
Rydyn ni’n gwneud pethau ychydig yn wahanol eleni. Ar ôl i’r brif sioe ddod i ben ddydd Sadwrn, bydd yr hwyl yn parhau gyda rhagor o hedfan – gyda’r hwyr!
Mae Sioe Awyr Cymru gyda’r Hwyr yn ddigwyddiad newydd cyffrous sy’n addo cyfres o arddangosiadau awyr wrth i’r haul fachlud 8.30pm – 9.45pm.
Bydd gwylwyr yn gallu mwynhau perfformiadau pyrotechnegol dramatig gan hofrennydd Otto, campau erobatig cyffrous gan y Firebirds yn ogystal â thân gwyllt.
Bydd Sioe Awyr Cymru gyda’r Hwyr yn gorffen gyda diweddglo arbennig sy’n cynnwys arddangosiad gan 200 drôn wedi’u cyfarwyddo a thân gwyllt.
Amserlen
- 20:55 – RAF Typhoon (Cefnogir ymddangosiad Tîm Arddangos y Typhoon yn Sioe Awyr Cymru gan Bassetts Motor Group)
- 21:18 – Firebirds
- 21:36 – OTTO Schweizer
- 21:50 – drôn wedi’u cyfarwyddo a thân gwyllt

