Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Diwrnod y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Red Arrows yn dychwelyd ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2022!

Mawrth 23, 2022 By Chris Williams

Red Arrows at Wales Airshow

Bydd y Red Arrows byd-enwog yn dychwelyd i’r awyr dros Abertawe’r haf hwn gyda dychweliad Sioe Awyr Cymru!

Bydd Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol yn perfformio ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Cymru ar ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Gorffennaf.

Mae’r Red Arrows, a elwir yn Dîm Erobateg yr Awyrlu Brenhinol yn swyddogol, wedi perfformio dros 4,900 o arddangosiadau mewn bron 60 o wledydd ers y 1960au.

Bydd llawer mwy o dimau ac arddangosiadau erobateg yn ymuno â’r Red Arrows a bydd y rheini i’w cadarnhau yn ystod y cyfnod cyn digwyddiad eleni.

Nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron – bydd Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd yr haf hwn, ar 2 a 3 Gorffennaf 2022. Dyma’n Sioe Awyr Cymru gyntaf ers 2019, ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl.

Cofiwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter i gael y newyddion a’r cyhoeddiadau diweddaraf cyn digwyddiad 2022.

The Reds set to return

Filed Under: Airshow News

Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2021

Mai 27, 2021 By Chris Williams

Bydd rhai o’r awyrennau a’r sioeau styntiau awyr gorau erioed yn hedfan fry dros Abertawe’r haf nesaf ar ôl i’r pandemig ein gorfodi i ganslo Sioe Awyr Cymru eleni.

Mae’n golygu y bydd y sioe awyr fwyaf erioed yn hanes Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd ar 2 a 3 Gorffennaf, 2022.

Daw’r penderfyniad ar ôl i gyfres o sioeau awyr ar draws Prydain gael eu canslo oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch gallu Llywodraeth Cymru a’r DU i gymeradwyo digwyddiadau mawr iawn i wylwyr eleni.

Mae digwyddiadau yn y Rhyl, Blackpool, Weston-super-Mare a Southport eisoes wedi’u gohirio a bellach mae Cyngor Abertawe wedi derbyn, o’i anfodd braidd, y caiff Sioe Awyr Cymru 2021 ei chanslo eleni.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym wedi bod yno i bobl Abertawe drwy gydol y pandemig a byddwn yno i’n cymunedau wrth i ni ddod drwyddo.

“Roeddem yn awyddus iawn i weld digwyddiad mwyaf am ddim Cymru i wylwyr yn dychwelyd eleni, ac rydym wedi aros mor hir â phosib cyn gwneud penderfyniad yn y gobaith y byddai’r digwyddiad yn gallu cael ei gynnal.

“Mae digwyddiadau prawf yn parhau ond does dim arwydd o hyd i nodi pryd y bydd hi’n bosib codi’r cyfyngiadau ar gadw pellter cymdeithasol, neu pryd y bydd eglurder ynghylch a all y digwyddiad fynd yn ei flaen neu beidio, gan gofio bod dros 250,000 o bobl yn dod i’r digwyddiad fel arfer.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Rydym am ailddechrau’n rhaglenni digwyddiadau blynyddol penigamp cyn gynted ag y mae cyfyngiadau’r pandemig yn caniatáu ar gyfer hynny. Rydym yn ymwybodol bod pobl am ddechrau mwynhau cyngherddau, digwyddiadau, perfformiadau cerdd a gwyliau eto, ac rydym yn gweithio’n galed i lunio rhaglen a allai fod ar waith erbyn diwedd 2021 ac yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Fodd bynnag mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cymryd misoedd i gynllunio ac sy’n denu dros 250,000 o ymwelwyr, yn cael ei chynnal cyn y pwynt lle bydd sicrwydd ynghylch a fydd cyfyngiadau a osodwyd gan lywodraethau cenedlaethol yn caniatáu digwyddiad gyda chynifer o wylwyr.

“Felly, bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad i ganslo’r digwyddiad’ Fodd bynnag, cyn gynted ag y byddwn yn cael sicrwydd am y misoedd sydd i ddod, bydd ein timau’n gweithio i gadarnhau digwyddiadau eraill.

“Gallai diwedd 2021 a 2022 fod yn flwyddyn wych – rydym yn agor yr arena, bydd llai o gyfyngiadau, neu dim o gwbl, bydd digwyddiadau mawr yn dychwelyd a bydd gennym nifer o gyngherddau a gwyliau i’w mwynhau, ar ôl iddynt gael eu gohirio eleni.”

Roedd disgwyl i ddigwyddiad eleni, y’i hystyrir yn un o’r digwyddiadau am ddim mwyaf poblogaidd yng Nghymru ac sy’n denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i Fae Abertawe, gael ei gynnal ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf a dydd Sul 4 Gorffennaf. 

Mae tîm digwyddiadau’r cyngor eisoes yn ystyried amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer yr haf a allai fynd yn ei blaen, ac mae’n gweithio ar gynlluniau ar gyfer arddangosfa tân gwyllt drawiadol ym mis Tachwedd a Gorymdaith y Nadolig, gan obeithio y byddwn yn gallu eu cynnal yn amodol ar ganllawiau a ffactorau eraill.”

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, “Os oes un wers rydym wedi’i dysgu dros y 12 mis diwethaf, rhaid mai diogelwch y cyhoedd yw’r brif flaenoriaeth o ran COVID-19.

“Ond, wrth i ni ddod allan o’r pandemig, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ac wrth i ni barhau i weld buddion anhygoel rhaglen frechu’r GIG, mae ‘na obaith ar gyfer y dyfodol.

“Rydym am roi gwên yn ôl ar wynebau pawb hyd yn oed os yw’r golygu weithiau y byddant yn gudd y tu ôl i fygydau oherwydd y pandemig.”

Ychwanegodd, “Mae ein calendr digwyddiadau’n un newidiol ac rydym wedi bod yn addasu’n rhaglen ein hunain yn barhaus yn ogystal â rhai’n partneriaid a digwyddiadau eraill yn y sector preifat mewn tirwedd sy’n fythol esblygu. 

“Rydym yn dal i gadw llygad ar yr haf a’r hydref ac yn ystyried cynnal digwyddiadau a’u galluogi i ddigwydd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru .”

Am wybodaeth am ddigwyddiadau yn Abertawe ewch i croesobaeabertawe.com

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Sioe Awyr Cymru #Gartref cystadleuaeth

Mehefin 22, 2020 By Chris Williams

Yn galw cefnogwyr y Red Arrows! Dewch i mewn, Red 7!

Rydym i gyd wedi’n siomi i glywed na fydd Sioe Awyr Cymru’n digwydd eleni, ond rydym yn edrych ymlaen at wylio’r digwyddiad amgen a’i gwylio #Gartref yn lle.

Yn ogystal â dangos yr uchafbwyntiau gorau a chyfweliadau unigryw, bydd llawer o weithgareddau i blant eu gwneud yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad ac ar y diwrnod ei hun hefyd!

Ar gyfer ein dathliad digidol o Sioe Awyr Cymru #Gartref, rydym yn cynnal cystadleuaeth ddifyr i chi roi cynnig arni i gael cyfle i ennill eich gwisg beilot eich hun.

Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud i gael cyfle i ennill y gystadleuaeth wych hon yw ateb y cwestiynau canlynol: Mae’r holl atebion ar y wefan hon, pob lwc!

  1. Pwy fydd y prif berfformiwr yn nathliad digidol gartref eleni?
  2. Am faint o’r gloch bydd y Sioe Awyr eleni?
  3. Ble gallwch chi wylio’r Sioe Awyr eleni?

Nodwch eich enw, eich manylion cyswllt a’ch atebion isod a byddwn yn cysylltu â chi’n fuan.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ganol dydd ddydd Gwener 26 Mehefin, a dewisir enillydd erbyn 2pm a fydd yn cael ei hysbysu’r prynhawn hwnnw. Gweler yr holl amodau a thelerau yma.

Filed Under: Airshow News

Ydych chi erioed wedi ystyried sut brofiad yw hedfan jet y Red Arrows?

Mehefin 12, 2020 By Chris Williams

Neu sut brofiad yw bod yn rhan o griw hofrennydd Chinook, yn aelod o dîm erobatig Tutor yr RAF neu weithio gyda Thîm Arddangos Parasiwt y Tigers?

Dyma’ch cyfle i ofyn y cwestiynau hynny fel rhan o rith-ddathliad digidol Sioe Awyr Cyngor Abertawe.

Gallai cwestiynau allweddol holi am gyflymder jet y Red Arrows wrth iddo hedfan ar draws Bae Abertawe neu pa mor gyflym y gellir pacio parasiwt.

Timau Digwyddiadau a Marchnata Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor sy’n gyfrifol am Sioe Awyr Cymru – Dathliad Digidol #Gartref.

Maent yn eich gwahodd i gyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig neu drwy fideo i dudalen Facebook Sioe Awyr Cymru erbyn canol dydd ddydd Llun 15 Mehefin.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Er bod angen canslo Sioe Awyr Cymru eleni oherwydd y pandemig, bydd ein timau’n cynnal dathliad ar-lein ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf rhwng 11am a 5pm.

“Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb. Rydym wedi cael ymateb gwych gan y timau arddangos a fyddai fel arfer yn dod i’r digwyddiad.

“Bydd y rhai a fydd yn ateb cwestiynau’r cyhoedd yn cynnwys Arweinydd Sgwadron y Red Arrows, Steve Morris; capten, aelod o’r criw arddangos a pheiriannydd o dîm arddangos y Chinook; peilot o Team Raven, yr arbenigwyr erobatig;  peilot o jet y Strikemaster;  aelod o dîm arddangos Typhoon yr RAF;  peilot o dîm y Tutor; arweinydd tîm parasiwt y Tigers a’r peilot erobatig Lauren Wilson.

“Mae pob un ohonynt yn edrych ymlaen at dderbyn cwestiynau oddi wrth cefnogwyr Sioe Awyr Cymru.”

Dylech gyflwyno’ch cwestiynau drwy mewnflwch Sioe Awyr Cymru ar Facebook cyn canol dydd ddydd Llun. Caiff rhai o’ch cwestiynau a’ch fideos eu darlledu yn ystod sesiwn holi ac ateb y dathliad digidol.

Filed Under: Airshow News

Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2020

Mawrth 24, 2020 By Chris Williams

*Diweddariad*

O ganlyniad i’r sefyllfa bresennol, mae digwyddiadau a drefnir yn uniongyrchol gan Gyngor Abertawe wedi’u canslo neu eu gohirio nes diwedd Awst 2020.

Mae’n ddrwg gennym gyhoeddi bod y digwyddiadau a ganslwyd yn cynnwys Sioe Awyr Cymru 2020 a oedd i’w chynnal ar 4 a 5 Gorffennaf eleni.

Bydd ein tîm yma o hyd i roi’r diweddaraf i chi ac i rannu lluniau a fideos gwych a llawer mwy er mwyn helpu i wella’ch dydd – ond yn y cyfamser, arhoswch yn ddiogel a dilynwch y canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r llywodraeth.

Welwn ni chi’n fuan!

Tîm Sioe Awyr Cymru


Robert Francis-Davies, the council’s cabinet member for investment, regeneration and tourism, said: “We’ve made this decision to cancel or postpose council-organised events based on advice from Government and Public Health Wales. We’ll review the August end date on a regular basis.

“We haven’t taken this decision lightly but the situation is now compelling. Trying to curtail the spread of the virus along with maintaining the health and wellbeing of our staff, public, suppliers and the emergency services is paramount.

“We face possibly the most challenging situation that any of us has ever faced and we’re sure that event businesses and supporters will understand this decision.

“We know the importance of public events organised by the council but, for now, it’s essential that we do what we can to reduce the spread of the virus.

“This decision will reduce the risk of loss of life and will allow us to get back to putting on events as quickly as possible.

“At present, we’re advising our external event providers that they must satisfy themselves that they are doing all they need to in order to meet the Government  guidelines and to safeguard the public. We will continue to review this in partnership with them as the situation evolves.”

Swansea Council’s Events Team remains available to provide advice and support to partner businesses. Email: special.events@swansea.gov.uk.

More info: www.swansea.gov.uk/coronavirusadvice.


Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Coronafeirws neu ei symptomau, cymerwch gipolwg ar wefan GIG i weld y cyngor a’r arweiniad diweddaraf.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Abertawe yma.

Gelir dod o hyd i ddiweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth y DU yma.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

  • « Previous Page
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • …
  • 13
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=bqqhpH5CK6g

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo