Mae ceisiadau masnach ar gyfer Sioe Awyr Cymru yn gyfle gwych i chi hyrwyddo’ch busnes i gynulleidfa enfawr

Gyda stondinau masnachu yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, cewch fynediad at:
- Gynulleidfa deuluol
 - Cyfle i fasnachu am ddeuddydd
 - Stondinau amrywiol eu maint
 - Sioe Awyr Fwyaf Cymru
 - Mynediad i 200,000+ o gwsmeriaid posib.
 
Rhoddir stondinau arlwyo/bariau/hufen iâ drwy broses dendro sydd bellach ar gau. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau ar gyfer stondinau arlwyo/bariau/hufen iâ.
Asesiad Risg Tân ar gyfer Masnachwyr a Stondinau Marchnad
Cyfleoedd Noddi
Mae Cyngor Abertawe’n trefnu ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau arobryn sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae gwybodaeth yma am sut gallwch ein helpu i gynnal a gwella’r digwyddiadau hyn.
