Cynhelir Sioe Awyr Cymru unwaith eto ym Mae Abertawe 2026 – rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi yno.
Dros ddeuddydd, bydd rhai o’r peilotiaid a’r arddangosiadau hedfan gorau yn y byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i ddangos eu sgiliau trwy berfformio arddangosiadau aerobatig anhygoel. O jetiau i hofrenyddion, dyma ddau ddiwrnod na fyddwch am eu colli. Ac yn well byth – mae’r cyfan am ddim!
Nid yw’r holl gyffro’n digwydd yn yr awyr yn unig – bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau ar y ddaear, tryciau bwyd a diod blasus, profiadau rhithwirionedd, cerddorion a bandiau’n chwarae cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy!
Does dim syndod bod dros 200,000 o bobl yn dod i’r digwyddiad bob blwyddyn.
Bydd yr arddangosfeydd ar y ddaear ar agor am 10am ar y ddau ddiwrnod.
- RAF Tîm Arddangos y Typhoon – ddau ddiwrnod. Cefnogir ymddangosiad Tîm Arddangos y Typhoon yn Sioe Awyr Cymru gan Bassetts Motor Group.
- RAF Hediad Coffa Brwydr Prydain – Spitfire, Hurricane a C47 Dakota
- RAF Tutor Display Team – ddau ddiwrnod
- Strikemaster Pair – ddau ddiwrnod
- Rolls‑Royce Spitfire – ddau ddiwrnod
- Firebirds Display Team – ddau ddiwrnod
- OTTO Schweizer 300C Helicopter -nos Sadwrn
- Gazelle Squadron – ddau ddiwrnod
- Fairey Swordfish – ddau ddiwrnod
- Westland Wasp – ddau ddiwrnod
- Aerosuperbatic Wingwalkers – ddau ddiwrnod
- G J-Pit – dydd Sadwrn
- Starlings Aerobatic Team – ddau ddiwrnod
- Grumman Firecat water bomber – ddau ddiwrnod
- Hofrenydd Apache – Dydd Sadwrn
- Sioe Awyr Cymru Gyda’r Hwyr – Nos Sadwrn
Cofiwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook ac Instagram i gael y newyddion a’r cyhoeddiadau diweddaraf cyn digwyddiad 2026.
