Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 25 and 26 July 2026

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr a Chefnogwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos

Gorffennaf 3, 2024 By Chris Williams

Mae Sioe Awyr Cymru – sy’n para am ddeuddydd ac sy’n cael ei threfnu gan eich cyngor – yn dychwelyd!

Meddai Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, Tracey McNulty, “Bydd degau ar filoedd o bobl yn dod i’r sioe nodedig hon – bydd llawer i’w fwynhau.

“Rydym yn diolch i’r rheini a fydd yn gorfod newid eu trefn ddyddiol o bosib oherwydd y newidiadau i’r ffyrdd a fydd ar waith er diogelwch pawb. Rydym hefyd yn diolch i’n noddwyr a’n cefnogwyr.”

Bydd y nodweddion ychwanegol eleni’n cynnwys Pentref y Cyn-filwyr, er mwyn anrhydeddu cyn-aelodau’r lluoedd arfog.

Dewch i weld y Red Arrows, os yw’n bosib. Byddant yn hedfan dros Abertawe am 5.15pm nos Sadwrn.

Dros y penwythnos, bydd Typhoon yr Awyrlu Brenhinol hefyd yn dychwelyd ar y ddau ddiwrnod, yn ogystal â hofrennydd Wildcat Black Cats y Llynges Frenhinol.

Ceir ymddangosiadau hefyd gan Team Raven, sy’n arbenigo mewn erobateg, y Vampire o Norwy a Thîm Parasiwt Red Devils byd-enwog y Fyddin – yn ogystal ag awyren ddwbl Fairey Swordfish, hofrennydd Westland Wasp, Rolls-Royce Spitfire (dydd Sul yn unig), Yak50, Tîm Erobateg Starlings, tîm arddangos hofrenyddion Sgwadron Gazelle, hofrennydd Sea King a thîm erobateg Firebirds.

Bydd arddangosiadau ar y ddaear i’r holl deulu, gan gynnwys replicâu o Hurricane a Typhoon, arddangosiadau milwrol, bwyd a diod, adloniant byw, ffair bleser, hen gerbydau milwrol, amgueddfa D-Day symudol, stondinau masnach, y Parth Modurol i’r rhai hynny sy’n dwlu ar geir – ac ardal hwyl newydd i’r teulu.

Bydd efelychwyr hedfan, band Tywysog Cymru, cerbydau ymladd mawr a Phentref y Cyn-filwyr.

Mae modd cadw lle ymlaen llaw mewn mannau parcio dynodedig o hyd, bydd cyfleusterau parcio a theithio ar gael yn Stiwdios y Bae a safle parcio a theithio Glandŵr y cyngor, a gallwch deithio i’r sioe ar y trên a’r bws.

Mae ap swyddogol Sioe Awyr Cymru’n cynnig mynediad at amserlen swyddogol o arddangosiadau, newyddion byw, bywgraffiadau am awyrennau a mwy. Mae ar gael ar ddyfeisiau Android ac Apple am ffi untro o £1.99; gellir ei lawrlwytho eto am ddim os ydych wedi ei brynu o’r blaen.

Mae trefnwyr a phartneriaid yn cymryd nifer o gamau i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad. Mae’r rhain yn cynnwys mwy o fannau ailgylchu nag erioed o’r blaen a thair gorsaf ail-lenwi dŵr.

Bydd bandiau arddwrn am ddim i ddiogelu plant rhag mynd ar goll ar gael o fannau gwybodaeth y sioe awyr, staff meysydd parcio, cadetiaid a stiwardiaid ar hyd y promenâd, ac o stondinau’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn y Senotaff.

Bydd gweithwyr Ambiwlans Sant Ioan ar gael mewn mannau cymorth cyntaf.

Mae’r noddwyr a’r cefnogwyr yn cynnwys Aerodyne, Day’s Rental, First Cymru, FRF DS Swansea, FRF Toyota, Great Western Railway, Lidl, Radnor Hills, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Trafnidiaeth Cymru, Travel House a Greatest Hits Radio.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe

Mawrth 28, 2024 By Chris Williams

Disgwylir i jet byd-enwog Typhoon yr RAF ddiddanu cynulleidfaoedd yn Sioe Awyr Cymru yr haf hwn.

Dyma’r ail enw mawr a gadarnhawyd ar gyfer y digwyddiad deuddydd am ddim y disgwylir iddo ddod i Fae Abertawe ar 6 a 7 Gorffennaf.

Trefnir y sioe flynyddol gan y cyngor – a disgwylir i’r Typhoon, sy’n gallu teithio bron ddwywaith cyflymder sain, ymddangos ar y ddau ddiwrnod.

Disgwylir i’r Red Arrows ymddangos ar y dydd Sadwrn, a bydd llawer o sêr eraill yr awyr ac amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear ar gael drwy gydol y penwythnos mawr, gan gynnwys arddangosiadau, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, “Bydd Sioe Awyr Cymru’n benwythnos gwych yr haf hwn ac rydym yn falch iawn y bydd y Typhoon yn hedfan dros Abertawe eto.

“Mae’r sioe awyr, gyda’i hawyrgylch teuluol gwych, yn bartner gwych ar gyfer digwyddiadau mawr lleol eraill, fel IRONMAN 70.3 Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe.

“Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol.”

Filed Under: Airshow News

Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!

Ionawr 25, 2024 By Melanie Baker

Mae ceisiadau stondinau masnach bellach ar agor ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2024!
P’un a yw’ch busnes yn ymwneud ag arlwyo, marchnata drwy brofiadau, gwybodaeth neu ragor mae amrywiaeth o feintiau ar gael i ddarparu ar gyfer eich anghenion busnes, gyda phrisiau’n dechrau o £335 yn unig (TAN 31 MAWRTH 2024). Rhagor o wybodaeth.

Filed Under: Airshow News

Sioe awyr wych yn denu torfeydd enfawr

Gorffennaf 2, 2023 By Chris Williams

Roedd Sioe Awyr Cymru Abertawe’n benwythnos gwych gyda channoedd ar filoedd o bobl yn mwynhau sioe awyr agored am ddim fwyaf y wlad.

Roedd ymwelwyr o bob rhan o’r DU wrth eu boddau gyda’r dau ddiwrnod o hedfan. Gwelodd y digwyddiad a drefnwyd gan y cyngor hefyd dorfeydd enfawr yn mwynhau gweithgareddau rhyngweithiol ar y ddaear.

Bydd Sioe Awyr Cymru’r flwyddyn nesaf, ar 6-7 Gorffennaf, yn cynnal digwyddiad partner newydd – ar y dydd Sadwrn bydd Abertawe’n cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2024.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Dyma un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau blynyddol Abertawe, ac roedd y sioe flynyddol yn llwyddiant ysgubol, gan barhau i gefnogi enw da’r ddinas fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr.

“Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd at yr economi leol a diolchwn i fusnesau a phreswylwyr lleol am eu hamynedd wrth i ni gau ffyrdd ac i’r holl fasnachwyr am eu cyfraniad.”

Talodd deyrnged i’r ymdrech a wnaed gan staff y cyngor, y gwasanaethau brys, noddwyr y sioe a phartneriaid eraill y cyngor a helpodd i sicrhau bod y digwyddiad yn un o safon i’r ddinas.

Bydd yn cynnwys arddangosfeydd milwrol, gorymdeithiau ac adloniant i ddathlu cyfraniad y rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, lluoedd y cadetiaid a gwirfoddolwyr.

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Sioe Awyr Cymru 2023!

Mehefin 27, 2023 By Melanie Baker

Mae Sioe Awyr Cymru, digwyddiad AM DDIM mwyaf Cymru sydd wedi’i drefnu gan Gyngor Abertawe. Cynhelir Sioe Awyr Cymru’r penwythnos hwn (1 a 2 Gorffennaf) ac yn cynnwys arddangosiadau awyr syfrdanol gan dimau o safon fyd-eang ac arddangosiadau rhyngweithiol ar y ddaear.  Dyma ychydig o awgrymiadau i’ch helpu i wneud yn fawr o’r penwythnos:

Edrychwch i’r awyr

Mae’r arddangosiadau awyr yn Sioe Awyr Cymru yn cynnwys erobateg cyffrous, amrywiaeth o awyrennau, o hen awyrennau i rai modern, ac arddangosiadau parasiwt patrymog ar draws olygfa hardd Bae Abertawe.

Mae’r timau arddangos yn cynnwys y Red Arrows sy’n enwog yn fyd-eang (a gefnogir gan DS Automobiles yn FRF Motors Swansea), Tîm Arddangos y Typhoon, Tîm Raven, Hediad Coffa Brwydr Prydain, y Norwegian Vampire, P-47 Thunderbolt, Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers, AeroSuperBatics Wingwalkers, Strikemaster, Swordfish, Yak 50, Jet Pitts, Harvard G-NWHF, Supermarine Seafire a Westland Wasp.

Bydd arddangosiadau awyr yn dechrau tua chanol dydd ar y ddau ddiwrnod, y Typhoon bydd yn agor y digwyddiad ddydd Sadwrn! Bydd Red Arrows yn hedfan am 5.00pm ddydd Sadwrn ac am 12.00pm ddydd Sul.

Manteisiwch i’r eithaf ar yr arddangosiadau ar y ddaear

Yn ogystal â’r arddangosiadau erobateg yn yr awyr, mae arddangosiadau rhyngweithiol ar y ddaear i’r teulu cyfan eu mwynhau, gan gynnwys cyfle i weld atgynhyrchiad o awyrennau Typhoon a Spitfire.  Rhowch gynnig ar efelychydd y Red Arrows a galwch heibio stondin DS Automobiles FRF Motors Swansea ar yr un pryd.

Bydd adloniant byw am ddim drwy gydol y penwythnos ac yn newydd eleni bydd Parth Moduron ar gyfer y rheini sy’n hoff o geir, gyda delwriaethau lleol gan gynnwys cefnogwr Sioe Awyr Cymru, Sinclair Group.

Mae’r cyffro ar y ddaear yn dechrau bob dydd am 10.00am.

Osgowch unrhyw straen wrth deithio 

Mae amrywiaeth o wasanaethau Parcio a Theithio o Stiwdios y Bae (Fabian Way) a Glandŵr, ac amrywiaeth o feysydd parcio dynodedig ar gyfer y digwyddiad. Archebwch le ymlaen llaw er mwyn gwarantu’ch lle yma.

Mae’r meysydd parcio’n agor am 8am ac mae’r gwasanaeth parcio a theithio’n dechrau am 8.30am, gan redeg tan 8.00pm.

Gallwch hefyd deithio i Sioe Awyr Cymru ar y trên neu ar y bws gyda’n partneriaid teithio swyddogol, GWR a First Cymru.

Yn newydd ar gyfer 2023 – parc beiciau dynodedig ar y cae lacrosse Mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin

I sicrhau diogelwch y degau ar filoedd o bobl a fydd yn dod i Sioe Awyr Cymru, bydd amrywiaeth o newidiadau i’r ffyrdd a dargyfeiriadau dros dro ar waith.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn: gwybodaeth

Lawrlwythwch yr ap er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddarafDownload the app to keep up to date

Er mwyn gwneud yn fawr o’ch ymweliad, lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru – yr unig le i weld yr amserlen arddangos ar gyfer y penwythnos.  Byddwch hefyd yn cael y newyddion diweddaraf yn fyw gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r amserlen, yr holl newyddion diweddaraf, gwybodaeth am yr awyrennau a’r timau, talebau, a gwybodaeth i ymwelwyr.

Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau Apple ac Android am bris untro o £1.99 felly os ydych wedi prynu’r ap yn y gorffennol, gallwch ei lawrlwytho unwaith eto am ddim.  Drwy lawrlwytho’r ap mae eich cyfraniad yn helpu tuag at y gost o gynnal Sioe Awyr Cymru.

Cadwch bopeth yn lân

Cofiwch yfed digon a chadw Abertawe’n rhydd o sbwriel yn ystod penwythnos Sioe Awyr Cymru. Bydd tair gorsaf ail-lenwi dŵr AM DDIM i chi eu defnyddio y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig, y Senotaff a gyferbyn â Brynmill Lane, a chwe man ailgylchu ar hyd y promenâd i chi gael gwared ar eich sbwriel. Mwy o wybodaeth: cynaladwyedd.

Gwybodaeth i rieni

Mae Sioe Awyr Cymru’n ddigwyddiad i’r teulu cyfan. Mae ein cyfleusterau sy’n addas i deuluoedd yn cynnwys cyfleusterau newid cewynnau a bandiau arddwrn i blant am ddim.  Casglwch eich bandiau arddwrn am ddim, a noddwyd gan Dawsons, yn y digwyddiad o

•    Meysydd parcio
•    Fan gollwng parcio a theithio’r Ganolfan Ddinesig
•    Mannau Gwybodaeth y Ganolfan Ddinesig a’r Senotaff
•    Y promenâd o Brynmill Lane a’r Ganolfan Ddinesig
•    Stondinau’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ger y Senotaff

Mannau gwylio hygyrch

Bydd dau fan gwylio hygyrch ar gael yn Sioe Awyr eleni. Y cyntaf i’r felin gaiff fanteisio ar y cyfleuster hwn.

Bydd Cangen Abertawe o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn y mannau gwylio hygyrch i gefnogi teuluoedd, ac mae man gwylio tawel ar gael ar lawr cyntaf y Llyfrgell Ganolog. Mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd ar gael yma.

Joio Bae Abertawe

Ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud yr haf hwn ym Mae Abertawe? Galwch heibio’r stondin Joio ger y Senotaff i gydio mewn copi o’n llyfryn Haf i’w Joio, sy’n llawn syniadau i sicrhau eich bod yn cael haf llawn hwyl.  Gallwch hefyd fynd i’n gwefan yn www.joiobaeabertawe.com.

Ar ôl y digwyddiad, beth am ymweld â lleoliadau bwyd a diod y ddinas, neu hyd yn oed drefnu i dreulio’r penwythnos yma drwy fynd i www.croesobaeabertawe.com.

Cael y newyddion diweddaraf

Dilynwch ni er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Sioe Awyr Cymru, a thagiwch ni yn unrhyw luniau rydych yn eu tynnu yn ystod y penwythnos.
www.facebook.com/sioeawyrcymru
www.instagram.com/walesairshow
www.twitter.com/sioeawyrcymru
Mae gan wefan Sioe Awyr Cymru, yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud yn fawr o ddigwyddiad eleni.

Diolch i noddwyr

Diolch i’n noddwyr am ein helpu i gyflwyno’r hyn y mae’n rhaid ei fod yn ddigwyddiad mwyaf a mwyaf poblogaidd AM DDIM Cymru, Sioe Awyr Cymru.

Cefnogir y Red Arrows gan DS Automobiles yn FRF Motors Abertawe
Goleg Gŵyr Abertawe – noddwr y Bwrdd Hedfan (Gwerthu mas)
John Pye Auctions – cefnogwr Sioe Awyr Cymru 2023
Sinclair Group – cefnogwr Sioe Awyr Cymru 2023
Great Western Railway – partner teithio Sioe Awyr Cymru 2023
First Cymru – partner teithio Sioe Awyr Cymru 2023
Dawsons Estate Agents – noddwyr bandiau arddwrn ar gyfer plant sydd ar goll

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Sioe Awyr Cymru 2023 a hoffem ddiolch i’n holl noddwyr a chefnogwyr am ein helpu i wneud y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad am ddim i deuluoedd mwyaf Cymru.

Filed Under: Airshow News

  • « Previous Page
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • …
  • 16
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Mae Sioe Awyr Cymru’n ôl 25 a 26 Gorffennaf, 2026
  • Sioe Awyr Cymru: Penwythnos o hwyl i’r teulu a champau awyrol anhygoel
  • Ardaloedd gwylio hygyrch yn Sioe Awyr Cymru
  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 25 A 26 GORFFENNAF 2026!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://youtu.be/zWpNsrb5GBk

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Cyngor Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2026 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo