Ymhen ychydig ddyddiau bydd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe ar 2 a 3 Gorffennaf! Dyma beth o’r wybodaeth allweddol y bydd ei hangen arnoch er mwyn mwynhau prif ddigwyddiad am ddim Cymru.
Amserau arddangos ar 2 a 3 Gorffennaf
Ddydd Iau (30 Mehefin) ceir rhestr gynhwysfawr o amserau arddangos yn adran “Amserau Arddangos” ein AP.
Llunnir yr AP ar eich cyfer i fod yn rhaglen rithwir ddefnyddiol; drwy brynu’r ap byddwch hefyd yn helpu i gefnogi’r digwyddiad AM DDIM bendigedig hwn. Er mwyn adnewyddu’r amserlen, tynnwch y sgrîn i lawr gyda’ch bys bawd.
Faint o’r gloch bydd pethau’n dechrau?
Dydd Sadwrn:
- Arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am tan 6pm
 - Mae’r arddangosiadau awyr yn dechrau am 13.05pm. Er hyn rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd cyn hyn i sicrhau eich bod mewn man da i weld yr arddangosiad cyntaf.
 - Bydd arddangosiad y Red Arrows am 16:30
 
Dydd Sul
- Arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am tan 6pm
 - Mae’r arddangosiadau awyr yn dechrau am 13.00pm. Er hyn rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd cyn hyn i sicrhau eich bod mewn man da i weld yr arddangosiad cyntaf.
 - Bydd arddangosiad y Red Arrows am 15:20
 
Parcio Premiwm
Cadwch eich lle Parcio Premiwm ym maes parcio’r Rec er mwyn hwyluso’r parcio ar y diwrnod.


4. GWYBODAETH DDEFNYDDIOL AM Y TIMAU  – Arweiniad defnyddiol am yr holl dimau arddangos i’w gadw yn eich poced.
