Ydych chi’n mynd i Sioe Awyr Cymru ac oes gennych gwestiynau i’w gofyn? Efallai eich bod yn byw’n lleol ac rydych am wybod beth sy’n digwydd. Gall yr adran Cwestiynau Cyffredin eich helpu.
Caiff rhagor o gwestiynau cyffredin eu hychwanegu yn nes at ddyddiad digwyddiad 2023.
Cwestiynau Cyffredin
Mae Sioe Awyr Cymru'n un o'r sioeau awyr mwyaf deniadol yn y DU a'r digwyddiad am ddim mwyaf yng Nghymru. Dros ddau ddiwrnod bob blwyddyn, mae ymwelwyr yn gweld arddangosiadau erobatig syfrdanol, awyrennau o'r radd flaenaf a llawer mwy!
Bae Abertawe yw lleoliad Sioe Awyr Cymru bob tro. Mae ehangder Bae Abertawe'n amffitheatr naturiol ar gyfer yr arddangosiadau, sy'n golygu ei fod yn lleoliad poblogaidd ymhlith y gynulleidfa a'r peilotiaid.
Nid oes angen tocynnau - mae Sioe Awyr Cymru am ddim!
Os nad yw eich cwestiwn wedi cael ei ateb uchod, e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk.