Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 1 and 2 July 2023

  • Sioe Awyr Cymru
    • Mae Ap Swyddogol SAGC23 yma!
    • Wythnos y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Gwybodaeth i Rieni

Mae Sioe Awyr Cymru’n atyniad i’r teulu cyfan. Mae cyfleusterau ar gyfer teuluoedd yn cynnwys:

  • Cyfleusterau newid cewynnau
  • Bandiau arddwrn am ddim er mwyn dod o hyd i’ch plant bach
  • Cyfleusterau plant coll a gwybodaeth

Plant Coll
Os ydych yn colli plentyn neu am roi gwybod am broblem, chwiliwch am y stiward agosaf a fydd yn siarad yn uniongyrchol â’n tîm diogelwch a digwyddiadau dros y radio.

  • Eir â phob plentyn coll i Gyfleuster Plant Coll yn y mannau gwybodaeth. Bydd cyhoeddiadau rheolaidd dros y system sain a chaiff disgrifiad o unrhyw blentyn ei roi i bob stiward.
  • Os yw rhieni sy’n chwilio am blentyn yn cyrraedd y cyfleuster ac nid yw’r plentyn yno, dylent aros yno a rhoi disgrifiad cyffredinol o’r plentyn. Caiff hyn ei gyfleu i holl staff y digwyddiad dros y radio.

Bandiau arddwrn am ddim er mwyn dod o hyd i’ch plant bach

Gall colli plentyn – hyd yn oed am ychydig eiliadau – fod yn ofidus iawn a gall ein cynllun Bandiau Arddwrn i Blant Bach helpu i dawelu’ch meddwl a’ch galluogi i gael cymorth yn gyflym.

Rhif ffôn symudol ar fand arddwrn yw’r ffordd symlaf a chyflymaf o helpu plentyn sydd ar goll. Wrth gyrraedd y digwyddiad, gallwch gasglu band arddwrn yn ein mannau gwybodaeth, ar y safle parcio a theithio neu gan staff ein meysydd parcio. Ysgrifennwch rif ffôn symudol y rhieni ar gefn y band arddwrn cyn ei roi ar arddwrn y plentyn. Mae’r bandiau arddwrn hyn yn felyn llachar ac yn ddwrglos. Noddir y bandiau arddwrn gan Dawsons.

Mamau a Thadau
Dysgwch eich plentyn i beidio â chynhyrfu os caiff ei wahanu o’i rieni neu ei warcheidwad, ond i chwilio am y stiward agosaf a fydd yn gwisgo siaced gwelededd uchel/felyn llachar neu un o aelodau niferus o’r lluoedd arfog a fydd yno.

Cyngor ar Ddiogelwch Plant
Mae’n hawdd i sylw plant gael ei dynnu mewn mannau prysur. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dod o hyd i’w rhieni eto’n gyflym iawn, ond mae plentyn yn ddiamddiffyn pan fo ar goll, felly mae’n bwysig dysgu plentyn beth i’w wneud. Os ydych ar goll…

  • Sefwch yn yr unfan ac edrychwch o’ch cwmpas heb redeg
  • Os gwelwch y person roeddech gyda ef, ewch ato a chydio yn ei law
  • Os ydych ar goll, ewch at y stiward agosaf a fydd yn gwisgo siaced felen lachar neu lifrai’r lluoedd arfog
  • Peidiwch â mynd at unrhyw un arall

…ond y ffordd orau o helpu plentyn sydd ar goll yw ceisio atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf trwy:

  • Annog y plentyn i aros yn agos atoch
  • Defnyddio awenau neu ddolenni arddwrn
  • Ysgrifennu rhif cyswllt ar fand arddwrn y plentyn
  • Cario ffotograff diweddar
  • Nodi’r hyn mae’r plentyn yn ei wisgo

Cysylltwch a ni

News

  • Mae e’ nôl! Mae’r Eurofighter Typhoon yn dod i Abertawe
  • Mae’r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe
  • Sioe Awyr Cymru wych yn denu torfeydd enfawr i Abertawe
  • ‘The Tigers’ yn galw heibio Sioe Awyr Cymru 2022
  • Hediad Coffa Brwydr Prydain yn ymddangos yn Sioe Awyr Cymru 2022
https://youtu.be/6UmaqUYo32M

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 1 A 2 GORFFENNAF 2023!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=6UmaqUYo32M

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • Cymraeg
  • English

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2023 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo