Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 6 and 7 July 2024

  • Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Sioe awyr wych yn denu torfeydd enfawr

Gorffennaf 2, 2023 By Chris Williams

Roedd Sioe Awyr Cymru Abertawe’n benwythnos gwych gyda channoedd ar filoedd o bobl yn mwynhau sioe awyr agored am ddim fwyaf y wlad.

Roedd ymwelwyr o bob rhan o’r DU wrth eu boddau gyda’r dau ddiwrnod o hedfan. Gwelodd y digwyddiad a drefnwyd gan y cyngor hefyd dorfeydd enfawr yn mwynhau gweithgareddau rhyngweithiol ar y ddaear.

Bydd Sioe Awyr Cymru’r flwyddyn nesaf, ar 6-7 Gorffennaf, yn cynnal digwyddiad partner newydd – ar y dydd Sadwrn bydd Abertawe’n cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2024.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Dyma un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau blynyddol Abertawe, ac roedd y sioe flynyddol yn llwyddiant ysgubol, gan barhau i gefnogi enw da’r ddinas fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr.

“Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd at yr economi leol a diolchwn i fusnesau a phreswylwyr lleol am eu hamynedd wrth i ni gau ffyrdd ac i’r holl fasnachwyr am eu cyfraniad.”

Talodd deyrnged i’r ymdrech a wnaed gan staff y cyngor, y gwasanaethau brys, noddwyr y sioe a phartneriaid eraill y cyngor a helpodd i sicrhau bod y digwyddiad yn un o safon i’r ddinas.

Bydd yn cynnwys arddangosfeydd milwrol, gorymdeithiau ac adloniant i ddathlu cyfraniad y rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, lluoedd y cadetiaid a gwirfoddolwyr.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Newidiadau dros dro i’r ffyrdd ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Mehefin 5, 2023 By Melanie Baker

Cyhoeddwyd amrywiaeth o newidiadau dros dro i’r ffyrdd i sicrhau y gall miloedd o bobl fwynhau Sioe Awyr Cymru eleni’n ddiogel.

Packed Beach

Mae’r newidiadau dros dro ar gyfer sioe 2023 yr un peth â’r rheini a oedd ar waith ar gyfer y digwyddiad hynod lwyddiannus yr haf diwethaf.

Byddant yn cynnwys ardaloedd glan môr ar hyd Oystermouth Road a Mumbles Road, a nifer o ffyrdd yn ardal Sandfields a Pantycelyn Road, Townhill. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.
Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin ac 11pm ar 4 Gorffennaf.

Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg a gellir cael mynediad i’r Marina, Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe o hyd. Rhoddwyd gwybod i unrhyw fusnesau a sefydliadau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.

Mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar benwythnos yn y ddinas y disgwylir iddo fod yn brysur. Mae trefniadau ar waith ar gyfer parcio a mynediad i wylwyr, gyda chyfleusterau fel parcio a theithio.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth.”
Gall pobl sydd â phryderon ynghylch mynediad neu broblemau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad dros ddau ddiwrnod y Sioe Awyr ffonio’r llinell gyswllt i breswylwyr a busnesau ar 01792 635428 rhwng 10am a 6.30pm. Ar gyfer ymholiadau eraill: special.events@abertawe.gov.uk – 01792 635428 (oriau swyddfa arferol).

Rhagor:
• Sioe Awyr Cymru, gan gynnwys newidiadau i’r ffyrdd: www.sioeawyrcymru.com
• Parcio a archebwyd ymlaen llaw: www.bit.ly/WA23parking
• Rhagor o wybodaeth: www.croesobaeabertawe.com/gwybodaeth-i-breswylwyr/
Sioe Awyr Cymru 2023 – mae newidiadau i’r ffyrdd yn cynnwys y canlynol:
O ganol dydd, ddydd Gwener 30 Mehefin
• Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau tua’r gorllewin yn unig – o gyffordd West Way i Brynmill Lane. Ni cheir mynediad at ffordd gerbydau Oystermouth Road tua’r dwyrain neu oddi wrthi ar y cyffyrdd â Bond Street, Beach Street a St Helen’s Road (y gyffordd sydd agosaf at far a bwyty Thai Bay View) yn ystod y cyfnod hwn.
• Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
Yna, o 5am ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf i 5am ddydd Llun 3 Gorffennaf
• Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau i’r ddau gyfeiriad o gyffordd West Way i Sketty Lane a bydd dargyfeiriadau ar waith ag arwyddion.
• Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
• Bydd mynediad i Argyle Street drwy ddilyn dargyfeiriad byr heibio’r Ganolfan Ddinesig.
• Bydd Pantycelyn Road ar gau (rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road) rhwng 8am a 7pm ddydd Sadwrn a dydd Sul
• Cynhelir mynediad i Brifysgol Abertawe a Brynmill Lane drwy Sketty Lane
Er diogelwch ac i helpu llif y traffig, sicrheir na fydd cerbydau’n parcio ar rai ffyrdd. Bydd hyn yn golygu cyfyngiadau parcio ar rai ffyrdd. Gofynnir i’r rheini yr effeithir arnynt oherwydd cau ffyrdd i symud eu cerbydau i leoliad arall.
Bydd cyfyngiadau parcio a pharth halio cerbyd ymaith o ganol dydd ar 30 Mehefin i 3 Gorffennaf ar y ffyrdd canlynol:
• dwy ochr Oystermouth Road/Mumbles Road yn ardal y Sioe Awyr – ewch i www.walesnationalairshow.com/cy/gwybodaeth-i-ymwelwyr/ffyrddargau am ragor o fanylion ac i weld map o ardal y Sioe Awyr;
• dwy ochr Bryn Road.
Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin i 11pm ar 4 Gorffennaf.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Yn dychwelyd eleni, Team Raven

Mai 4, 2023 By Melanie Baker

Yn dychwelyd eleni, mae Team Raven o dde Cymru, tîm arddangos erobateg patrymog sy’n hedfan awyrennau a adeiladwyd ganddynt hwy eu hunain, sydd wedi perfformio ar draws Ewrop.

Mae chwe pheilot hynod brofiadol y tîm hwn, a ffurfiwyd naw mlynedd yn ôl, yn hedfan awyrennau Vans RV-8 21 troedfedd o hyd, â chyflymdra uchaf o 220mya.

Ffoto: Team Raven

Cyhoeddwyd eisoes fod awyrennau bomio’r Spitfire, yr Hurricane a’r Lancaster yn ymddangos fel rhan o Hediad Coffa Brwydr Prydain, yn ogystal â ffefrynnau’r dorf, Red Arrows yr RAF a Thîm Arddangos Typhoon yr RAF.

Bydd llawer o awyrennau poblogaidd eraill i’w gweld hefyd a bydd amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear, gan gynnwys arddangosfeydd, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Rydym yn falch iawn fod Team Raven yn mynd i fod yn hedfan dros Abertawe eto’r haf hwn. Bydd yn wych eu cael yn ôl yn yr awyr uwchben Abertawe.”

“Rydym yn diolch i’r holl fasnachwyr a’n noddwyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe.

“Mae’r sioe bob amser yn creu awyrgylch teuluol go iawn sy’n arwain at benwythnos gwych i bawb sy’n rhan ohoni. Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol.”

Darganfyddwch beth sydd ar ddod yn Sioe Awyr Cymru eleni

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Sioe Awyr yn croesawu arwyr Brwydr Prydain

Ebrill 5, 2023 By Chris Williams

Bydd rhai o awyrennau mwyaf hanesyddol Prydain o gyfnod y rhyfel yn diddanu’r dorf yn ystod Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.

Bydd yr awyrennau byd enwog, y Spitfire a’r Hurricane yn ymuno ag awyren fomio’r Lancaster dros Fae Abertawe fel rhan o Hediad Coffa Brwydr Prydain (HCBP) yr RAF.

Ffoto: Martin Bowman

Dyma’r drydedd arddangosfa i’w chadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd am ddim a gynhelir dros Fae Abertawe ar 1 a 2 Gorffennaf.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf cyhoeddwyd y bydd y Red Arrows a Thîm Arddangos Typhoon yr RAF yn ymddangos ar ddau ddiwrnod y Sioe Awyr.

Bydd hefyd nifer o awyrennau poblogaidd eraill ac amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear, gan gynnwys arddangosiadau, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Rydym yn hapus iawn bod Hediad Coffa Brwydr Prydain yn hedfan dros Abertawe unwaith eto’r haf hwn.

“Rydym yn diolch i holl fasnachwyr a noddwyr y Sioe Awyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe. Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd i’n heconomi leol.”

Darganfyddwch beth sydd ar ddod yn Sioe Awyr Cymru eleni

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Mae e’ nôl! Mae’r Eurofighter Typhoon yn dod i Abertawe

Mawrth 10, 2023 By Chris Williams

RAF Typhoon Eurofighter

Disgwylir i Eurofighter Typhoon yr RAF ddiddanu’r dorf yn Sioe Awyr Cymru Abertawe yr haf hwn – am y tro cyntaf ers 2019 

Y llynedd, roedd y gynulleidfa wedi gweld eisiau’r jet, sy’n gallu hedfan bron ddwywaith cyflymder sain, felly mae Cyngor Abertawe wedi gwneud popeth posib i ddod â’r Typhoon yn ôl eleni.

Dyma’r ail berfformiwr enwog i’w gadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd hwn a gynhelir dros Fae Abertawe ar 1 a 2 Gorffennaf. Mae’r sioe flynyddol am ddim yn cael ei threfnu unwaith eto can y cyngor.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod disgwyl i’r Red Arrows ymweld ar y ddau ddiwrnod – yn ogystal â Thîm Arddangos y Typhoon.

Bydd hefyd lawer o berfformwyr eraill i’w gweld yn yr awyr a bydd amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Mae’r Typhoon yn denu llawer o bobl ac rydym yn gyffrous iawn ei fod yn dychwelyd i hedfan dros Abertawe eto.

“Mae’r Sioe Awyr yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i’n heconomi leol a diolchwn i fusnesau a phreswylwyr am eu hamynedd gyda’r trefniadau cau ffyrdd angenrheidiol – ac i’r holl fasnachwyr a’n noddwyr.”

Filed Under: Airshow News, Press Releases

  • 1
  • 2
  • 3
  • …
  • 9
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Sioe awyr wych yn denu torfeydd enfawr
  • Sioe Awyr Cymru 2023!
  • Mannau gwylio hygyrch ar gael
  • Newidiadau dros dro i’r ffyrdd ar gyfer Sioe Awyr Cymru
  • Yn dychwelyd eleni, Team Raven
https://www.youtube.com/watch?v=bqqhpH5CK6g

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 1 A 2 GORFFENNAF 2023!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=bqqhpH5CK6g

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2023 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo