Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Cwestiynau Cyffredin

Ydych chi’n mynd i Sioe Awyr Cymru ac oes gennych gwestiynau i’w gofyn? Efallai eich bod yn byw’n lleol ac rydych am wybod beth sy’n digwydd. Gall yr adran Cwestiynau Cyffredin eich helpu.

Beth yw Sioe Awyr Cymru?

Mae Sioe Awyr Cymru'n un o'r sioeau awyr mwyaf deniadol yn y DU a'r digwyddiad am ddim mwyaf yng Nghymru. Dros ddau ddiwrnod bob blwyddyn, mae ymwelwyr yn gweld arddangosiadau erobatig syfrdanol, awyrennau o'r radd flaenaf a llawer mwy!

Ble mae'r digwyddiad?

Bae Abertawe yw lleoliad Sioe Awyr Cymru bob tro. Mae ehangder Bae Abertawe'n amffitheatr naturiol ar gyfer yr arddangosiadau, sy'n golygu ei fod yn lleoliad poblogaidd ymhlith y gynulleidfa a'r peilotiaid.

Pryd mae'r digwyddiad?

Cynhelir Sioe Awyr Cymru 2025 ar 5 a 6 Gorffenaff 2025.

Oes angen tocyn arnaf ar gyfer Sioe Awyr Cymru? Faint sydd angen ei dalu?

Does dim angen tocynnau - mae Sioe Awyr Cymru am ddim!

Collais i rywbeth yn ystod Sioe Awyr Cymru - a fydd adran eiddo coll yno?

Os collwch chi unrhyw beth yn ystod y digwyddiad, gallwch gysylltu â ni trwy'r dudalen Facebook, neu e-bostiwch y tîm digwyddiadau yn special.events@abertawe.gov.uk.

Cofiwch y bydd Tîm Digwyddiadau Arbennig y Cyngor yn brysur iawn dros y penwythnos yn adeiladu, yn cydlynu ac yn symud pethau oddi ar y safle yn dilyn y digwyddiad, a byddwn yn ôl yn y swyddfa ar y dydd Mawrth (8 Gorffennaf) yn dilyn y digwyddiad.

A fydd sylwebaeth yn ystod y digwyddiad?

Bydd, bydd sylwebaeth yn ystod yr arddangosiadau awyr a gwneir cyhoeddiadau i'r cyhoedd drwy'r dydd. Bydd system sain ar waith o'r Ganolfan Ddinesig i'r prif safle arddangos ar y ddaear ar y promenâd mor bell â Brynmill Lane.

Bydd y diweddaraf ar gael hefyd ar ein tudalennau Twitter a Facebook.

A fydd bwyd a diod ar gael yn y sioe awyr?

Bydd, bydd amrywiaeth eang o fwyd ar gael yn y safle arddangos ar y ddaear ger y Senotaff, ger yr arddangosiadau ar y ddaear a hefyd ger y Ganolfan Ddinesig. Bydd y bwyd yn cynnwys tatws pob, cyri, byrgyrs, pysgod a sglodion a chrempogau. Bydd stondinau hufen iâ, toesenni a losin hefyd ar gael.
Bydd te, coffi a diodydd meddal ac alcohol ar gael i'w prynu.

Ble galla'i gael gwybodaeth pan fyddaf yma?

Bydd dau fan gwybodaeth, un ar y promenâd ger y Senotaff ac un yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd gan y timau gwybodaeth fapiau o'r safle hefyd.
Gellir hefyd adrodd am blant/rieni coll yn y mannau gwybodaeth. Os na fyddwch yn siŵr, bydd stiwardiaid ar y safle i'ch helpu hefyd.

A fydd cyfleusterau cymorth cyntaf yno?

Bydd, bydd dau brif fan cymorth cyntaf, gyda phersonél Ambiwlans Sant Ioan yno. Mae un man yn y Ganolfan Ddinesig a hefyd ar y promenâd ger y Senotaff.
Bydd aelodau Ambiwlans Sant Ioan hefyd yn patrolio'r safle drwy gydol y ddau ddiwrnod. Os na fyddwch yn siŵr, bydd stiwardiaid ar y safle i'ch helpu hefyd.

Faint o'r gloch bydd safle'n agor ac yn cau?

Bydd safle Sioe Awyr Cymru'n agor am 10am ac yn cau am 6pm ar y ddau ddiwrnod.

Rwyf ar y safle ac rwyf wedi bod yn dyst i ladrad/ymosodiad/rywbeth drwgdybus, beth dylwn i ei wneud?

Bydd staff diogelwch a Heddlu De Cymru i'w gweld ar y safle a byddant yn patrolio yn arena'r digwyddiad ac yn yr ardal gyfagos. Os byddwch yn gweld rhywbeth drwgdybus, adroddwch amdano i staff diogelwch neu stiward ar unwaith.

Rwy'n pryderu am fynd i ddigwyddiad mor fawr. Pa fesurau diogelwch sydd ar waith?

Eich diogelwch a'ch diogeled chi yw ein prif bryder, ac rydym yn ymdrin â hyn yn ddifrifol iawn. Mae Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad hwn am amser hir, ac os byddwch yn bresennol yn Sioe Awyr Cymru rydym am i chi fwynhau a chael hwyl, felly darllenwch yr wybodaeth a'r cyngor canlynol ynghylch diogelwch yn y digwyddiad.

  • Bydd staff diogelwch i'w gweld yn y digwyddiad a byddant yn patrolio o amgylch y safle.
    • Bydd cŵn arbenigol yn patrolio'r safle hefyd.
    • Mae rhwydwaith o gamerâu CCTV wedi'i osod o gwmpas y lleoliad, a chânt eu monitro o'n hystafell reoli'r digwyddiad.
    • Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r heddlu a gwasanaethau brys eraill i gynllunio digwyddiad sy'n ddiogel i bawb.
    • Bydd yr heddlu'n patrolio'r digwyddiad a'r ardal leol.
    • Efallai y byddwch yn gweld heddweision arfog yn patrolio'r ardal gan ei fod yn arfer arferol mewn digwyddiadau o'r maint hwn.
    • Bydd nifer o fesurau diogelwch eraill ar waith na allwch eu gweld.
A fydd toiledau ar y safle?

Bydd nifer o doiledau a thoiledau hygyrch yn ardal y digwyddiad ger y Senotaff, y Ganolfan Ddinesig ac ym meysydd parcio'r digwyddiad ac ar hyd Prom Abertawe.

Dyma ganol yr haf, ac rwy'n gobeithio y bydd y tywydd yn dda. A fydd safleoedd dŵr ar y safle?

Bydd gorsafoedd dŵr dynodedig lle gallwch ail-lenwi poteli.
Gwisgwch a chynlluniwch yn addas ar gyfer y tywydd. Mae'r tywydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn boeth ac yn heulog, felly paciwch ddigon o ddŵr, eli haul a dillad addas. Bydd aelodau Ambiwlans Sant Ioan ar gael er mwyn rhoi cyngor a chymorth yn ystod y tywydd twym.

Alla i ddod â barbeciw/fy nghi?

Ni chaniateir barbeciws. Rydym yn cynghori yn erbyn dod â chŵn oherwydd sŵn yr awyrennau a nifer y bobl (llai o le i gerdded yn ddiogel ar dennyn).

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo