Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Tîm Arddangos Typhoon yr RAF yn hedfan yn Sioe Awyr Cymru

Mai 13, 2019 By Chris Williams

Mae’r tîm arddangos wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr CymruYn agor mewn ffenest newydd, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf a dydd Sul 7 Gorffennaf.

Gydag uchafswm cyflymder o dros 1,300mya, mae’r Typhoon, a fydd yn hefan o orsaf Coningsby yr RAF yn Swydd Lincoln, yn gallu cyrraedd uchder o 55,000 o droedfeddi.

Bydd Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys atyniadau megis y Red Arrows a bydd miloedd o bobl yn dod i wylio ar draeth Abertawe am ddeuddydd o arddangosiadau hedfan arbennig. Hefyd, am y tro cyntaf, bydd digwyddiad gyda’r hwyr ar y nos Sadwrn eleni a gynhelir o 8.30pm.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Abertawe’n dathlu 50 mlynedd fel dinasYn agor mewn ffenest newydd a’r sioe awyr yn cynnwys tîm arddangos Typhoon yn yr un flwyddyn; fel erioed, bydd yn olygfa arbennig.”

Mae’r Typhoon werth tua £80m ac mae’n un o awyrennau ymladd mwyaf datblygedig y byd.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Sioe Awyr Cymru’n ddigwyddiad arbennig; mae’r cynulleidfaoedd mawr sy’n cael eu denu’n gwerthfawrogi’r arddangosiadau awyr a’r digwyddiadau ar y tir sy’n rhan o’r prif ddigwyddiad.”

Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.

Bydd ap Sioe Awyr Cymru, sydd ar gael ar yr Appstore ac ar Google Play yn cael ei ddiweddaru gyda gwybodaeth am yr holl arddangosiadau wrth iddynt gael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf.

Filed Under: Airshow News, Uncategorized @cy

Heliwr tanfor i serennu yn Sioe Awyr Cymru 2019

Mai 7, 2019 By Chris Williams

Bydd miloedd o wylwyr yn ymgasglu ar draeth Abertawe i wylio Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys atyniadau megis y Red Arrows, am ddeuddydd o ddigwyddiadau hedfan gwych ar 6 a 7 Gorffennaf.

Gallai Miss Pick Up, awyren Catalina cwmni Consolidated a oedd yn patrolio yn ystod y rhyfel yng ngorllewin Canada, fod yn boblogaidd iawn ymysg y dorf yn y digwyddiad yn Abertawe.

Dim ond 12 Catalina sy’n addas i’w hedfan sydd ar ôl ac awyren Miss Pick Upyw’r unig un sy’n hedfan yn rheolaidd yn Ewrop.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd digwyddiad gyda’r hwyr ar y nos Sadwrn. 

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Bydd y Catalina’n dod â theimlad o hanes i Sioe Awyr Cymru ym mis Gorffennaf.

“Mae Sioe Awyr Cymru eisoes yn un o ddigwyddiadau am ddim mwyaf y DU, ond eleni rydym am wneud rhywbeth ychwanegol i nodi 50 mlynedd ers i Abertawe ddod yn ddinas.”

​​​​​​​Bydd awyren fôr ddeniadol yn rhan o Sioe Awyr Cymru’r haf hwn – 75 o flynyddoedd ar ôl iddi fod yn hela llongau tanfor y gelyn yn yr Ail Ryfel Byd.

Heb os nac oni bai, y Catalina yw’r awyren fôr enwocaf a mwyaf llwyddiannus a adeiladwyd erioed.

Roeddent yn hedfan yn eang yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac enillodd ei chriw ddwy fedel Croes Victoria.

Ers y rhyfel, maent wedi bod yn gwasanaethu â gweithredwyr milwrol a masnachol o gwmpas y byd ac maent wedi rhoi bywyd newydd iddynt fel awyrennau dŵr sy’n diffodd tannau coedwigoedd, awyrennau arolwg a sêr arddangosiadau awyr.

Ceir yr amserlen lawn ar gyfer penwythnos Sioe Awyr Cymru drwy lawrlwytho ap swyddogol o’r App Store sy’n costio £1.99 yn unig ar hyn o bryd.

Llun Awyren Catalina cwmni Consolidated,Miss Pick Up. Llun: Paul Johnson.

Filed Under: Uncategorized @cy

Sioe Awyr Gyda’r Hwyr

Ebrill 18, 2019 By Chris Williams

Bydd noson unigryw, llawn cerddoriaeth, gweithgarwch a chyffro yn trawsnewid yr awyr uwchben Abertawe’r mis Gorffennaf hwn.

Am y tro cyntaf erioed, bydd balwnau aer poeth a thimau erobatig sy’n hedfan gyda’r hwyr yn perfformio uwchben Abertawe fel rhan o benwythnos Sioe Awyr Cymru.

Trefnir y digwyddiad arbennig, a gynhelir o 8.30pm ar 6 Gorffennaf ac a fydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth o 1969, i helpu i ddathlu pen-blwydd y ddinas yn 50 oed a disgwylir i’r sioe fod yn gyffrous iawn.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod Sioe Awyr Cymru eisoes yn un o brif ddigwyddiadau am ddim y DU ond eleni roeddem am wneud rhywbeth ychwanegol i nodi pen-blwydd y ddinas yn 50 oed.

Meddai, “Prif ddiben Sioe Awyr Cymru yw bod yn drawiadol ac rydym yn gwybod bod y torfeydd enfawr y mae’n eu denu wir yn gwerthfawrogi’r arddangosiadau awyr a’r digwyddiadau ar y ddaear sef prif ran y digwyddiad.

“Rydym ymhlith cefnogwyr mwyaf ymroddedig y Red Arrows a dyna’r rheswm pam gwnaethant yn siŵr ein bod ni ar eu rhaglen ar gyfer yr haf dros ddeuddydd y digwyddiad.

“Ond mae’r digwyddiad ‘gyda’r hwyr’ yn addo ychwanegu rhywbeth arbennig iawn i ymwelwyr ei fwynhau gyda’r hwyr. Bydd unrhyw un sydd wedi gweld balwnau aer poeth gyda’r hwyr yn gwybod pa mor anhygoel yw eu gweld.

“Caiff y balwnau aer poeth eu gosod a’u clymu ar hyd traeth Abertawe a bydd tîm arddangos Fireflies hefyd yn perfformio – dwy awyren arddangos yw’r rhain sydd â thân gwyllt yn saethu oddi ar eu hadenydd – gan gyflwyno sioe stỳnt gyda’r hwyr.

“Trefnir hefyd i dîm arddangos parasiwt y Tigers berfformio naid gyda’r hwyr, dyma un o’n perfformwyr cyson yn Sioe Awyr Cymru.”

Ar y ddaear, bydd cerddoriaeth fyw a fydd yn peri i bobl hiraethu am y 60au hwyr, gan ddathlu rhai o’r caneuon a gyrhaeddodd frig y siartiau yn y flwyddyn pan ddynodwyd Abertawe’n ddinas am y tro cyntaf.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Abertawe 50 yn ddathliad o orffennol, presennol a dyfodol ein dinas a chynhelir Sioe Awyr Cymru lai nag wythnos ar ôl dyddiad swyddogol yr hanner canmlwyddiant, sef 3 Gorffennaf.

“Mae Sioe Awyr Cymru wedi dod yn rhan o hanes a threftadaeth fodern ein dinas, gan ddenu tua 250,000 o ymwelwyr i’r traeth yn ystod deuddydd y digwyddiad. Roeddem am wneud rhywbeth arbennig ar gyfer yr hanner canmlwyddiant a dyna beth yw pwrpas y rhan ‘gyda’r hwyr’ o’r Sioe Awyr.”

Dyma un yn unig o lawer o ddigwyddiadau a gynlluniwyd drwy gydol y flwyddyn i nodi hanner canmlwyddiant Abertawe. Rydym yn gofyn hefyd i breswylwyr a busnesau gymryd rhan drwy feddwl am eu digwyddiadau a’u syniadau eu hunain i ddathlu’r garreg filltir unigryw. I gael gwybodaeth am sut gallwch fod yn rhan o Abertawe 50, ewch i www.swansea50.co.uk/?lang=cy

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Sioe Awyr Cymru wrth ei bodd yn dilyn cadarnhad awyrennau o’r rhyfel

Ebrill 9, 2019 By Chris Williams

Bydd tair awyren eiconig o’r Ail Ryfel Byd yn dod â hanes yn fyw yr haf hwn yn Sioe Awyr Cymru.

Copyright: Paul Johnson/Flightline

Fel rhan o’r dathliadau sy’n nodi hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain yn arddangos tair o lond llaw o awyrennau sy’n parhau i gael eu hedfan mwy na 70 o flynyddoedd ers y rhyfel.

Bydd y Supermarine Spitfire, yr Hawker Hurricane a’r Avro Lancaster yn gadael eu marc ar Sioe Awyr Cymru ar 6 a 7 Gorffennaf o flaen torfeydd enfawr.

Mae’r digwyddiad am ddim a gynhelir gan Gyngor Abertawe eisoes wedi cyhoeddi y bydd Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol yn rhan o’r rhestr o ddigwyddiadau.

Copyright: Paul Johnson/Flightline

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Gellir dadlau mai Hediad Coffa Brwydr Prydain yw’r arddangosfa fwyaf hanesyddol ac atgofus yn hanes Prydain.

“Mae gweld yr awyrennau hyn yn cael eu hedfan yn ffordd o ddod â hanes yn fyw ac wrth ddathlu 50 mlynedd ers ein hurddo fel dinas, rydym yn falch o’u croesawu yma yn Abertawe.”

Meddai David Bailey, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid cwmni rheilffordd GWR, partner rheilffordd swyddogol Sioe Awyr Cymru, “Bydd Rheilffordd y Great Western yn helpu i ddenu mwy o bobl nag erioed i Abertawe eleni gyda’n trenau Intercity Express yn darparu bron chwarter yn fwy o gadeiriau ar bob gwasanaeth na’r trenau a ddisodlwyd ganddynt.

“Mae GWR yn falch o noddi Hediad Coffa Brwydr Prydain yn Sioe Awyr Cymru eleni.”

Filed Under: Airshow News, Press Releases

Y Red Arrows fydd prif act Sioe Awyr Cymru

Mawrth 28, 2019 By Chris Williams

Bydd tîm erobatig o’r radd flaenaf y Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe ar gyfer Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.

Bydd y Red Arrows yn hedfan ar ddau ddiwrnod y digwyddiad am ddim hwn gan Gyngor Abertawe a gynhelir ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf a dydd Sul 7 Gorffennaf.

Mae’r Red Arrows, a elwir yn Dîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol yn swyddogol, wedi perfformio dros 4,900 o arddangosiadau mewn dros 60 o wledydd ar draws y byd ers y 1960au.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae hi’n newyddion gwych bod y Red Arrows wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’r haf hwn.

“Bydd yn bleser croesawu’n ôl dîm ag enw rhyngwladol mor dda, yn enwedig ar gyfer y flwyddyn arbennig hon, wrth i Abertawe dathlu 50 mlynedd fel dinas.” Dengys y ffigyrau fod Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, wedi denu 250,000 o bobl y llynedd ac amcangyfrifwyd ei bod yn werth tua £9.7 miliwn i’r economi leol.

Get the Official APP!

Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.

Mae’r ap ar gael ar yr Appstore a Google Play. Bydd yr ap hefyd yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.

Bydd y cynnwys yn ymddangos wrth i bob perffomiwr newydd gael ei gyhoeddi a bydd yr amserlen ar gael ddydd Mercher 3 Gorffennaf.

Crowds pack Swansea Bay beach for last years Wales Airshow
Crowds pack Swansea Bay beach for last years Wales Airshow

Filed Under: Airshow News, Press Releases

  • « Previous Page
  • 1
  • …
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • …
  • 14
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo