
Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu pan fydd yr AeroSuperBatic WingWalkers yn dychwelyd ar ddau ddiwrnod y Sioe Awyr 2019!
Mae AeroSuperBatics o’r DU wedi bod yn arbenigwyr mewn hedfan arddangos ers dros 30 o flynyddoedd a dyma un o’r actau sioe awyr sifilaidd mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yn Ewrop, ac mae’r tîm cerddwyr adenydd wedi perfformio mewn dros 2,500 o ddigwyddiadau.
Mae dros 6 miliwn o bobl yn gwylio’n tîm cerddwyr adenydd yn fyw bob blwyddyn yn y DU yn unig. Maent yn perfformio cyfres wefreiddiol o symudiadau a llawsafiadau acrobatig wrth iddynt gael eu clymu â strapiau i adenydd uchaf awyrennau dwbl hardd Boeing Stearman y tîm. Mae peilotiaid y tîm yn hedfan yr awyrennau drwy drefn egnïol o symudiadau erobateg rhagorol ag ehediadau clós y maent wedi’u hymarfer yn drylwyr wrth i’r cerddwyr adenydd chwifio ar y dorf. Mae’r symudiadau hyn yn cynnwys cylchu, rolio, troadau ar ongl a hyd yn oed taith awyr gwrthdroëdig! Yn ystod hyn oll, mae’r cerddwyr adenydd yn profi cyflymderau o hyd at 150 mya a grymoedd ‘G’ o hyd at 4G!