
Mae’r meysydd parcio sydd ar gael wedi’u haenu rhwng 1 a 4 yn seiliedig ar eu pellter o’r digwyddiad, yn ogystal â gwasanaeth Parcio a Theithio dynodedig gyda llwybrau cyflym yn gweithredu o safle Fabian Way.
Gellir archebu ar-lein tan:
- 5pm ddydd Gwener 24 Gorffennaf i barcio ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf
- 5pm ddydd Sadwrn 25ain i barcio ddydd Sul 26ain
Bydd talu ar y giât ar gael wedyn ar y diwrnod os oes digon o leoedd ar gael.
Haen 1: Tir y Rec (Glas) a’r Cae Lacrosse (ar y diwrnod)
Haen 2: Canolfan Ddinesig Abertawe – Dwyrain (Du), Rotwnda Neuadd y Ddinas (Coch), Paxton Street (Gwyn)
Haen 3: Caeau Chwarae Brenin Siôr V (Porffor)
Haen 4: Maes parcio talu ar y diwrnod
Ysbyty Singleton (Melyn)
Mae holl feysydd parcio’r digwyddiad yn hygyrch, ac mae lleoedd hygyrch dynodedig ar gael ym mhob un o feysydd parcio dynodedig y digwyddiad ond gwiriwch hyn gan fod arwyneb pob maes parcio’n amrywio (e.e. mae rhai ohonynt ar wair, etc.).
Mae eich tocyn yn caniatáu i 1 cerbyd (sy’n cynnwys hyd at 5 person) barcio rhwng 8am ac 11.30pm dydd Sadwrn, 8am ac 8pm dydd Sul at ddiben mynd i Sioe Awyr Cymru. Dim ailfynediad Ni chaniateir parcio dros nos. Ni chaniateir cartrefi modur. Mae amodau a thelerau llawn ar gael yma. Ni chaniateir ailfynediad.
Cerbyd trydan? Gellir dod o hyd i bwyntiau gwefru gerllaw ar-lein yma.
Gweler y map isod er mwyn eich helpu i gynllunio’ch taith a sgroliwch lawr i archebu lle parcio. Er mwyn gweld fersiwn fwy o’r map, cliciwch ar y llun yn y gornel dde uchaf.
(Yn agor mewn wefan Croeso Bae Abertawe)
Archebwch eich lle parcio ymlaen
Haen 1 Y Rec (Glas)
- Cost fesul cerbyd: £25*
- Côd post: SA2 0AT
- Arwyneb y maes parcio: Graean a gwair
- Ar agor o 8am
Haen 2 Canolfan Ddinesig Abertawe – Dwyrain (Du)
- Cost fesul cerbyd: £22*
- Côd post: SA1 3SN
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
Rotwnda Neuadd y Ddinas (Coch)
- Cost fesul cerbyd: £22*
- Côd post: SA1 4PE
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
Paxton Street (Gwyn)
- Cost fesul cerbyd: £22*
- Côd post: SA1 3SA
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
Haen 3 Caeau Chwarae Brenin Siôr V (Porffor)
- Cost fesul cerbyd: £17*
- Côd post: SA2 9AU
- Arwyneb y maes parcio: Gwair
- Ar agor o 8am
Meysydd parcio talu ar y diwrnod
Bydd nifer o feysydd parcio ‘talu wrth gyrraedd’ ar gael hefyd ar benwythnos y digwyddiad
Cae Lacrosse
- Cost fesul cerbyd: £25
- Côd post: SA2 0AT
- Arwyneb y maes parcio: Graean a gwair
- Ar agor o 8am
Ysbyty Singleton (Melyn)
- Cost fesul cerbyd: £10
- Côd Post: SA2 8QG
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
Bydd meysydd parcio eraill ar gael yng nghanol y ddinas nad ydynt yn ymwneud â’r digwyddiad. Mae gwybodaeth am y rhain ar gael ar-lein yma.
Parcio a Theithio
Ar ôl i chi barcio, gallwch ddefnyddio’ch tocyn i fynd ar y bysus gwennol a fydd yn gweithredu rhwng y safle parcio a theithio a man gollwng y sioe awyr yn y Ganolfan Ddinesig.
Safle Parcio a Theithio Fabian Way LLEOLIAD NEWYDD, PRIS IS!
- Cost fesul cerbyd: £10.00*
- Côd Post: SA1 8LD
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
- Bydd bysus yn gwasanaethu rhwng 8.30am – 11.30pm Dydd Sadwrn, 8.30am – 8.00pm Dydd Sul.
*Yn ogystal â ffi archebu
