junker CL1 Almaenig.
Bydd yr awyrennau, sy’n rhan o Dîm Rhyfel Mawr Bremont, yn ymddangos am y tro cyntaf yn Sioe Awyr Cymru ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf fe rhan o ddathliadau 100 mlynedd yr Awyrlu Brenhinol.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Roedd dros 5,200 o awyrennau SE5 yr Awyrlu Brenhinol wedi ymladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan adnabuwyd yr Awyrlu Brenhinol fel y Corfflu Hedfan Brenhinol.
“Hedfanwyd yr SE5 gan rai o archbeilotiaid y rhyfel, gan gynnwys Billy Bishop a Mick Mannock, a saethodd 133 o awyrennau’r Almaen i’r llawr rhyngddynt.
“Mae’n wych bod awyrennau hanesyddol fel yr SE5 a’r CL1 yn ein helpu i ddathlu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol ond hefyd 100 mlynedd ers diwedd y rhyfel.”
Mae Sioe Awyr Cymru eleni’n addo bod y mwyaf a’r gorau erioed yn dilyn digwyddiad y llynedd a wnaeth dorri pob record, gan ddenu 250,000 o ymwelwyr a chreu mwy nag £8 miliwn ar gyfer yr economi leol.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae’n anhygoel meddwl bod y Sioe Awyr gyntaf wedi denu 75,000 o ymwelwyr a bellach mae mor boblogaidd, mae’n ddigwyddiad blynyddol ac rydym yn denu bedair gwaith y nifer hwnnw o ymwelwyr erbyn hyn. Dyma’r digwyddiad mwyaf am ddim yng Nghymru, gan ddenu teuluoedd o Dde Cymru a gweddill y DU.”
Ar wahân i awyrennau’r Rhyfel Byd Cyntaf, bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain, Tîm Arddangos Awyr y Typhoon a’r Red Arrows poblogaidd i gyd yn dychwelyd.
Bydd llawer o atyniadau ar y ddaear hefyd, gan gynnwys stondinau masnach a fydd yn gwerthu pob math o gofroddion a nwyddau sy’n ymwneud ag awyrennau.
Mae mwy o wybodaeth am drefnu stondinau masnach yma: www.sioeawyrcymru.co.uk
Gall y rhai sy’n dod i’r sioe ganfod mwy amdani drwy lawrlwytho ap Sioe Awyr Cymru ar Apple App Store a Google PLAY.
- « Previous Page
- 1
- …
- 6
- 7
- 8
- 9
- 10
- …
- 15
- Next Page »