- Am fwy o wybodaeth am unrhyw ffyrdd cynlluniedig sydd ar gau ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2019, gwiriwch eto’n agosach at ddyddiad y digwyddiad.
Awyren Fôr Catalina yn dod i Sioe Awyr Cymru
Bydd un o’r awyrennau môr enwocaf erioed yn dod i Sioe Awyr Cymru fis nesaf.
Bydd awyren fôr Catalina a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd yn dangos y rhesymau pam mai’r awyrennau hyn oedd y gweithwyr caled a oedd yn croesi’r moroedd, gan deithio pellterau helaeth mewn un hediad ac yn gallu glanio bron yn unrhyw le.
Bydd yr un sy’n ymweld â Sioe Awyr Cymru’n dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni. Bu’n gweithio ar ôl y rhyfel fel awyren ddŵr yn diffodd tanau coedwigoedd yng Nghanada cyn cael rôl newydd fel awyren arddangos.
Nid y Catalina oedd yr awyren gyflymaf i hedfan yn yr Ail Ryfel Byd gydag uchafswm cyflymder tua hanner yr hyn roedd y Spitfire yn gallu ei wneud, ond roedd hi’n gryf, yn ystwyth ac roedd ganddi amrediad o 2,500 o filltiroedd.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’r Sioe Awyr yn gyfle gwych i bobl weld hanes yr awyren ar waith.
“Gwelodd yr awyren fôr Catalina sy’n dod i Abertawe lawer o’r ymladd yn ystod diwrnodau caletaf yr Ail Ryfel Byd fel heliwr tanfor, gan hedfan o orllewin Canada dros rannau helaeth o’r Môr Tawel yn chwilio am longau’r gelyn i’w targedu gan ein dinistrwyr ar y tir.”
Mae Sioe Awyr Cymru eleni dros ddeuddydd ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf yn addo bod y gorau a’r mwyaf erioed a bydd yn cynnwys awyrennau o ddyddiau cynnar hedfan hyd at yr 21ain ganrif.
Gall y rhai sy’n dod i’r sioe ganfod mwy amdani drwy lawrlwytho ap Sioe Awyr Cymru ar Apple App Store a Google PLAY.
Dîm Rhyfel Mawr Bremont
Bydd blas ar Biggles a dewrder yn dod i Sioe Awyr Cymru am y tro cyntaf yr haf hwn pan fydd awyrennau Prydeinig ac Almaenig y Rhyfel Byd Cyntaf yn hedfan dros Abertawe.
Bydd atgynyrchiadau o ddwy awyren ddwbl Prydeining SE5 a fu’n hedfan dros feysydd brwydr Ffrainc a Gwlad Belg dros gan mlynedd yn ôl yn mynd wyneb yn wyneb ag atgynhyrchiad o awyren Junker CL1 Almaenig.
Bydd yr awyrennau, sy’n rhan o Dîm Rhyfel Mawr Bremont, yn ymddangos am y tro cyntaf yn Sioe Awyr Cymru ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf fe rhan o ddathliadau 100 mlynedd yr Awyrlu Brenhinol.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Roedd dros 5,200 o awyrennau SE5 yr Awyrlu Brenhinol wedi ymladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan adnabuwyd yr Awyrlu Brenhinol fel y Corfflu Hedfan Brenhinol.
“Hedfanwyd yr SE5 gan rai o archbeilotiaid y rhyfel, gan gynnwys Billy Bishop a Mick Mannock, a saethodd 133 o awyrennau’r Almaen i’r llawr rhyngddynt.
“Mae’n wych bod awyrennau hanesyddol fel yr SE5 a’r CL1 yn ein helpu i ddathlu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol ond hefyd 100 mlynedd ers diwedd y rhyfel.”
Mae Sioe Awyr Cymru eleni’n addo bod y mwyaf a’r gorau erioed yn dilyn digwyddiad y llynedd a wnaeth dorri pob record, gan ddenu 250,000 o ymwelwyr a chreu mwy nag £8 miliwn ar gyfer yr economi leol.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae’n anhygoel meddwl bod y Sioe Awyr gyntaf wedi denu 75,000 o ymwelwyr a bellach mae mor boblogaidd, mae’n ddigwyddiad blynyddol ac rydym yn denu bedair gwaith y nifer hwnnw o ymwelwyr erbyn hyn. Dyma’r digwyddiad mwyaf am ddim yng Nghymru, gan ddenu teuluoedd o Dde Cymru a gweddill y DU.”
Ar wahân i awyrennau’r Rhyfel Byd Cyntaf, bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain, Tîm Arddangos Awyr y Typhoon a’r Red Arrows poblogaidd i gyd yn dychwelyd.
Bydd llawer o atyniadau ar y ddaear hefyd, gan gynnwys stondinau masnach a fydd yn gwerthu pob math o gofroddion a nwyddau sy’n ymwneud ag awyrennau.
Mae mwy o wybodaeth am drefnu stondinau masnach yma: www.sioeawyrcymru.co.uk
Gall y rhai sy’n dod i’r sioe ganfod mwy amdani drwy lawrlwytho ap Sioe Awyr Cymru ar Apple App Store a Google PLAY.
Gwledd o awyrennau’r oes a fu i ymwelwyr â Sioe Awyr Cymru
Bydd hanes yn dod yn fyw yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn gyda thair awyren eiconig o’r oes a fu.
Mae Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol wedi ymuno â’r rhestr o atyniadau ar gyfer digwyddiad am ddim eleni a gynhelir ar benwythnos dydd Sadwrn a dydd Sul 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf.
Gan gynnwys Avro Lancaster, Supermarine Spitfire a Hawker Hurricane, caiff y grŵp arddangos ei weld yn aml mewn digwyddiadau i goffáu’r Ail Ryfel Byd. Mae Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain hefyd wedi cymryd rhan mewn sawl seremoni Brydeinig swyddogol, gan gynnwys dathliadau pen-blwydd y Frenhines yn 80 oed yn 2006 a phriodas y Tywysog William yn 2011.
Mae atyniadau eraill sydd eisoes wedi’u cadarnhau yn cynnwys timau arddangos Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol a’r Typhoon.
Meddai Robert Francis-Davies, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae elfen enfawr o hiraethu am y gorffennol yn rhan o’r math hwn o ddigwyddiad, ac felly rydym wrth ein bodd yn awr i allu cadarnhau cyfranogiad Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yn y Sioe Awyr ym mis Gorffennaf.
“Gan gyfuno awyrennau modern, arddangosiadau erobatig o’r radd flaenaf ac adloniant ar y tir, bydd yr arddangosiad hwn ymysg llawer y bydd cannoedd ar filoedd o wylwyr yn eu mwynhau yn yr awyr uwchben Abertawe.
“Bydd mwy o awyrennau’n cael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf wrth i ni barhau i ddatblygu rhaglen y digwyddiad mawr hwn, sy’n werth mwy na £8m i economi’r ddinas.”
Mae’r Red Arrows yn dychwelyd
Bydd tîm erobatig o’r radd flaenaf y Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe ar gyfer Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.
Bydd y Red Arrows yn hedfan ar ddau ddiwrnod y digwyddiad am ddim hwn gan Gyngor Abertawe a gynhelir ddydd Sadwrn 30 Mehefin a dydd Sul 1 Gorffennaf.
Mae’r Red Arrows, a elwir yn Dîm Erobatig yr Awyrlu Brenhinol yn swyddogol, wedi perfformio dros 4,700 o arddangosiadau mewn dros 50 o wledydd ar draws y byd ers y 1960au.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae hi’n newyddion gwych bod y Red Arrows wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.
“Y Red Arrows yw tîm erobatig enwocaf y byd ac maent wedi perfformio arddangosiadau gwefreiddiol yn Sioe Awyr Cymru ers y cychwyn. Ni fyddai’r digwyddiad yr un peth hebddynt, felly rydym wrth ein boddau eu bod yn dychwelyd eleni i’n helpu i ddathlu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol.”
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Yn ogystal â’r Red Arrows a Thîm Arddangos y Typhoon yn denu sylw cannoedd ar filoedd o bobl, mae’r cyngor yn gweithio ar ychwanegu llawer mwy o atyniadau cyffrous at y rhestr berfformio dros yr wythnosau nesaf, ar y ddaear ac yn yr awyr.”
Yn ôl y ffigurau, roedd Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, werth £8.4m i’r economi leol y llynedd, gan helpu i ddenu 250,000 o ymwelwyr i lan y môr a nifer o leoliadau eraill ar draws y ddinas.
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad.
Bydd yr ap, sydd bellach ar gael yn yr Appstore a Google PLAY, yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
Gall defnyddwyr sydd eisoes wedi prynu’r ap ei ddiweddaru am ddim er mwyn derbyn cynnwys eleni. Bydd cynnwys yn ymddangos wrth i bob arddangosiad newydd gael ei gyhoeddi a bydd yr amserlen yn ymddangos ddydd Mercher 27 Mehefin.
- « Previous Page
- 1
- …
- 3
- 4
- 5
- 6
- 7
- …
- 9
- Next Page »