Dewch i fwynhau Sioe Awyr Cymru mewn ffordd hollol newydd wrth iddi ddychwelyd eleni gyda fformat newydd cyffrous.
Am y tro cyntaf bydd ymwelwyr sy’n dod i’r digwyddiad i wylwyr am ddim mwyaf yng Nghymru yn gallu mwynhau rhaglen newydd gyda’r hwyr yn ogystal â’r arddangosiadau yn ystod y dydd.
Mae Sioe Awyr Cymru gyda’r Hwyr yn ddigwyddiad newydd cyffrous sy’n addo cyfres o arddangosiadau awyr wrth i’r haul fachlud.
Bydd gwylwyr yn gallu mwynhau perfformiadau pyrotechnegol dramatig gan hofrennydd Otto, campau erobatig cyffrous gan y Firebirds yn ogystal â thân gwyllt.
Hefyd, diolch i Bassetts Motor Group, bydd rhu adnabyddus a gwrid ôl-losgwyr y Typhoon yn goleuo’r bae hefyd fel rhan o’r sioe.
Cynhelir y digwyddiad ar benwythnos cyntaf gwyliau haf yr ysgol, 25 a 26 Gorffennaf, fel bod gan bawb y cyfle i’w fwynhau.
Bydd Sioe Awyr Cymru gyda’r Hwyr yn gorffen gyda diweddglo arbennig sy’n cynnwys arddangosiad gan 200 drôn wedi’u cyfarwyddo a thân gwyllt.
Bydd arddangosiadau yn ystod y dydd yn cynnwys cymysgedd rhagorol o fanylder a sgiliau erobatig rhagorol sy’n dathlu treftadaeth ac arloesedd hedfan.
Disgwylir i awyrennau poblogaidd fel Tutor yr Awyrlu Brenhinol ddychwelyd yn ogystal ag arddangosiadau na welwyd uwchben Bae Abertawe o’r blaen, gan gynnwys y deuawd erobatig clós, Strikemaster Pair.
Daw hanes hedfan yn fyw gyda’r Spitfire a’r Hurricane enwog a oedd yn ganolog wrth amddiffyn awyr Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â’r Dakota, awyren cludiant sy’n adnabyddus am ei rôl mewn gweithrediadau rhyfel mawr gan gynnwys D-Day.
Yn ogystal â’r arddangosiadau yn yr awyr, bydd Sioe Awyr Cymru unwaith eto’n cynnig diwrnod mas gwych i’r holl deulu, gydag arddangosiadau milwrol ar y ddaear, cerddoriaeth fyw, ffair bleser, stondinau marchnad ac amrywiaeth eang o fwyd a diod yn creu awyrgylch bywiog ar lan y môr.
Ar gyfer y rhai sy’n chwilio am brofiad arbennig, bydd y Bwrdd Hedfan, a gyflwynir gan Faes Awyr Caerdydd Cymru, yn cynnig ardal wylio bwrpasol a seddi cyfforddus. Yn newydd ar gyfer eleni, bydd Lolfa’r Sioe Awyr yn darparu pecyn lletygarwch gydag arlwyaeth lawn.
Bydd y lolfa ar gael ar gyfer sesiynau yn ystod y dydd a chyda’r hwyr, a bydd rhaid cadw lle. Bydd tocynnau ar werth yn ystod yr wythnosau nesaf.
Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a Glanhau, “Mae Sioe Awyr Cymru’n ddigwyddiad blynyddol gwych ac os nad ydych erioed wedi gweld sioe hedfan gyda’r hwyr, mae’n rhaid i chi ddod oherwydd mae’n sicr o fod yn hwyl i’r holl deulu.
“Mae Sioe Awyr Cymru wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yn Abertawe ers dros ddegawd ac mae’r amser ychwanegol yn yr awyr yn rheswm arall i chi ymweld.”
Caiff manylion llawn yr atyniadau ar y ddaear ac amseroedd hedfan eu cyhoeddi yn agosach at y dyddiad. Ni fydd y Red Arrows yn bresennol eleni oherwydd mae’r tîm yn hedfan yn yr Unol Daleithiau fel rhan o’i ddathliadau i nodi 250 o flynyddoedd
Meddai Tracey McNulty, “Mae’n siomedig ni fydd y Red Arrows gyda ni y tro hwn gan fod eu hymrwymiadau tramor yn golygu na fyddant yn y DU drwy gydol mis Gorffennaf.
“Ond rydym yn optimistaidd y byddant yn dychwelyd i Abertawe’r flwyddyn nesaf oherwydd mae’r tîm bob tro’n dweud eu bod nhw’n dwlu ar y dorf yma a’r croeso cynnes a roddir gan y ddinas”.
Gyda mynediad am ddim a rhywbeth i bobl o bob oedran, mae’r digwyddiad yn parhau i fod yn gonglfaen yng nghalendr digwyddiadau’r haf yn Abertawe.
