Yn 2019, daeth 250,000 o ymwelwyr i Abertawe i wylio’r arddangosiadau awyr anhygoel dros y bae. I helpu i wneud y sioe awyr yn fwy cynaliadwy, gofynnwyd i’r Tîm Ailgylchu am gyngor ac rydym wedi ystyried y ffactorau canlynol.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod y cynlluniau a’r mentrau a fydd ar waith er mwyn cadw’r Sioe Awyr mor wyrdd ac mor gynaliadwy â phosib yn 2020.
AILGYLCHU
- Mae’r rhan fwyaf o’r sbwriel a gesglir yn cael ei ddidoli â llaw yn ein safle byrnu i sicrhau bod y swm mwyaf posib o wastraff yn cael ei ailgylchu.
- Fel rhan o’r broses dendro, gofynnwyd i’r holl stondinau arlwyo ddefnyddio pecynnu wedi’i ailgylchu yn unig.
- Byddwn yn rhoi sachau ailgylchu i fasnachwyr, ynghyd â chyngor ar ddidoli gwastraff. Hefyd mae’r criwiau sbwriel yn patrolio’r stondinau ac yn casglu sachau ailgylchu, gan fynd â nhw’n ôl i fannau ailgylchu.
- Bydd dau brif fan ailgylchu yn y sioe awyr, gyda baneri enfawr ac arwyddion yn dangos eu lleoliad.
- Bydd aelodau o dîm ailgylchu‘r cyngor ar gael er mwyn eich helpu i roi’r sbwriel yn y biniau cywir.
- Gallwch ddod o hyd i’r mannau ailgylchu trwy edrych ar y byrddau gwybodaeth ar y safle, astudio’r map neu drwy ymweld â’r mannau gwybodaeth.
- Bydd casglwyr sbwriel yn patrolio ardal y prom a chaiff y sbwriel a gesglir ei ddidoli nes ymlaen er mwyn ei ailgylchu.
- Bydd gorsaf radio The Wave yn darlledu’n fyw o’r sioe awyr ac, yn ogystal â darparu’r sylwebaeth ar y safle, bydd yn hyrwyddo ailgylchu, rhannu ceir a’r safleoedd parcio a theithio.
RECOUP – Chwifio’r faner ailgylchu

Yn Sioe Awyr Cymru, gyda chymorth gwirfoddolwyr, bydd RECOUP yn casglu poteli diodydd plastig wedi’u defnyddio. Cadwch lygad am y mannau ailgylchu dynodedig. Gallwch hefyd ailgylchu yn stondin addysg Pledge2Recycle Plastics RECOUP. Bydd arbenigwyr ailgylchu plastigion ar gael yn y stondin i ateb eich holl gwestiynau am ailgylchu plastigion.
Bydd RECOUP yn anfon yr holl boteli diodydd plastig a gesglir o’r Sioe Awyr i’w troi’n boteli diodydd newydd. Bydd y poteli newydd ar y silffoedd unwaith eto o fewn 5-6 wythnos o’u casglu yn y sioe.
Disgwylir 250,000 o ymwelwyr yn y digwyddiad felly mae’n gyfle gwych i ddangos bod modd casglu ac ailgylchu plastig a rhoi bywyd newydd iddo.
Os hoffech fod yn rhan o hyn, gallwch wirfoddoli gyda RECOUP. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn helpu i gasglu sbwriel a byddwch yn casglu eitemau penodol o’r amgylchedd naturiol. Os oes gennych ddiddordeb, gallwch gofrestru yma.
Mae RECycling Of Used Plastics Limited (RECOUP) yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad nid er elw ar gyfer aelodau. Mae RECOUP yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i hyrwyddo, datblygu, ysgogi a chynyddu’r lefelau o blastig a ailgylchir yn y DU. Gallwch gael mwy o wybodaeth am waith gwych yr elusen yma.
MASNACH DEG A CHYNNYRCH LLEOL
Mae’r broses dendro ar gyfer arlwywyr yn rhoi blaenoriaeth i’r masnachwyr sy’n defnyddio cynnyrch Masnach Deg a chynnyrch lleol/Cymreig lle bynnag y bo modd.
TRAFFIG A PHARCIO
Mae cynllun rheoli traffig y digwyddiad yn annog pobl i ddefnyddio’r safleoedd parcio a theithio, rhannu ceir neu ddefnyddio dulliau eraill o gludiant lle bynnag y bo modd.
PLANNU COED
Mae’r cyngor yn plannu coed a llwyni ychwanegol ar draws y ddinas.
AWYRENNAU MILWROL
Mae’r awyrennau milwrol sy’n cymryd rhan yn yr arddangosiad yn gwneud hynny fel rhan o’u hyfforddiant arferol, oherwydd bod rhaid i beilotiaid gwblhau nifer penodol o oriau hedfan bob blwyddyn.
LLOGI OFFER
Gofynnir i’r holl gontractwyr gefnogi amcanion cynaladwyedd ein digwyddiad, sef:
- Darparu gwerth sylweddol i’r gymuned leol a’r gymuned ehangach o’r digwyddiadau
- Mwyafu effeithlonrwydd ynni wrth gyflwyno’r digwyddiadau
- Mwyafu’r gyfran o ynni o ffynonellau adnewyddadwy wrth gyflwyno’r digwyddiadau
- Annog lleihau, ailgylchu, ailddefnyddio ac adfer gwastraff y digwyddiadau
- Defnyddio a hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy lle bynnag y bo modd mewn digwyddiadau
This post is also available in: English