Mae Cyngor Abertawe’n trefnu ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau arobryn sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r rhaglen ddigwyddiadau flynyddol hon yn dod â chymunedau ynghyd, yn helpu i gynnal busnesau lleol, yn darparu hwb ariannol sylweddol i’r economi leol ac yn hyrwyddo Abertawe fel lleoliad gwych i ymweld ag ef ac astudio, gweithio a byw ynddo.
Er mwyn sicrhau cynaladwyedd y rhaglen ddigwyddiadau flynyddol bwysig, rydym am weithio gyda busnesau a sefydliadau i sicrhau partneriaeth sy’n llesol i bob partner.
Gallwn gynnig amrywiaeth eang o becynnau partneriaeth unigryw a chyffrous er mwyn i frand eich busnes/sefydliad dderbyn y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu ac i’ch helpu i wireddu eich amcanion busnes.
Rydym yn cynnig pecynnau amrywiol ar gyfer pob cyllideb. Gellir eu teilwra i ddiwallu’ch gofynion a bod yn addas i’ch cwmni. Rydym hefyd yn chwilio am noddwyr a phartneriaid sy’n gallu darparu cefnogaeth ‘fewnol’ a rhoi gwerth ychwanegol i’n digwyddiadau. Os yw hyn yn apelio at eich amcanion busnes, gallwn drafod pecynnau sy’n cyfateb yn fwy i’r model hwn.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Os oes diddordeb gennych mewn darganfod sut gall ein rhaglen ddigwyddiadau gefnogi eich amcanion busnes neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y pecynnau rydym yn eu cynnig, cysylltwch â ni ar unwaith.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch Commercial@swansea.gov.uk