Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 1 and 2 July 2023

  • Sioe Awyr Cymru
    • Mae Ap Swyddogol SAGC23 yma!
    • Wythnos y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Mae e’ nôl! Mae’r Eurofighter Typhoon yn dod i Abertawe

Mawrth 10, 2023 By Chris Williams

RAF Typhoon Eurofighter

Disgwylir i Eurofighter Typhoon yr RAF ddiddanu’r dorf yn Sioe Awyr Cymru Abertawe yr haf hwn – am y tro cyntaf ers 2019 

Y llynedd, roedd y gynulleidfa wedi gweld eisiau’r jet, sy’n gallu hedfan bron ddwywaith cyflymder sain, felly mae Cyngor Abertawe wedi gwneud popeth posib i ddod â’r Typhoon yn ôl eleni.

Dyma’r ail berfformiwr enwog i’w gadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd hwn a gynhelir dros Fae Abertawe ar 1 a 2 Gorffennaf. Mae’r sioe flynyddol am ddim yn cael ei threfnu unwaith eto can y cyngor.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod disgwyl i’r Red Arrows ymweld ar y ddau ddiwrnod – yn ogystal â Thîm Arddangos y Typhoon.

Bydd hefyd lawer o berfformwyr eraill i’w gweld yn yr awyr a bydd amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Mae’r Typhoon yn denu llawer o bobl ac rydym yn gyffrous iawn ei fod yn dychwelyd i hedfan dros Abertawe eto.

“Mae’r Sioe Awyr yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i’n heconomi leol a diolchwn i fusnesau a phreswylwyr am eu hamynedd gyda’r trefniadau cau ffyrdd angenrheidiol – ac i’r holl fasnachwyr a’n noddwyr.”

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Mae’r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe

Mawrth 2, 2023 By Chris Williams

Bydd tîm Red Arrows byd enwog yr RAF yn dychwelyd i Abertawe i ddiddanu’r dorf yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.

Dyma’r perfformwyr enwog cyntaf i’w cadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd hwn a gynhelir ar 1 a 2 Gorffennaf. Trefnir y sioe gan Gyngor Abertawe.

Disgwylir i’r Red Arrows berfformio ar y ddau ddiwrnod a bydd hefyd llu o berfformwyr eraill yn hedfan i’r awyr yn ogystal â digonedd o adloniant llawn hwyl ar y ddaear sy’n addas i’r teulu cyfan.

Roedd Sioe Awyr y llynedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yr atyniadau’n cynnwys y Red Arrows a Hediad Coffa Brwydr Prydain.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Rydym wrth ein boddau y bydd y Red Arrows yn perfformio ym Mae Abertawe unwaith eto.

“Maent yn atyniad enfawr ac yn helpu i ddangos pa mor bwysig yw ein Lluoedd Arfog. Mae’r sioe awyr yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i’n heconomi leol. Hoffwn ddiolch i fusnesau a phreswylwyr am eu hamynedd wrth i ni roi mesurau cau ffyrdd hanfodol ar waith, a hoffwn ddiolch i’r holl fasnachwyr am eu cyfraniad.

“Bydd penwythnos y Sioe Awyr yn un i’w gofio. Wrth i enw da Abertawe dyfu fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr, mae’r sioe hon yn bartner gwych i eraill fel IRONMAN 70.3 Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe sy’n dychwelyd.”

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Sioe Awyr Cymru wych yn denu torfeydd enfawr i Abertawe

Gorffennaf 3, 2022 By Chris Williams

Roedd Sioe Awyr Cymru Abertawe’n benwythnos gwych gyda channoedd ar filoedd o bobl yn mwynhau sioe am ddim fwyaf y wlad.

Roedd ymwelwyr o bob rhan o’r DU wrth eu boddau gyda’r dau ddiwrnod o hedfan yn cynnwys The Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain a nifer o arddangosiadau eraill.

Mwynhaodd torfeydd enfawr amrywiaeth eang o arddangosiadau a gweithgareddau ar y ddaear yn ogystal ag yn yr awyr.

Trefnwyd y digwyddiad gan y cyngor.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, “Roedd yn benwythnos arbennig yn Abertawe. Wrth i enw da ein dinas dyfu fel lleoliad o safon ar gyfer digwyddiadau mawr, roedd y Sioe Awyr flynyddol yn llwyddiant enfawr.

“Roedd y sioe hefyd yn gallu cynnal y rhan leol o Daith Gyfnewid Baton y Frenhines, gan ddathlu Gemau’r Gymanwlad sydd ar ddod yn Birmingham.”

Mae gan Abertawe amrywiaeth eang o ddigwyddiadau o safon a fydd yn cael eu cynnal eleni. Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com  

Filed Under: Airshow News, Press Releases, Uncategorized @cy

‘The Tigers’ yn galw heibio Sioe Awyr Cymru 2022

Mehefin 9, 2022 By Chris Williams

Bydd Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers yn perfformio ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Cymru 2022 – ond nid dyna’r cyfan!
Ddydd Sul 3 Gorffennaf byddant yn dechrau rhan Abertawe o Daith Gyfnewid Baton y Frenhines, gan barasiwtio gyda’r baton! Yna caiff y baton ei drosglwyddo ar gyfer gweddill y daith gyfnewid!

Cadarnhawyd y bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn ymweld ag Abertawe yn ystod ei thaith olaf cyn trosglwyddo i Loegr yr haf hwn, wrth i’r llwybr llawn gael ei ddatgelu.

Mae Birmingham 2022 yn cynnal 16eg Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn swyddogol – taith sy’n uno ac yn dathlu cymunedau ar draws y Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau.  Yng Nghymru, bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn darparu cyfle i gymunedau brofi’r cyffro ar gyfer Birmingham 2022, wrth i’r 11 o ddiwrnodau o chwaraeon poblogaidd agosáu. 

Bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn teithio trwy Gymru dros 5 niwrnod, cyn dychwelyd i Loegr a diweddu yn y Seremoni Agoriadol ar gyfer Birmingham 2022 ar 28 Gorffennaf 2022. Bydd y baton yn dechrau ar ei daith ddydd Mercher 29 Mehefin yn Ynys Môn yng ngogledd Cymru, ac yn teithio i lawr y wlad ac ar draws de Cymru, gydag uchafbwynt yn Abertawe ddydd Sul 3 Gorffennaf.

Mae amserlen brysur o weithgareddau a digwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer Taith Gyfnewid Baton y Frenhines, gyda chyfleodd i dynnu sylw at straeon nas adroddwyd gan gludwyr y baton sy’n ymdrechu i sicrhau newid yn eu cymunedau.

Disgwylir i Daith Gyfnewid Baton y Frenhines gyrraedd Abertawe ar 3 Gorffennaf yn ystod Sioe Awyr Cymru. Trefnir y Sioe Awyr gan Gyngor Abertawe ac fe’i cynhelir ar 2 a 3 Gorffennaf.

Mae’r amserlen weithgareddau arfaethedig ar gyfer cyrhaeddiad y baton ar 3 Gorffennaf yn Abertawe yn cynnwys:

  • Cyrraedd drwy ollyngiad barasiwt gyda Thîm Arddangos Parasiwt y Tigers – os yw’r tywydd yn caniatáu
  • Taith gyfnewid y baton yn mynd tua’r gorllewin ar hyd rhan fer o’r prom yna tua’r dwyrain ar hyd y traeth i ardal y Ganolfan Ddinesig.

Anogir aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan yn y dathliadau a chroesawu cyrhaeddiad y Baton, gan achub ar y cyfle i brofi cyffro Birmingham 2022 yn eu cymuned. Caiff gwefan Tîm Cymru ei diweddaru gyda gwybodaeth dros yr wythnosau nesaf, gyda manylion y digwyddiadau a ble i sefyll ar hyd y llwybr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Daith Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 i ymweld ag Abertawe

Cofiwch lawrlwytho ap swyddogol Sioe Awyr Cymru i gael yr holl newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad eleni!


Filed Under: Airshow News, Press Releases, Uncategorized @cy

Hediad Coffa Brwydr Prydain yn ymddangos yn Sioe Awyr Cymru 2022

Mai 30, 2022 By Chris Williams

Bydd tair o awyrennau eiconig yr Ail Ryfel Byd yn dod â hanes yn fyw yn ystod Sioe Awyr Cymru eleni.

Byddant yn hedfan dros Fae Abertawe ar 2 a 3 Gorffennaf, a bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain yn arddangos tair o ddyrnaid yn unig o awyrennau sy’n hedfan o hyd dros 70 mlynedd ar ôl iddynt hedfan yn ystod y rhyfel.

Ffoto: Martin Bowman

Bydd yr Avro Lancaster, un o ddwy awyren fomio Lancaster sy’n addas i hedfan o hyd, yn diddanu selogion awyrennau wrth iddi hedfan mewn trefniant gyda Supermarine Spitfire a Hawker Hurricane uwchben y torfeydd enfawr a fydd yn sefyll mewn rhesi ar hyd y bae dros y digwyddiad deuddydd hwn.

Mae’r digwyddiad am ddim a gynhelir gan Gyngor Abertawe eisoes wedi cyhoeddi y bydd Red Arrows yr RAF yn perfformio ar ddeuddydd Sioe Awyr Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Gellir dadlau mai Hediad Coffa Brwydr Prydain yw un o’r arddangosfeydd hedfan fwyaf hanesyddol ac atgofus yn hanes Prydain.

“Heb yr awyrennau hyn, y peilotiaid a’r criwiau a’r miloedd o bobl a oedd yn gweithio ar y ddaear a gefnogodd ein milwyr a’r awyrennau bomio a oedd yn amddiffyn Prydain, gallai ein hanes fod wedi bod yn wahanol iawn.

“Gallwn weld hanes yn dod yn fyw wrth eu gwylio’n hedfan yn yr awyr dros Fae Abertawe ac rydym yn falch o’u cael yma yn y ddinas.

“Bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain, ynghyd ag awyrennau modern, arddangosiadau awyr erobatig ac adloniant ar y ddaear, yn un o’r arddangosiadau niferus y gall pobl eu mwynhau yn ystod Sioe Awyr Cymru.”

Nod Hediad Coffa Brwydr Prydain, a gychwynnwyd ar 11 Gorffennaf 1957 yn Biggin Hill, yw cynnal a chadw’r awyrennau a fu’n amddiffyn Prydain yn yr Ail Ryfel Byd mewn cyflwr sy’n addas i hedfan i goffáu’r rheiny a laddwyd wrth wasanaethu’r wlad hon.

Dim ond dwy awyren fomio Lancaster sy’n addas i hedfan sydd ar ôl yn y byd allan o gyfanswm o 7,377 a adeiladwyd. Daeth y Lancaster PA474, a fydd yn hedfan yn Sioe Awyr Cymru, oddi ar y llinell gynhyrchu yn ffatri Vickers Armstrong Brychdyn ym Mhenarlâg ar 31 Mai, 1945 ac nid yw wedi cymryd rhan mewn unrhyw ryfela.

Daeth y Supermarine Spitfire, a oedd yn allweddol wrth drechu ymosodiadau awyr y Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain ym 1940, yn symbol o ryddid yn ystod y rhyfel ac ers hynny hi yw’r awyren ymladd Brydeinig enwocaf mewn hanes. Mae chwe Spitfire yn awyrendy Hediad Coffa Brwydr Prydain, allan o gyfanswm o 20,341 o awyrennau a adeiladwyd, mwy nag unrhyw awyren ymladd Brydeinig arall cyn neu ers yr Ail Ryfel Byd.

Ochr yn ochr â’r Spitfire, chwaraeodd yr Hawker Hurricane rôl hanfodol wrth amddiffyn Prydain mewn brwydrau gwyllt yn ystod haf 1940. Dinistriodd awyrennau Hurricane fwy o awyrennau’r gelyn yn ystod Brwydr Prydain na’r holl amddiffynfeydd awyr a thir eraill gyda’i gilydd. Mae Hediad Coffa Brwydr Prydain yn cynnal a chadw dwy o’r awyrennau ymladd anhygoel hyn: Hurricane LF363, y credir mai hon yw’r Hurricane olaf i fynd i wasanaeth yn yr RAF;  a Hurricane PZ865, yr Hurricane olaf i gael ei hadeiladu allan o gyfanswm o 14,533 o awyrennau.

Mae ffigurau’n dangos bod Sioe Awyr Cymru’n denu 250,000 o bobl yn rheolaidd ac amcangyfrifir ei bod yn werth mwy na £9 miliwn i’r economi leol.

Meddai’r Cynghorydd Francis-Davies, “Mae’r cyngor wrthi’n trefnu arddangosfeydd cyffrous ychwanegol dros yr wythnosau nesaf – ar y ddaear yn ogystal ag yn yr awyr. Bydd arddangosiadau cyffrous, awyrennau milwrol o’r radd flaenaf a hen awyrennau, wrth i ni geisio sicrhau bod Sioe Awyr Cymru 2022 yn well nag erioed!”

Darganfyddwch beth sydd ar ddod yn Sioe Awyr Cymru eleni

Filed Under: Airshow News, Press Releases

  • 1
  • 2
  • 3
  • …
  • 13
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Mae e’ nôl! Mae’r Eurofighter Typhoon yn dod i Abertawe
  • Mae’r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe
  • Sioe Awyr Cymru wych yn denu torfeydd enfawr i Abertawe
  • ‘The Tigers’ yn galw heibio Sioe Awyr Cymru 2022
  • Hediad Coffa Brwydr Prydain yn ymddangos yn Sioe Awyr Cymru 2022
https://youtu.be/6UmaqUYo32M

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 1 A 2 GORFFENNAF 2023!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=6UmaqUYo32M

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • Cymraeg
  • English

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2023 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo