
I gefnogi cyflwyno Sioe Awyr Cymru yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau. Dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio a dilyn arwyddion dargyfeirio lleol. Diolch am eich amynedd.
Bydd y ffyrdd sydd ar gau eleni fel a ganlyn;
Cam 1
12 ganol dydd, dydd Gwener 24 Gorffennaf – 5am dydd Llun 27 Gorffennaf
- Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau tua’r gorllewin yn unig (o gyffordd West Way i Brynmill Lane)
- Yn ogystal â hyn, bydd DIM mynediad i’r ffordd gerbydau i’r dwyrain o Oystermouth Road a Bond Street, St Helens Road, Beach Street a Gorse Lane yn ystod y cyfnodau hyn.
- Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
Cam 2
8am dydd Sadwrn 25 Gorffennaf – 5am Dydd Llun 27 Gorffennaf
- Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau i’r ddau gyfeiriad. (o gyffordd West Way i Sketty Lane).
- Bydd dargyfeiriadau ar waith
- Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
- Bydd mynediad i Stryd Argyle drwy ddilyn dargyfeiriad byr heibio’r Ganolfan Ddinesig.
- Pantycelyn Road (rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road) a Nicander Parade (rhwng Llewelyn Circle a Creidiol Road) rhwng 8am a 7pm ar y ddau ddiwrnod.
Cau ffyrdd ychwanegol
6am dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf – 5am dydd Llun, 27 Gorffennaf
Guildhall Road South ar gau o’i chyffordd â Francis Street i Oystermouth Road.
Am resymau diogelwch ac i helpu symudiad traffig yn yr ardal, bydd yn rhaid i ni sicrhau nad yw cerbydau’n parcio ar rai ffyrdd. Er mwyn gallu sicrhau hyn, bydd cyfyngiadau parcio ar y ffyrdd hyn a chaiff cerbydau sydd wedi’u parcio ar y ffyrdd a ddangosir isod eu halio ymaith. Os bydd cau’r ffyrdd hyn yn effeithio arnoch, gofynnwn yn garedig i chi symud eich cerbyd i leoliad arall.
Bydd cyfyngiadau parcio a pharth halio ymaith o 12 ganol dydd dydd Gwener, 24 Gorffennaf tan 5am ddydd Llun, 27 Gorffennaf ar:
- Ddwy ochr Oystermouth Road/Mumbles Road
- Dwy ochr Bryn Road
- Mansel Street tua’r gorllewin
Ni chaiff beicwyr fynd ar hyd Promenâd Abertawe, o’r Ganolfan Ddinesig i Sketty Lane, rhwng 7am dydd Iau, 23 Gorffennaf a 11pm nos Fawrth, 28 Gorffennaf.
Hoffem eich sicrhau y cynhelir mynediad i gerbydau brys ar bob adeg. Os bydd gennych unrhyw bryderon neu broblemau yn ystod penwythnos y digwyddiadau, gallwch ffonio’n Llinell Gyswllt ar gyfer Preswylwyr a Busnesau ar 01792 635428 ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul o 10am i 6.30pm.
Fel y gwyddoch, bydd digwyddiadau mawr o’r math hwn, er eu bod yn hynod bwysig i’r ddinas, yn anffodus yn tarfu rhywfaint ar y gweithgareddau beunyddiol arferol. Hoffem ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi i chi, a diolch i chi unwaith eto am eich cydweithrediad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch special.events@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635428 (yn ystod oriau swyddfa arferol).
