Bydd y Red Arrows byd-enwog yn dychwelyd i’r awyr dros Abertawe’r haf hwn gyda dychweliad Sioe Awyr Cymru!
Bydd Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol yn perfformio ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Cymru ar ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Gorffennaf.
Mae’r Red Arrows, a elwir yn Dîm Erobateg yr Awyrlu Brenhinol yn swyddogol, wedi perfformio dros 4,900 o arddangosiadau mewn bron 60 o wledydd ers y 1960au.
Bydd llawer mwy o dimau ac arddangosiadau erobateg yn ymuno â’r Red Arrows a bydd y rheini i’w cadarnhau yn ystod y cyfnod cyn digwyddiad eleni.
Nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron – bydd Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd yr haf hwn, ar 2 a 3 Gorffennaf 2022. Dyma’n Sioe Awyr Cymru gyntaf ers 2019, ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl.
Cofiwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter i gael y newyddion a’r cyhoeddiadau diweddaraf cyn digwyddiad 2022.