Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

A Record Breaking Year

Gorffennaf 15, 2016 By Chris Williams

Wow, what an incredible 2 days the 2016 Airshow was. Now who wants the good news?

Firstly, it’s a record! We officially have a record attendance of over 200,000 visitors for the weekend. Thank you all for your support, the event wouldn’t be the same without you.

Also, BIG NEWS – we can confirm that the Wales National Airshow will RETURN next year on the weekend of 1 & 2 July 2017!

Thank you everyone for coming, have a safe journey home!

Filed Under: Airshow News

Sioe Awyr Cymru – Gwybodaeth Allweddol

Mehefin 29, 2016 By Chris Williams

Ymhen ychydig ddyddiau bydd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe ar 2 a 3 Gorffennaf! Dyma beth o’r wybodaeth allweddol y bydd ei hangen arnoch er mwyn mwynhau prif ddigwyddiad am ddim Cymru.

WNAS16 Display TimesAmserau arddangos ar 2 a 3 Gorffennaf

Ddydd Iau (30 Mehefin) ceir rhestr gynhwysfawr o amserau arddangos yn adran “Amserau Arddangos” ein AP.

Llunnir yr AP ar eich cyfer i fod yn rhaglen rithwir ddefnyddiol; drwy brynu’r ap byddwch hefyd yn helpu i gefnogi’r digwyddiad AM DDIM bendigedig hwn. Er mwyn adnewyddu’r amserlen, tynnwch y sgrîn i lawr gyda’ch bys bawd.

LAWRLWYTHWCH YR AP

Faint o’r gloch bydd pethau’n dechrau?

Dydd Sadwrn:

  • Arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am tan 6pm
  • Mae’r arddangosiadau awyr yn dechrau am 13.05pm. Er hyn rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd cyn hyn i sicrhau eich bod mewn man da i weld yr arddangosiad cyntaf.
  • Bydd arddangosiad y Red Arrows am 16:30

Dydd Sul

  • Arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am tan 6pm
  • Mae’r arddangosiadau awyr yn dechrau am 13.00pm. Er hyn rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd cyn hyn i sicrhau eich bod mewn man da i weld yr arddangosiad cyntaf.
  • Bydd arddangosiad y Red Arrows am 15:20

Parcio Premiwm

Cadwch eich lle Parcio Premiwm ym maes parcio’r Rec er mwyn hwyluso’r parcio ar y diwrnod.

ARCHEBWCH NAWR

Download the APP

Filed Under: Airshow News, Newyddion

Y Red Arrows – Amseroedd

Mehefin 23, 2016 By Chris Williams

when-reds-times-feature

Rydym newydd ddiweddaru’r ap gydag amserau arddangos y Red Arrows yn #SAGC16!

Ddoe gwnaethom ychwanegu i’r adran gwybodaeth am y timau, y dyddiau y bydd pob tîm yn arddangos yn Abertawe.

Dydd Iau 30 Mehefin bydd rhestr gynhwysfawr o’r amserau arddangos yn ymddangos yn yr adran “Amserau Arddangos.”

Bydd hyn yn cael ei ddiweddaru ar y pryd os ceir newidiadau oherwydd amodau tywydd neu ffactorau eraill.

Lawrlwythwch Yr Ap

Filed Under: Newyddion

Trît Brwydr Prydain ar gyfer cefnogwyr y sioe awyr

Mehefin 20, 2016 By Chris Williams

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yn llenwi’r awyr uwchben y ddinas fel rhan o ddigwyddiad mwyaf yr haf.

Bydd Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yn cynnwys y Lancaster, y Spitfire a’r Hurricane. Mae’r awyrennau a fydd yn hedfan o RAF Coningsby yn Swydd Lincoln, yn aml i’w gweld yn ystod achlysuron a digwyddiadau sy’n coffáu’r Ail Ryfel Byd.

Cynhelir Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni, mewn cydweithrediad â Trade Centre Wales, ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.

Hefyd wedi’u cadarnhau ar gyfer y Sioe Awyr yw tîm arddangos hofrenydd Black Cats y Llynges Frenhinol a Sally B – y B-17 olaf sy’n medru hedfan yn Ewrop. Defnyddiwyd Sally B yn y ffilm Memphis Belle ym 1990 gyda Matthew Modine, Eric Stoltz a Harry Connick Jr yn serennu ynddi.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’r rhestr o berfformwyr ar gyfer sioe awyr yr haf hwn yn golygu y bydd yn ddigwyddiad heb ei ail eto.

“Mae’r cyfuniad o awyrennau modern ar flaen y gad a’r arddangosiadau hanesyddol megis Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain a Sally B yn siŵr o wefreiddio’r miloedd o wylwyr yn ystod beth sy’n parhau i fod y digwyddiad am ddim gorau o’i fath yng Nghymru.

“Mae’r Sioe Awyr Genedlaethol, sy’n creu miliynau o bunnoedd ar gyfer yr economi leol, yn newyddion gwych ar gyfer pobl a busnesau lleol, yn ogystal ag ymwelwyr ag Abertawe. Mae’n enghraifft ardderchog o sut yr ydym yn sicrhau ein bod ni’n parhau i fanteisio ar leoliad byd-enwog, arfordirol Abertawe drwy drefnu digwyddiadau o’r safon uchaf.”

Cadarnhawyd bellach bob awyren ar gyfer y sioe awyr. Mae arddangosiadau eraill a fydd yn codi i’r awyr yn cynnwys MiG-15, Breitling Wingwalkers, tîm parasiwt y Tigers, y Red Arrows, yr Eurofighter Typhoon, tîm Bronco Demo, Team Yakovlevs, Gerald Cooper a Team Raven.

Cyhoeddir manylion adloniant ar y tir yr wythnos nesaf.

Mae nodweddion yn cynnwys amserlen ddynamig o arddangosiadau a fydd yn cael ei diweddaru ar ddiwrnodau’r sioe awyr, y newyddion diwethaf, gwybodaeth am awyrennau ac arddangosiadau ar y tir, dolenni i ddigwyddiadau eraill a gwestai, yn ogystal â manylion disgowntiau arbennig ym mwytai Abertawe a digwyddiadau eraill.

Mae is-adran disgowntiau arbennig yn cynnwys sawl taleb y gellir eu defnyddio mewn nifer o westai, bwytai ac atyniadau o amgylch Abertawe. Wrth brynu’r ap, bydd gwylwyr hefyd yn helpu i gynnal y sioe awyr yn flynyddol.

Mae lleoedd ym meysydd parcio canol y ddinas yn llanw’n gyflym oherwydd poblogrwydd y digwyddiad, felly mae yn bosib erbyn hyn gadw lle parcio premiwm ar y Rec hefyd. Gellir parcio trwy’r dydd am £16.50 y car. Mae maes parcio’r Rec, sydd ar agor o 9am i 7pm ar ddau ddiwrnod y sioe awyr, ger y brif ardal arddangosiadau tir.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Diweddariad arddangos!

Mehefin 20, 2016 By Chris Williams

Ddydd Mercher byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy’r ap am ba dimau arddangos fydd yn Abertawe ar bob diwrnod o #SAGC16. Gallwch brynu’r ap ar ffonau IOS, Android a Windows.

Bydd amserlen arddangosiadau awyr Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni ar gael drwy’r ap Sioe Awyr newydd! Dyma’r UNIG le i gael mynediad i’r amserau arddangos pan gânt eu rhyddhau ar 30 Mehefin.

5 Rheswm Allweddol dros lawrlwytho’r ap

WNAS16 Display Times
[Rhai o’r busnesau y byddwch yn cael talebau ar eu cyfer yn yr ap SAGC16.]
1. BYDDWCH YN DERBYN Y DIWEDDARAF AM YR AMSERLEN AMSERAU ARDDANGOS MEWN AMSER GO IAWN – Cewch wybod ba arddangosiadau y cynhelir a phryd. Caiff yr amserlen ei diweddaru mewn amser go iawn gan roi’r newyddion diweddaraf i chi am unrhyw newidiadau a wnaed i’r amserlen ar y diwrnod.

2. ARBED ARIAN GYDAG AMRYWIAETH O DALEBAU GOSTYNGIADAU – Gallwch gael llawer o dalebau gostyngiadau gwych i’w defnyddio mewn nifer o fusnesau de Cymru o 1 Mai tan 31 Gorffennaf. (e.e. Nandos Abertawe, Gwesty’r Dragon, Marriott Abertawe, Tenis a Sboncen Abertawe ymysg eraill)

offers
[Some of businesses you’ll find vouchers for in the WNAS16 APP.]

3. BYDDWCH YN DERBYN Y NEWYDDION DIWEDDARAF – Y newyddion diweddaraf am y Sioe Awyr ar yr ap hwn yn unig drwy hysbysiadau uniongyrchol. Byddwn yn rhyddhau peth gwybodaeth allweddol am y Red Arrows a’r Typhoon yn ystod y cyfnod cyn rhyddhau’r amserlen lawn.

Team Bios4. GWYBODAETH DDEFNYDDIOL AM Y TIMAU – Arweiniad defnyddiol am yr holl dimau arddangos i’w gadw yn eich poced.

5. BYDDWCH YN HELPU I GEFNOGI SIOE AWYR GENEDLAETHOL CYMRU – Trwy brynu’r ap am ffi fechan byddwch yn helpu i gynnal y digwyddiad gwych hwn ym Mae Abertawe yn flynyddol.

LAWRLWYTHWCH YR AP NAWR

Filed Under: Airshow News, Press Releases

  • « Previous Page
  • 1
  • …
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo