
Nid oeddem yn gallu cynnal ein Sioe Awyr Cymru arferol ym Mae Abertawe yn 2020, felly gwnaethom rywbeth ychydig yn wahanol yn lle!
Felly, dydd Sadwrn 4 Gorffennafrhwng 11am a 5pm, gallwch ymuno â ni ar ein tudalen Facebook swyddogol lle byddwn yn cyflwyno Sioe Awyr Cymru #Gartref – Dathliad Digidol!
Byddwn yn arddangos yr uchafbwyntiau gorau a chyfweliadau arbennig y timau arddangos amrywiol sydd wedi perfformio ym Mae Abertawe, gan gynnwys y Chinook, y Tutor, Hediad Coffa Brwydr Prydain, y Tigers yn ogystal â’r Red Arrows gwych!
Gallwch fwynhau’r dathliad o gysur eich cartref eich hun!

Byddwn yn cyflwyno gweithgareddau, ffeithiau, gwybodaeth ddiddorol a mwy yn y dyddiau cyn y dathliad digidol. Yna, ar 4 Gorffennaf, dewiswch eich cadair fwyaf cyfforddus neu eisteddwch yn eich hoff le yn yr ardd, dilynwch dudalen Facebook swyddogol Sioe Awyr Cymru ar eich hoff ddyfais a mwynhewch!
Gweithgareddau
Os nad oedd hynny’n ddigon cyffrous, cofiwch gynnwys y plant hefyd (plant ifanc neu hŷn!). Mae gennym bum weithgaredd ar thema’r Sioe Awyr iddynt, gan gynnwys taflen liwio, chwilair, gweld y gwahaniaeth a chreu awyren o bapur. Wyddech chi mai’r record byd ar gyfer yr amser hiraf yn hedfan awyren bapur yw 29.2 eiliad. Allwch chi guro’r record hon? Hoffem eich gweld yn rhoi cynnig arni!
This post is also available in: English