Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 24 and 25 July 2027

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Sioe Awyr Cymru Gyda’r Hwyr
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr a Chefnogwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English
Rwyt ti yma:Home / Airshow News / Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Abertawe ar gyfer 2027

Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Abertawe ar gyfer 2027

Tachwedd 17, 2026 By Melanie Baker

Bydd Sioe Awyr Cymru wych yn dychwelyd i Abertawe ar 24 a 25 Gorffennaf 2027, gan ddod â deuddydd o arddangosiadau awyr syfrdanol ac adloniant i’r teulu i’r ddinas.

Mae’r sioe awyr arobryn, sydd wedi’i chydnabod fel digwyddiad rhad ac am ddim mwyaf Cymru, yn denu mwy na 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae wedi dod yn un o uchafbwyntiau’r haf, gan ddenu teuluoedd a’r rheini sy’n dwlu ar awyrennau o bob cwr o’r DU.

Mae’n dilyn llwyddiant sioe y llynedd, a ddaeth i ben gyda’r rhaglen Sioe Awyr Cymru Gyda’r Hwyr ysblennydd, a oedd yn cynnwys arddangosiadau hedfan gyda’r hwyr, dau gant o ddronau yn goleuo awyr y nos mewn arddangosfa syfrdanol a oedd yn dathlu diwylliant Cymru, a diweddglo tân gwyllt trawiadol. 

Gall ymwelwyr edrych ymlaen unwaith eto at benwythnos cyffrous a fydd yn cynnwys  amrywiaeth o awyrennau yn perfformio arddangosiadau ardderchog uwchben ehangder pum milltir hardd Bae Abertawe. Bydd y cyffro yn parhau ar y ddaear lle gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o atyniadau, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, adloniant i’r teulu, arddangoswyr, bwyd a diod, a reidiau ffair.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Williams, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddatblygu,

“Rydym yn falch iawn o gadarnhau y bydd Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd yn 2027. Mae’n un o brif nodweddion tymor yr haf ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr i Abertawe bob blwyddyn.

“O arddangosiadau awyr cyffrous i adloniant gwych i’r teulu ar y ddaear, mae Sioe Awyr Cymru’n cynnig profiad bythgofiadwy i bobl o bob oedran. 

“Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chroesawu pawb yn ôl i Abertawe am benwythnos bendigedig arall yn 2027.

“Mae ein timau eisoes yn gweithio ar eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf ac mae hynny’n cynnwys ystyried cynigion i’r hynod boblogaidd Sioe Awyr Cymru Gyda’r Hwyr ddychwelyd. Ac, wrth gwrs, bydd y Red Arrows yn cael gwahoddiad ar ôl iddynt golli sioe y llynedd oherwydd ymrwymiadau yn yr Unol Daleithiau.

“Rydyn ni’n gwybod faint y mae’r Red Arrows yn dwlu ar dorfeydd Abertawe, felly rydyn ni’n obeithiol y byddwn ni ar eu rhestr pan fyddant yn datgelu eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys y rhaglen hedfan lawn ac adloniant ychwanegol, yn cael eu cyhoeddi yn nes at y digwyddiad. I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch @sioeawyrcymru ar Facebook, @walesairshow ar Instagram.

Filed Under: Airshow News

Cysylltwch a ni

News

  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Abertawe ar gyfer 2027
  • Sioe Awyr Cymru’n cyflwyno penwythnos o adloniant ysblennydd
  • Newyddion Mawr! Sioe Awyr Cymru Gyda’r Hwyr
  • Mae Sioe Awyr Cymru’n ôl 25 a 26 Gorffennaf, 2026
  • Sioe Awyr Cymru: Penwythnos o hwyl i’r teulu a champau awyrol anhygoel
https://youtu.be/zWpNsrb5GBk

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 24 A 25 GORFFENNAF 2027!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://youtu.be/zWpNsrb5GBk?si=VYr7IqgVos-umv4C

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

www.croesobaeabertawe.com

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Cyngor Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2026 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo