Nid arddangosiadau acrobatig trawiadol yn yr awyr yn unig sy’n cael eu cynnig yn ystod Sioe Awyr Cymru, mae llawer o bethau difyr i deuluoedd ar y ddaear hefyd!
Mae llawer i’w weld ac i’w wneud, gan gynnwys efelychwyr hedfan, ffeiriau, atgynhyrchiadau o awyrennau ar y ddaear, cerbydau ac arddangosiadau’r lluoedd arfog a llawer mwy. Cofiwch, bydd digon o fwyd a diod ar gynnig hefyd!
Bydd yr arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am i 6pm ar y ddeuddydd , gyda’r awyrennau yn hedfan o 1pm ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf, a 12pm ddydd Sul, 2 Gorffennaf, gallwch gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi’r traffig a mwynhau’r arddangosiadau cyn i’r cyffro go iawn ddechrau yn yr awyr.
Cymerwch gip isod i weld yr hyn a oedd ar gael yn 2023, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn 2024!


Wrth i Sioe Awyr Cymru wella bob blwyddyn, mae’r arddangosiadau ar y ddaear yn gwneud yr un peth. Yn ogystal â’r ffaith y bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau a gweithgareddau gwych, bydd hyd yn oed mwy i’w weld a’i wneud ar Oystermouth Road hefyd. Bydd arddangosiadau ar y ddaear ar hyd y prom o’r Ganolfan Ddinesig i Brynmill Lane.

Lluniaeth
Bydd amrywiaeth o fwyd ar gael yn yr ardal arddangos ar y ddaear ger y Rec a’r Senotaff a hefyd ger y Ganolfan Ddinesig. Bydd te, coffi a diodydd meddal ar gael hefyd. Bydd yr amrywiaeth o fwyd sydd ar gael yn cynnwys tatws pob, cyri, byrgyrs, pysgod a sglodion, cig moch rhost a chrempogau, ynghyd â hufen iâ, toesenni, losin a chyffug.
Atgynhyrchiad o awyren hanesyddol

Dewch i weld atgynhyrchiad maint llawn o awyrennau Spitfire a Flea! Bydd cynrychiolwyr hyrwyddo hanesyddol ar gael i ddarparu sgyrsiau ac i gynnig ffeithiau a manylion am yr awyren wrth i chi archwilio rhai o awyrennau enwocaf hanes milwrol Prydain. Gallwch chi hefyd fynd y tu mewn i atgynhyrchiad y Chinook a’i archwilio.
Gwasanaethau Arfog
Bydd llawer mwy o bethau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau arfog i’w gweld a’u gwneud gan gynnwys y canlynol:
- Band Tywysog Cymru
- Cerbydau ymladd mawr
- Offer chwyddadwy
- Ôl-gerbydau gwybodaeth
- A llawer mwy
- Gallwch chi hefyd fynd y tu mewn i atgynhyrchiad y Typhoon a’i archwilio!
Dewch i fod yn rhan o’r cyffro gydag efelychwyr a phrofiadau rhithrealiti
Ydych chi erioed wedi eisiau’r profiad o sefyll ar gludydd awyrennau pan fydd y jetiau’n codi? Neu, beth am eistedd yn sedd peilot un o Red Arrows yr RAF?
Archwiliwch yr arddangosiadau ar y ddaear yn ystod Sioe Awyr Cymru er mwyn dod o hyd i’r profiadau rhithrealiti a’r efelychwyr hedfan hyn, yn ogystal â llawer mwy!
Arddangosiadau Cŵn Heddlu’r
Os nad yw gwylio’r awyrennau o’r prom yn ddigon, bydd gennych hefyd gyfle i gwrdd â llawer o’r timau arddangos ar y ddaear.
Cadetiaid Awyr
Bydd y Cadetiaid Awyr yn dychwelyd i Sioe Awyr Cymru gyda nifer o arddangosiadau rhyngweithiol sy’n arddangos y gweithgareddau difyr niferus maent yn eu gwneud fel cadetiaid y gwasanaethau milwrwol.
Cwrdd â’r Tîmau
Os nad yw gwylio’r awyrennau o’r promenâd yn ddigon, bydd gennych y cyfle i gwrdd â Thîm Raven, The Blades, Tîm Parasiwt y Tigers a pheirianwyr y Red Arrows, Chinook a Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain
Ffair Hwyl a Difyrion
Bydd y reidiau ffair a difyrion yn y Ganolfan Ddinesig ac ar Oystermouth Road, gan gynnwys efelychydd y Red Arrows, reidiau ar gyfer y rheini sy’n dwlu ar gyffro, reidiau i blant, weiren wib, gemau a difyrion trwy gydol benwythnos y Sioe Awyr, hwyl i’r holl deulu!
Adloniant Llwyfan

Bydd tair llwyfan i’r Sioe Awyr lle darperir cerddoriaeth fyw ac adloniant drwy’r dydd yn y lleoliadau canlynol:
- Y Cenotaph
- Ganolfan Ddinesig
Dydd Sadwrn – Llwyfan Adloniant – Y Senotaff | |
10:00 | Hwb Cerddoriaeth Abertawe – Rhestr Chwarae Bandiau Lleol |
11:00 | Welcome |
11:15 | Band Tywysog Cymru |
12:00 | Eleri |
13:10 | Adloniant i Blant |
13:25 | Araith gan Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Graham Thomas a’r Cynghorydd Hyrwyddwr dros y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Wendy Lewis |
13:30 | Band Tywysog Cymru |
14:15 | Adloniant i Blant |
14:30 | Kid Mercury 20 |
15:00 | Grack Mack and the Pack |
17:30 | Pariyah |
Dydd Sadwrn – Llwyfan Adloniant – Y Ganolfan Ddinesig | |
10:00 | Hwb Cerddoriaeth Abertawe – Rhestr Chwarae Bandiau Lleol |
11:00 | Welcome |
12:00 | Danny Sioned |
12:30 | Kayleigh Morgan |
13:15 | Will Thomas DJ |
15:00 | Molly Cheek |
15:50 | SA Collective |
17:30 | Local Rainbow |
Dydd Sul – Llwyfan Adloniant – Y Senotaff | |
10:00 | Hwb Cerddoriaeth Abertawe – Rhestr Chwarae Bandiau Lleol |
11:00 | Rock Choir |
11:30 | Margot Thirlwell |
12:20 | Joel Clark |
13:40 | Band Tywysog Cymru |
14:30 | Tarun Rathod |
15:00 | Hippie Jump |
15:30 | Liam J Edwards |
16:10 | Vanilla |
16.40 | Akimbo |
17:00 | Band Tywysog Cymru |
Dydd Sul – Llwyfan Adloniant – Y Ganolfan Ddinesig | |
10:00 | Hwb Cerddoriaeth Abertawe – Rhestr Chwarae Bandiau Lleol |
12:20 | Pay The Man |
13:40 | Morro Bay |
14:15 | Jackson Lucitt |
14:45 | Drunk Poets Society |
17:00 | Rebecca Hurn |