Cynhelir Sioe Awyr Cymru unwaith eto ym Mae Abertawe ddydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Gorffennaf 2024! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi yno.
Dros ddeuddydd, bydd rhai o’r peilotiaid a’r arddangosiadau hedfan gorau yn y byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i ddangos eu sgiliau trwy berfformio arddangosiadau aerobatig anhygoel. O jetiau i hofrenyddion i’r Red Arrows gwych, dyma ddau ddiwrnod na fyddwch am eu colli. Ac yn well byth – mae’r cyfan am ddim!
Nid yw’r holl gyffro’n digwydd yn yr awyr yn unig – bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau ar y ddaear, tryciau bwyd a diod blasus, profiadau rhithwirionedd, cerddorion a bandiau’n chwarae cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy!
Does dim syndod bod dros 200,000 o bobl yn dod i’r digwyddiad bob blwyddyn.
Bydd yr arddangosfeydd ar y ddaear ar agor rhwng 10am a 6pm ar y ddau ddiwrnod.
Cofiwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter i gael y newyddion a’r cyhoeddiadau diweddaraf cyn digwyddiad 2024.
Dyma gip ar yr arddangosiadau a oedd ar gael gennym yn 2023;
- RAF Red Arrows cefnogir gan DS Automobiles at FRF Motors Swansea – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Typhoon – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Battle of Britain Memorial Flight – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Team Raven – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Tigers Parachute Display Team – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Wildcat Helicopter – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- AeroSuperBatics Wing walkers – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Yak 50 – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Jet Pitts G-JPIT – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Norwegian Vampire – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Republic P-47 Thunderbolt – Dydd Sadwrn a Dydd Sul
- Harvard G-NWHF and Supermarine Seafire – Dydd Sadwrn
- Fairey Swordfish and Westland Wasp – Dydd Sul
- Strikemasters – Dydd Sadwrn a Dydd Sul