Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 1 and 2 July 2023

  • Sioe Awyr Cymru
    • Mae Ap Swyddogol SAGC23 yma!
    • Wythnos y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English
Rwyt ti yma:Home / Airshow News / Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2021

Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2021

Mai 27, 2021 By Chris Williams

Bydd rhai o’r awyrennau a’r sioeau styntiau awyr gorau erioed yn hedfan fry dros Abertawe’r haf nesaf ar ôl i’r pandemig ein gorfodi i ganslo Sioe Awyr Cymru eleni.

Mae’n golygu y bydd y sioe awyr fwyaf erioed yn hanes Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd ar 2 a 3 Gorffennaf, 2022.

Daw’r penderfyniad ar ôl i gyfres o sioeau awyr ar draws Prydain gael eu canslo oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch gallu Llywodraeth Cymru a’r DU i gymeradwyo digwyddiadau mawr iawn i wylwyr eleni.

Mae digwyddiadau yn y Rhyl, Blackpool, Weston-super-Mare a Southport eisoes wedi’u gohirio a bellach mae Cyngor Abertawe wedi derbyn, o’i anfodd braidd, y caiff Sioe Awyr Cymru 2021 ei chanslo eleni.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym wedi bod yno i bobl Abertawe drwy gydol y pandemig a byddwn yno i’n cymunedau wrth i ni ddod drwyddo.

“Roeddem yn awyddus iawn i weld digwyddiad mwyaf am ddim Cymru i wylwyr yn dychwelyd eleni, ac rydym wedi aros mor hir â phosib cyn gwneud penderfyniad yn y gobaith y byddai’r digwyddiad yn gallu cael ei gynnal.

“Mae digwyddiadau prawf yn parhau ond does dim arwydd o hyd i nodi pryd y bydd hi’n bosib codi’r cyfyngiadau ar gadw pellter cymdeithasol, neu pryd y bydd eglurder ynghylch a all y digwyddiad fynd yn ei flaen neu beidio, gan gofio bod dros 250,000 o bobl yn dod i’r digwyddiad fel arfer.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Rydym am ailddechrau’n rhaglenni digwyddiadau blynyddol penigamp cyn gynted ag y mae cyfyngiadau’r pandemig yn caniatáu ar gyfer hynny. Rydym yn ymwybodol bod pobl am ddechrau mwynhau cyngherddau, digwyddiadau, perfformiadau cerdd a gwyliau eto, ac rydym yn gweithio’n galed i lunio rhaglen a allai fod ar waith erbyn diwedd 2021 ac yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Fodd bynnag mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cymryd misoedd i gynllunio ac sy’n denu dros 250,000 o ymwelwyr, yn cael ei chynnal cyn y pwynt lle bydd sicrwydd ynghylch a fydd cyfyngiadau a osodwyd gan lywodraethau cenedlaethol yn caniatáu digwyddiad gyda chynifer o wylwyr.

“Felly, bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad i ganslo’r digwyddiad’ Fodd bynnag, cyn gynted ag y byddwn yn cael sicrwydd am y misoedd sydd i ddod, bydd ein timau’n gweithio i gadarnhau digwyddiadau eraill.

“Gallai diwedd 2021 a 2022 fod yn flwyddyn wych – rydym yn agor yr arena, bydd llai o gyfyngiadau, neu dim o gwbl, bydd digwyddiadau mawr yn dychwelyd a bydd gennym nifer o gyngherddau a gwyliau i’w mwynhau, ar ôl iddynt gael eu gohirio eleni.”

Roedd disgwyl i ddigwyddiad eleni, y’i hystyrir yn un o’r digwyddiadau am ddim mwyaf poblogaidd yng Nghymru ac sy’n denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i Fae Abertawe, gael ei gynnal ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf a dydd Sul 4 Gorffennaf. 

Mae tîm digwyddiadau’r cyngor eisoes yn ystyried amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer yr haf a allai fynd yn ei blaen, ac mae’n gweithio ar gynlluniau ar gyfer arddangosfa tân gwyllt drawiadol ym mis Tachwedd a Gorymdaith y Nadolig, gan obeithio y byddwn yn gallu eu cynnal yn amodol ar ganllawiau a ffactorau eraill.”

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, “Os oes un wers rydym wedi’i dysgu dros y 12 mis diwethaf, rhaid mai diogelwch y cyhoedd yw’r brif flaenoriaeth o ran COVID-19.

“Ond, wrth i ni ddod allan o’r pandemig, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ac wrth i ni barhau i weld buddion anhygoel rhaglen frechu’r GIG, mae ‘na obaith ar gyfer y dyfodol.

“Rydym am roi gwên yn ôl ar wynebau pawb hyd yn oed os yw’r golygu weithiau y byddant yn gudd y tu ôl i fygydau oherwydd y pandemig.”

Ychwanegodd, “Mae ein calendr digwyddiadau’n un newidiol ac rydym wedi bod yn addasu’n rhaglen ein hunain yn barhaus yn ogystal â rhai’n partneriaid a digwyddiadau eraill yn y sector preifat mewn tirwedd sy’n fythol esblygu. 

“Rydym yn dal i gadw llygad ar yr haf a’r hydref ac yn ystyried cynnal digwyddiadau a’u galluogi i ddigwydd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru .”

Am wybodaeth am ddigwyddiadau yn Abertawe ewch i croesobaeabertawe.com

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Cysylltwch a ni

News

  • Mae e’ nôl! Mae’r Eurofighter Typhoon yn dod i Abertawe
  • Mae’r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe
  • Sioe Awyr Cymru wych yn denu torfeydd enfawr i Abertawe
  • ‘The Tigers’ yn galw heibio Sioe Awyr Cymru 2022
  • Hediad Coffa Brwydr Prydain yn ymddangos yn Sioe Awyr Cymru 2022
https://youtu.be/6UmaqUYo32M

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 1 A 2 GORFFENNAF 2023!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=6UmaqUYo32M

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • Cymraeg
  • English

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2023 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo