Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg

Mae bron â chyrraedd!

Mehefin 29, 2018 By Chris Williams

Mae bron â chyrraedd! Mae Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe’r penwythnos hwn

Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl nes bod Sioe Awyr flynyddol Cymru a gyflwynir i chi gan Gyngor Abertawe’n dychwelyd i Fae Abertawe.

Mae gennym yr holl wybodaeth rydych ei hangen i drefnu’ch ymweliad â’r hyn sy’n datblygu’n gyflym i fod yn hoff ddigwyddiad AM DDIM Cymru!

Mae tîm cyfan Cyngor Abertawe’n gobeithio y byddwch yn joio‘r sioe wych.

Lawrlwythwch yr ap

Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru am 10am ar 27 Mehefin a bydd yn cael ei diweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill. Rhaglen rithiwr ar flaenau eich bysedd! Noddir yr ap eleni gan Home from Home Holiday Cottages.

Os prynoch chi’r ap yn 2016 neu 2017, newyddion da.. byddwch yn cael ap eleni fel diweddariad AM DDIM! Ar gyfer y rheiny sy’n prynu’r ap am y tro cyntaf, bydd yn costio £1.99 yn unig

Prynwch yr AP heddiw >

Amserau allweddol

Bydd safle Sioe Awyr Cymru’n agor am 10am ac yn cau am 6pm. Mae’r arddangosiadau awyr cyntaf yn dechrau am 12.30pm ddydd Sadwrn a 12:00pm ddydd Sul.

Bydd y Red Arrows yn dod a’r diwrnod cyntaf i ben am 17.15pm ddydd Sadwrn a bydd yn dechrau arddangosiadau’r ail ddiwrnod ddydd Sul am 12.00pm.

Lawrlwythwch ein ap i weld amserlen lawn yr arddangosiadau

Cadw lle parcio

Mae amrywiaeth o feysydd parcio wedi’u paratoi ar gyfer y digwyddiad er mwyn helpu i wneud eich profiad yn un pleserus.

Mae’r meysydd parcio sydd ar gael yn seiliedig ar eu pellter o’r digwyddiad. Mae hefyd wasanaeth parcio a theithio dynodedig newydd sbon.

Cadw lle parcio nawr>

Cau ffyrdd

Er mwyn derbyn y niferoedd cynyddol o ymwelwyr ac er mwyn rhoi mwy o le i ddigwyddiadau ar y tir, byddwn yn ymestyn y digwyddiad i Heol Ystumllwynarth. O ganlyniad, bydd angen cau rhan o Heol Ystumllwynarth dros y penwythnos gan ddechrau ddydd Gwener, 29 Mehefin, er mwyn rhoi digon o amser i arddangoswyr osod popeth cyn dechrau’r sioe’r diwrnod canlynol.

Gallwch weld yr wybodaeth lawn am y ffyrdd sydd ar gau yma >

Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru!

Ystyried mynd â’ch profiad o Sioe Awyr Cymru 2018 i’r lefel nesaf? Beth am wella’ch profiad a threulio’ch diwrnod ar Fwrdd Hedfan arbennig Sioe Awyr Cymru!

Mwy o wybodaeth am y Bwrdd Hedfan!>

 

 

Filed Under: Airshow News, Newyddion

Ap Sioe Awyr 2017 ar gael i’w lawrlwytho

Mai 2, 2017 By Chris Williams

Mae ap swyddogol Sioe Awyr Cymru bellach ar gael i’w lawrlwytho.

Bydd trefn yr arddangosiadau yn y sioe awyr yn cael ei lanlwytho i’r ap rai dyddiau cyn y digwyddiad am ddim a gynhelir yn Abertawe ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.

Bydd yr ap hefyd yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.

Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am yr ap a’r sioe awyr, a Phrifysgol Abertawe yw’r noddwr allweddol eleni.

Ymysg yr awyrennau sydd wedi’u cadarnhau hyd yn hyn mae’r Red Arrows, tîm arddangos Typhoon, y Sea Vixen a Hediad Coffa Brwydr Prydain.

Mae’r ap, sy’n cael ei noddi gan Westy Bae Oxwich ac yn cynnwys talebau gostyngiadau, ar gael i’w lawrlwytho o’r App Store a Google Play am £1.99.

Bydd diweddariadau am ddim i bobl a brynodd yr ap ar gyfer sioe awyr y llynedd.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe dros Dwristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Defnyddiwyd yr ap dros 70,000 o weithiau yn ystod digwyddiad y llynedd felly mae’r poblogrwydd hwn, ynghyd â’r adborth cadarnhaol rydym wedi’i dderbyn, wedi ein hannog i’w ailgyflwyno ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2017.

“Dyma’r unig le y gall pobl weld yr amserau arddangos, gyda diweddariadau am ddim i’r rheiny a brynodd yr ap y llynedd. Codir tâl i brynu’r ap am y tro cyntaf, ond mae hyn yn helpu i gefnogi’r ffrydiau incwm ar gyfer y digwyddiad i sicrhau ei fod yn gynaliadwy am flynyddoedd i ddod.

“Gyda chynigion arbennig gan fusnesau lleol a llawer o wybodaeth arall, bydd yr ap yn arweiniad cludadwy, defnyddiol dros ben i’r cannoedd ar filoedd o ymwelwyr rydym yn eu disgwyl eto yn y digwyddiad am ddim hwn sydd o safon ryngwladol.

“Bydd llawer o awyrennau eraill a manylion adloniant ar y tir yn cael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf wrth i ni barhau i wneud cynnydd ar drefnu digwyddiad sy’n werth dros £1m i economi Abertawe.”

Mae’r ap hefyd yn cynnwys gwybodaeth am leoedd i aros, pethau i’w gwneud a lleoedd i fwyta ac yfed, yn ogystal â dolenni iddynt. Mae nodweddion eraill yn cynnwys bywgraffiadau’r timau arddangos.

Filed Under: Airshow News, Newyddion, Press Releases

Arddangosfa Typhoon wedi’i chadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Mawrth 29, 2017 By Chris Williams

Mae’r tîm arddangos wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.

Yr awyr-lefftenant, Ryan Lawton, o RAF Coningsby fydd peilot arddangosfeydd y Typhoon eleni.

Yn ôl y ffigurau, mae Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, werth miliynau o bunnoedd i’r economi leol, gan helpu i ddenu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i lan y môr a nifer o leoliadau eraill ar draws y ddinas.

Prifysgol Abertawe fydd prif noddwr y digwyddiad eleni ac mae’r Red Arrows hefyd wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod tîm arddangos rhagorol arall wedi cadarnhau y bydd yn cymryd rhan yn y Sioe Awyr yn ystod yr haf, gan sicrhau ein bod ni’n cyflawni’n nod o greu digwyddiad sy’n parhau i fodloni disgwyliadau pobl bob blwyddyn.

“Wrth i’r cyngor barhau i weithio ar drefniadau’r digwyddiad y tu ôl i’r llenni, gall preswylwyr ac ymwelwyr ddisgwyl mwy o berfformwyr yn cadarnhau eu lle dros yr wythnosau nesaf.

“Yn ogystal ag arddangosfeydd awyr, bydd adloniant ar y tir hefyd yn rhan o’r digwyddiad, a gaiff ei gynnal yr haf hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol.”

Gydag uchafswm cyflymder o dros 1,300mya, mae’r Typhoon yn gallu cyrraedd uchder o 55,000 troedfedd. Mae’r awyren oddeutu 16 metr o hyd ac mae lled ei hadenydd yn mesur dros 11 metr.

Filed Under: Airshow News, Newyddion, Press Releases

Prifysgol Abertawe i noddi Sioe Awyr Cymru

Mawrth 16, 2017 By Chris Williams

Cynhelir y digwyddiad, sydd wedi’i drefnu gan Gyngor Abertawe, ddydd Sadwrn a dydd Sul, 1 a 2 Gorffennaf.

Cynhaliwyd y Sioe Awyr gyntaf yn 2007, a dyma fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i Sioe Awyr Cymru gael ei chynnal yn Abertawe.

Y llynedd, roedd y digwyddiad hwn yn rhan o raglen ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe, gan ddenu dros 200,000 o wylwyr. Yn ogystal â gwylio’r Sioe Awyr o’r promenâd, roedd llawer o bobl wedi’i gwylio o ganol y ddinas, yn y Mwmbwls ac mewn nifer o leoliadau eraill ar draws y ddinas.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Rydym yn falch o groesawu Prifysgol Abertawe fel prif noddwr Sioe Awyr Cymru ar gyfer 2017.

“Bu Prifysgol Abertawe’n rhan o’r Sioe Awyr yn y gorffennol, gan noddi’r Red Arrows yn y digwyddiad, felly mae ei chael hi fel prif noddwr Sioe Awyr Cymru 2017 yn cryfhau partneriaeth y digwyddiad sydd eisoes wedi’i sefydlu.

“Fel bob amser, ein nod yw gwneud Sioe Awyr Cymru mor llwyddiannus a chofiadwy â phosib i’r miloedd o bobl leol, ymwelwyr â’r ddinas a’n noddwyr.

“Yn 2015, dywedom y byddem yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud y Sioe Awyr yn ddigwyddiad blynyddol yn Abertawe er budd preswylwyr a busnesau. Mae cynnal y Sioe Awyr am y drydedd flwyddyn yn olynol yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni’r addewid honno.”

Meddai’r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, “Dylai rhanbarth Abertawe gyfan fod yn falch bod Prifysgol Abertawe wedi’i henwi y Brifysgol Orau yng Nghymru a Phrifysgol Cymru’r flwyddyn yng Nghanllaw Prifysgolion 2017 y Times a gyhoeddir gan bapurau newydd y Times a’r Sunday Times. Fel rhan o’n dathliadau, rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â’m ffrindiau yng Nghyngor Abertawe i gefnogi Sioe Awyr Cymru.

“Mae ein Hadran Peirianneg Awyrofod yn cael ei chydnabod fel un o’r 200 orau yn y byd a’r seithfed gorau yn y DU, gyda nifer o’n staff a’n myfyrwyr academaidd yn gweithio ar brosiectau gyda chwmnïau mawr megis Rolls Royce ac Airbus, yn ogystal â’r car Bloodhound a fydd yn debygol o dorri’r record cyflymder tir eleni. Rydym yn eich annog i ddod ac ymweld â’n cyfleusterau rhagorol sydd ar gynnig yng nghampws Singleton a’r Bae, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i’n diwrnodau agored ar 17 Mehefin, 14 Hydref a 28 Hydref.

Roedd rhai o’r awyrennau a gymerodd ran yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru y llynedd yn cynnwys y Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain a MiG Rwsiaidd o’r Rhyfel Oer. Bydd manylion yr awyrennau a fydd yn cymryd rhan yn nigwyddiad eleni’n cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Mae pecynnau cynnar ar gael o hyd i fusnesau a sefydliadau sydd am fod yn rhan o Sioe Awyr yr haf hwn. E-bostiwch mags.pullen@swansea.gov.uk am fwy o wybodaeth, neu ffoniwch 01792 635102.

Filed Under: Airshow News, Newyddion, Press Releases

Sioe Awyr Cymru – Gwybodaeth Allweddol

Mehefin 29, 2016 By Chris Williams

Ymhen ychydig ddyddiau bydd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe ar 2 a 3 Gorffennaf! Dyma beth o’r wybodaeth allweddol y bydd ei hangen arnoch er mwyn mwynhau prif ddigwyddiad am ddim Cymru.

WNAS16 Display TimesAmserau arddangos ar 2 a 3 Gorffennaf

Ddydd Iau (30 Mehefin) ceir rhestr gynhwysfawr o amserau arddangos yn adran “Amserau Arddangos” ein AP.

Llunnir yr AP ar eich cyfer i fod yn rhaglen rithwir ddefnyddiol; drwy brynu’r ap byddwch hefyd yn helpu i gefnogi’r digwyddiad AM DDIM bendigedig hwn. Er mwyn adnewyddu’r amserlen, tynnwch y sgrîn i lawr gyda’ch bys bawd.

LAWRLWYTHWCH YR AP

Faint o’r gloch bydd pethau’n dechrau?

Dydd Sadwrn:

  • Arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am tan 6pm
  • Mae’r arddangosiadau awyr yn dechrau am 13.05pm. Er hyn rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd cyn hyn i sicrhau eich bod mewn man da i weld yr arddangosiad cyntaf.
  • Bydd arddangosiad y Red Arrows am 16:30

Dydd Sul

  • Arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am tan 6pm
  • Mae’r arddangosiadau awyr yn dechrau am 13.00pm. Er hyn rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd cyn hyn i sicrhau eich bod mewn man da i weld yr arddangosiad cyntaf.
  • Bydd arddangosiad y Red Arrows am 15:20

Parcio Premiwm

Cadwch eich lle Parcio Premiwm ym maes parcio’r Rec er mwyn hwyluso’r parcio ar y diwrnod.

ARCHEBWCH NAWR

Download the APP

Filed Under: Airshow News, Newyddion

  • 1
  • 2
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo