
Cynhelir Sioe Awyr Cymru yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog a bydd yn dathlu’r cyfraniadau a wnaed i’n gwlad gan y rheini sy’n gwasanaethu a’r rheini sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog ei Mawrhydi.
Mae arddangosfa fawr o stondinau milwrol ac asedau tir a gweithgareddau ‘rhowch gynnig arni’.
Bydd hefyd lwyfan gydag adloniant ar thema filwrol fel Band Tywysog Cymru, Côr y Gwragedd Milwrol a Kirsten Osbourne. Bydd pabell Cyfamod Abertawe’n cynnwys nifer o stondinau gwybodaeth ac elusennau sy’n darparu cymorth i aelodau sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a theuluoedd. O filwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y lluoedd arfog, o gyn-filwyr i gadetiaid, gallwch gefnogi’r dynion a’r menywod sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog.
