Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 25 and 26 July 2026

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr a Chefnogwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Arddangosiadau ar y ddaear

Nid arddangosiadau acrobatig trawiadol yn yr awyr yn unig sy’n cael eu cynnig yn ystod Sioe Awyr Cymru, mae llawer o bethau difyr i deuluoedd ar y ddaear hefyd!

Mae llawer i’w weld ac i’w wneud, gan gynnwys efelychwyr hedfan, ffeiriau, awyrennau ar y ddaear, cerbydau ac arddangosiadau’r lluoedd arfog a llawer mwy. Cofiwch, bydd digon o fwyd a diod ar gynnig hefyd!

Bydd yr arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am i 6pm ar y ddeuddydd, gallwch gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi’r traffig a mwynhau’r arddangosiadau cyn i’r cyffro go iawn ddechrau yn yr awyr.


Yn ogystal â’r ffaith y bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau a gweithgareddau gwych, bydd hyd yn oed mwy i’w weld a’i wneud ar Oystermouth Road hefyd. Bydd arddangosiadau ar y ddaear ar hyd y prom o’r Ganolfan Ddinesig i Brynmill Lane.


Lluniaeth

Mae amrywiaeth eang o fwyd ar gael yn yr ardal arddangos ar y tir ar hyd Oystermouth Road, y Senotaff ac o gwmpas y Ganolfan Ddinesig. Mae’r bwyd sydd ar gael yn cynnwys seigiau canoldirol go iawn, pizzas wedi’u paratoi drwy losgi pren, bwyd barbeciw, bwyd cyfunol o Asia, bwyd stryd Indiaidd, bara naan llawn, fajitas/tacos ffres, pysgod a sglodion traddodiadol, byrgers a thatws pob. Os oes gennych chi ddant melys, byddwch yn dwlu ar yr hufen iâ, y toesenni, y losin a phopeth arall sydd ar gael, yn ogystal â the, coffi a diodydd meddal, a bar yn ardal y Ganolfan Ddinesig ac yn agos at y Senotaff i dorri eich syched.


Gwasanaethau Arfog

Bydd llawer mwy o bethau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau arfog i’w gweld a’u gwneud gan gynnwys y canlynol:

  • Band Tywysog Cymru
  • Cerbydau ymladd mawr
  • Ôl-gerbydau gwybodaeth
  • Pabell fawr y Cyfamod Abertawe gyda chynrychiolwyr o gyn-filwyr, elusennau a grwpiau cymorth.
  • Gallwch chi hefyd fynd y tu mewn i atgynhyrchiad y Red Arrow Hawk a’i archwilio!

Dewch i fod yn rhan o’r cyffro gydag efelychwyr a phrofiadau rhithrealiti

Ydych chi erioed wedi eisiau’r profiad o sefyll ar gludydd awyrennau pan fydd y jetiau’n codi? Neu, beth am eistedd yn sedd peilot un o Red Arrows yr RAF neu Typhoon?

Archwiliwch yr arddangosiadau ar y ddaear yn ystod Sioe Awyr Cymru er mwyn dod o hyd i’r profiadau rhithrealiti a’r efelychwyr hedfan hyn, yn ogystal â llawer mwy!


Cadetiaid Awyr, Y Fyddin a’r Môr

Bydd y Cadetiaid Awyr, Y Fyddin a’r Môr yn dychwelyd i Sioe Awyr Cymru gyda nifer o arddangosiadau rhyngweithiol sy’n arddangos y gweithgareddau difyr niferus maent yn eu gwneud fel cadetiaid y gwasanaethau milwrwol.


Cwrdd â’r Tîmau

Os nad yw gwylio’r awyrennau o’r promenâd yn ddigon, bydd gennych y cyfle i gwrdd â Thîm Raven, The Blades, Tîm Parasiwt y Tigers a pheirianwyr y Red Arrows, Chinook a Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain


Ffair Hwyl a Difyrion

Bydd y reidiau ffair a difyrion yn y Ganolfan Ddinesig ac ar Oystermouth Road, gan gynnwys efelychydd y Red Arrows, reidiau ar gyfer y rheini sy’n dwlu ar gyffro, reidiau i blant, weiren wib, gemau a difyrion trwy gydol benwythnos y Sioe Awyr, hwyl i’r holl deulu!


Adloniant

Bydd digonedd o gerddoriaeth fyw yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.


Ardaloedd gwylio i’r anabl yn y Ganolfan Ddinesig a ger y Senotaff. Yn ogystal ag ardaloedd ‘tawel’ y tu mewn i’r Ganolfan Ddinesig ar lawr cyntaf y llyfrgell. Mwy ar Hygyrchedd.

Cysylltwch a ni

News

  • Mae Sioe Awyr Cymru’n ôl 25 a 26 Gorffennaf, 2026
  • Sioe Awyr Cymru: Penwythnos o hwyl i’r teulu a champau awyrol anhygoel
  • Ardaloedd gwylio hygyrch yn Sioe Awyr Cymru
  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 25 A 26 GORFFENNAF 2026!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://youtu.be/zWpNsrb5GBk

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Cyngor Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2026 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo