
Cynhelir Sioe Awyr Cymru, sef digwyddiad i deuluoedd am ddim mwyaf Cymru, ar 6 a 7 Gorffennaf 2024 dros Fae Abertawe.
Bydd Sioe Awyr Cymru eleni’n cynnwys arddangosiadau ar y ddaear, awyrennau llonydd, arddangosfeydd a sioe awyr ardderchog
Am fod rhagor o bobl yn dod i’r digwyddiad, ac i gynnal y digwyddiad yn ddiogel, bydd ardal y digwyddiad unwaith eto’n cynnwys rhan o Oystermouth Road a bydd angen cau nifer o ffyrdd i’n galluogi i wneud hyn.
Bydd gwybodaeth am drefniadau cau ffyrdd Sioe Awyr Cymru 2024 yn cael ei chadarnhau yn nes at ddyddiad digwyddiad 2024.