Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Diwrnod y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe

Mawrth 20, 2025 By Chris Williams

​​​​​​​Bydd tîm Red Arrows byd enwog yr RAF yn dychwelyd i Abertawe i ddiddanu’r dorf yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.

Red Arrows Mumbles Swansea

Dyma’r enw mawr cyntaf a gadarnhawyd ar gyfer y digwyddiad deuddydd nodedig am ddim a gynhelir ym Mae Abertawe ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf a dydd Sul 6 Gorffennaf. Mae’r sioe flynyddol dros forlin 4 milltir y bae, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn denu mwy na 200,000 o breswylwyr ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru a’r DU.

Bydd y Red Arrows, sy’n enwog am arddangosiadau awyr gwefreiddiol a hedfan manwl gywir, yn perfformio ar y ddau ddiwrnod eleni, gan roi cyfle i gefnogwyr weld trefniannau nodweddiadol, symudiadau brawychus ac olion mwg coch, gwyn a glas disglair.

Ar y tir, bydd ymwelwyr yn cael mwynhau amrywiaeth o opsiynau adloniant, gan gynnwys stondinau masnach, bwyd a diod blasus, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau difyr i bobl o bob oedran. Bydd yn benwythnos llawn cyffro i deuluoedd, y rhai hynny sy’n dwlu ar awyrennau a thwristiaid fel ei gilydd.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, “Mae’n anhygoel bod y Red Arrows yn dychwelyd eto, ac mae’n wych y bydd y tîm yn perfformio ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2025. Rydym yn gwybod y bydd ymwelwyr mor falch o weld yr arddangosiadau hyn ag erioed. Mae’r digwyddiad hwn yn un o uchafbwyntiau calendr haf Abertawe, ac rydym yn disgwyl y bydd yn hynod boblogaidd eto eleni.”

Yn ogystal â’r Red Arrows, cyhoeddir mwy o arddangosiadau awyr gwefreiddiol ac atyniadau ar y tir dros yr wythnosau nesaf. Dros y blynyddoedd blaenorol, mae’r rhain wedi cynnwys awyrennau eiconig megis Hediad Coffa Brwydr Prydain, Typhoon y Llu Awyr Brenhinol, ac amrywiaeth o dimau erobateg rhyngwladol.

Filed Under: Airshow News

Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru

Gorffennaf 7, 2024 By Chris Williams

Roedd penwythnos Sioe Awyr Cymru’n un gwych gyda channoedd ar filoedd o bobl yn mwynhau digwyddiad awyr agored am ddim mwyaf y wlad.

Cafodd ymwelwyr o bob rhan o’r DU eu difyrru gan arddangosiadau’r Red Arrows, Typhoon yr Awyrlu Brenhinol ac eraill dros ddeuddydd y sioe awyr.

Roedd torfeydd enfawr wedi mwynhau amrywiaeth eang o arddangosfeydd rhyngweithiol, gweithgareddau ac adloniant byw ar y ddaear yn ogystal â gweld y cyffro yn yr awyr yn y digwyddiad a drefnwyd gan y Cyngor.

Roedd nodweddion newydd yn cynnwys Pentref y Cyn-filwyr i anrhydeddu holl gyn-aelodau’r lluoedd arfog. Dathlodd ymwelwyr y cyfraniadau sylweddol a wnaed i’r DU gan y rheini sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Roedd y sioe yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru, gyda’r gweithgarwch ar y dydd Sadwrn yn cynnwys seremoni ac adloniant ar lwyfan. Cafodd cân wreiddiol a ysgrifennwyd gan grŵp o gyn-filwyr ei pherfformio’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn y digwyddiad.

Talwyd teyrnged gan Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, i’r ymdrech a wnaed gan staff y Cyngor, y gwasanaethau brys, noddwyr y sioe a phartneriaid eraill y Cyngor a helpodd i wneud y digwyddiad yn un o’r radd flaenaf ar gyfer y ddinas.

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau o safon yn cael eu cynnal yn Abertawe eleni, gan gynnwys Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe ar 22 Mehefin, IRONMAN 70.3 Abertawe ar 14 Gorffennaf, a thridiau o gerddoriaeth ym Mharc Singleton o 18 i 20 Gorffennaf. Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com   

Roedd noddwyr sioe awyr eleni’n cynnwys Aerodyne, Day’s Rental, First Cymru, FRF DS Abertawe, FRF Toyota, Great Western Railway, Greatest Hits Radio, Lidl, Radnor Hills, Y Lleng Brydeinig Frenhinol, Trafnidiaeth Cymru a Travel House.

Disgwylir i Sioe Awyr Cymru’r flwyddyn nesaf gael ei chynnal ar 5 a 6 Gorffennaf.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos

Gorffennaf 3, 2024 By Chris Williams

Mae Sioe Awyr Cymru – sy’n para am ddeuddydd ac sy’n cael ei threfnu gan eich cyngor – yn dychwelyd!

Meddai Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, Tracey McNulty, “Bydd degau ar filoedd o bobl yn dod i’r sioe nodedig hon – bydd llawer i’w fwynhau.

“Rydym yn diolch i’r rheini a fydd yn gorfod newid eu trefn ddyddiol o bosib oherwydd y newidiadau i’r ffyrdd a fydd ar waith er diogelwch pawb. Rydym hefyd yn diolch i’n noddwyr a’n cefnogwyr.”

Bydd y nodweddion ychwanegol eleni’n cynnwys Pentref y Cyn-filwyr, er mwyn anrhydeddu cyn-aelodau’r lluoedd arfog.

Dewch i weld y Red Arrows, os yw’n bosib. Byddant yn hedfan dros Abertawe am 5.15pm nos Sadwrn.

Dros y penwythnos, bydd Typhoon yr Awyrlu Brenhinol hefyd yn dychwelyd ar y ddau ddiwrnod, yn ogystal â hofrennydd Wildcat Black Cats y Llynges Frenhinol.

Ceir ymddangosiadau hefyd gan Team Raven, sy’n arbenigo mewn erobateg, y Vampire o Norwy a Thîm Parasiwt Red Devils byd-enwog y Fyddin – yn ogystal ag awyren ddwbl Fairey Swordfish, hofrennydd Westland Wasp, Rolls-Royce Spitfire (dydd Sul yn unig), Yak50, Tîm Erobateg Starlings, tîm arddangos hofrenyddion Sgwadron Gazelle, hofrennydd Sea King a thîm erobateg Firebirds.

Bydd arddangosiadau ar y ddaear i’r holl deulu, gan gynnwys replicâu o Hurricane a Typhoon, arddangosiadau milwrol, bwyd a diod, adloniant byw, ffair bleser, hen gerbydau milwrol, amgueddfa D-Day symudol, stondinau masnach, y Parth Modurol i’r rhai hynny sy’n dwlu ar geir – ac ardal hwyl newydd i’r teulu.

Bydd efelychwyr hedfan, band Tywysog Cymru, cerbydau ymladd mawr a Phentref y Cyn-filwyr.

Mae modd cadw lle ymlaen llaw mewn mannau parcio dynodedig o hyd, bydd cyfleusterau parcio a theithio ar gael yn Stiwdios y Bae a safle parcio a theithio Glandŵr y cyngor, a gallwch deithio i’r sioe ar y trên a’r bws.

Mae ap swyddogol Sioe Awyr Cymru’n cynnig mynediad at amserlen swyddogol o arddangosiadau, newyddion byw, bywgraffiadau am awyrennau a mwy. Mae ar gael ar ddyfeisiau Android ac Apple am ffi untro o £1.99; gellir ei lawrlwytho eto am ddim os ydych wedi ei brynu o’r blaen.

Mae trefnwyr a phartneriaid yn cymryd nifer o gamau i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad. Mae’r rhain yn cynnwys mwy o fannau ailgylchu nag erioed o’r blaen a thair gorsaf ail-lenwi dŵr.

Bydd bandiau arddwrn am ddim i ddiogelu plant rhag mynd ar goll ar gael o fannau gwybodaeth y sioe awyr, staff meysydd parcio, cadetiaid a stiwardiaid ar hyd y promenâd, ac o stondinau’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn y Senotaff.

Bydd gweithwyr Ambiwlans Sant Ioan ar gael mewn mannau cymorth cyntaf.

Mae’r noddwyr a’r cefnogwyr yn cynnwys Aerodyne, Day’s Rental, First Cymru, FRF DS Swansea, FRF Toyota, Great Western Railway, Lidl, Radnor Hills, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Trafnidiaeth Cymru, Travel House a Greatest Hits Radio.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe

Mawrth 28, 2024 By Chris Williams

Disgwylir i jet byd-enwog Typhoon yr RAF ddiddanu cynulleidfaoedd yn Sioe Awyr Cymru yr haf hwn.

Dyma’r ail enw mawr a gadarnhawyd ar gyfer y digwyddiad deuddydd am ddim y disgwylir iddo ddod i Fae Abertawe ar 6 a 7 Gorffennaf.

Trefnir y sioe flynyddol gan y cyngor – a disgwylir i’r Typhoon, sy’n gallu teithio bron ddwywaith cyflymder sain, ymddangos ar y ddau ddiwrnod.

Disgwylir i’r Red Arrows ymddangos ar y dydd Sadwrn, a bydd llawer o sêr eraill yr awyr ac amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear ar gael drwy gydol y penwythnos mawr, gan gynnwys arddangosiadau, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, “Bydd Sioe Awyr Cymru’n benwythnos gwych yr haf hwn ac rydym yn falch iawn y bydd y Typhoon yn hedfan dros Abertawe eto.

“Mae’r sioe awyr, gyda’i hawyrgylch teuluol gwych, yn bartner gwych ar gyfer digwyddiadau mawr lleol eraill, fel IRONMAN 70.3 Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe.

“Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol.”

Filed Under: Airshow News

Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!

Ionawr 25, 2024 By Melanie Baker

Mae ceisiadau stondinau masnach bellach ar agor ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2024!
P’un a yw’ch busnes yn ymwneud ag arlwyo, marchnata drwy brofiadau, gwybodaeth neu ragor mae amrywiaeth o feintiau ar gael i ddarparu ar gyfer eich anghenion busnes, gyda phrisiau’n dechrau o £335 yn unig (TAN 31 MAWRTH 2024). Rhagor o wybodaeth.

Filed Under: Airshow News

  • 1
  • 2
  • 3
  • …
  • 13
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=bqqhpH5CK6g

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo