Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Parcio

Airshow Parking

Ydych chi’n teithio yma i weld Sioe Awyr Cymru 2025? Mae amrywiaeth o feysydd parcio wedi’u paratoi ar gyfer y digwyddiad er mwyn helpu i wneud eich profiad mor bleserus â phosib.

Mae’r meysydd parcio sydd ar gael wedi’u haenu rhwng 1 a 3 yn seiliedig ar eu pellter o’r digwyddiad, yn ogystal â gwasanaeth Parcio a Theithio dynodedig gyda llwybrau cyflym yn gweithredu o safle Stiwdios y Bae, Fabian Way.

Darllenwch am yr holl opsiynau sydd ar gael isod er mwyn eich helpu i gynllunio’ch taith ac osgoi unrhyw straen ar ddiwrnod y digwyddiad!

Gellir archebu lle parcio ar-lein tan 5pm ddydd Gwener 4 Gorffennaf ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a than 5pm ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf ar gyfer dydd Sul 6 Gorffennaf. Ar ôl hynny gellir talu wrth y gât ar y diwrnod.

Cerbyd trydan? Gellir dod o hyd i bwyntiau gwefru gerllaw ar-lein yma.

Gweler y map isod er mwyn eich helpu i gynllunio’ch taith a sgroliwch lawr i archebu lle parcio. Er mwyn gweld fersiwn fwy o’r map, cliciwch ar y llun yn y gornel dde uchaf.

Gallwch bellach archebu lle parcio ar gyfer Sioe Awyr Cymru ar 5-6 Gorffennaf!

Sylwer:  Mae eich tocyn parcio yn caniatáu i 1 cerbyd (car/fan fach/beic modur) barcio rhwng 8am ac 8pm ar 5 neu 6 Gorffennaf 2025 at ddiben mynd i Sioe Awyr Cymru. Ni chaniateir parcio dros nos. Ni chaniateir cartrefi modur. Mae amodau a thelerau llawn ar gael yma, ac anfonir e-bost â gwybodaeth gyfeiriol atoch bythefnos cyn y digwyddiad a fydd yn eich arwain i ddilyn yr arwyddion cyfeiriol â system côd lliw. Ni chaniateir ailfynediad.

Mae holl feysydd parcio’r digwyddiad yn hygyrch, ac mae lleoedd hygyrch dynodedig ar gael ym mhob un o feysydd parcio dynodedig y digwyddiad ond gwiriwch hyn gan fod arwyneb pob maes parcio’n amrywio (e.e. mae rhai ohonynt ar wair, etc.).

Gellir archebu lle parcio ar-lein tan 5pm ddydd Gwener 4 Gorffennaf ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a than 5pm ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf ar gyfer dydd Sul 6 Gorffennaf. Ar ôl hynny gellir talu wrth y gât ar y diwrnod.

Haen 1 

Y Rec (Glas)

  • Cost fesul cerbyd: £20*
  • Côd Post: SA2 0AT
  • Arwyneb y maes parcio: Graean a gwair
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma
Cyfeiriadau ar gyfer Maes Parcio'r Rec

*Peidiwch â cheisio cael mynediad drwy gyffordd 42 oherwydd caiff eich llwybr ei rwystro gan y bydd ffyrdd ar gau*

  • Gadewch yr M4 ar gyffordd 47, gan ymuno â'r A483
  • Os ydych wedi teithio tua'r dwyrain ar yr M4, cymerwch yr ail allanfa i ymuno â'r A483 (arwydd Abertawe)
  • Os ydych wedi teithio tua'r gorllewin ar yr M4, cymerwch y bedwaredd allanfa i ymuno â'r A483 (arwydd Abertawe)
  • Ar y cylchfan, cymerwch y troad cyntaf i'r A4216 (arwydd Abertawe) ar Heol Caerfyrddin
  • Gyrrwch ar hyd y ffordd hon am oddeutu 1.4 milltir
  • Ewch i'r lôn ar y dde
  • Wrth gyffordd y Marquis Arms (y dafarn) trowch i'r dde i Heol y Cocyd ar yr A4216 (arwydd Gŵyr).
  • Dilynwch yr arwyddion isod
  • Arhoswch ar yr un ffordd (A4216) am tua 1.3 milltir tan eich bod yn cyrraedd set o oleuadau traffig. Ger y goleuadau hyn, ewch tua’r dde (arwyddion am Gŵyr)
  • Ar y cylchfan nesaf, ewch yn syth ymlaen (er mwyn aros ar yr A4216, Heol Vivian)
  • Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig nesaf
  • Trowch i'r chwith ar y cylchfan bach i Lôn Sgeti (yr A4216)
  • Cymerwch y troad cyntaf ar y dde i Lon Brynmill i faes parcio Y Rec / y maes parcio glas

Click here for Google Map Directions


Canolfan Ddinesig Abertawe – Dwyrain (Du)

  • Cost fesul cerbyd: £20*
  • Côd Post: SA1 3SN
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma
Cyfarwyddiadau ar gyfer Maes Parcio Ganolfan Ddinesig
  • Gadewch yr M4 ar gyffordd 42, gan ymuno â'r A483
  • Dilynwch arwyddion ar gyfer y Ganolfan Ddinesig, gan aros ar yr A483
  • Unwaith eich bod wedi mynd heibio Gwesty'r Village, arhoswch yn y lôn ar y chwith
  • Dilynwch arwyddion ar gyfer y Sioe Awyr/Canol y Ddinas
  • Arhoswch yn y lôn ar y chwith, gan fynd dros Afon Tawe
  • Ewch heibio Sainsbury’s ar eich chwith
  • Arhoswch yn y lôn ar y chwith
  • Ewch heibio'r 'LC' ar eich chwith
  • Ar ôl yr 'LC' byddwch yn Arena Abertawe
  • Wrth i chi gyrraedd y goleuadau traffig nesaf, cymerwch y troad nesaf i'r chwith i Dunvant Place
  • Dilynwch y ffordd, gan gymryd y troad cyntaf ar y dde i'r Ganolfan Ddinesig/Maes Parcio Du

Click here for Google Map directions


Rotwnda Neuadd y Ddinas (Coch)

  • Cost fesul cerbyd: £20*
  • Côd Post: SA1 4PE
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma

Haen 2

Paxton Street (Gwyn)

  • Cost fesul cerbyd: £15*
  • Côd Post: SA1 3SA
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma
Cyfarwyddiadau ar gyfer Maes Parcio Stryd Paxton
  • Gadewch yr M4 ar gyffordd 42, gan ymuno â'r A483
  • Dilynwch arwyddion ar gyfer y Ganolfan Ddinesig, gan aros ar yr A483
  • Unwaith eich bod wedi mynd heibio Gwesty'r Village, arhoswch yn y lôn ar y chwith
  • Dilynwch arwyddion ar gyfer y Sioe Awyr/Canol y Ddinas
  • Arhoswch yn y lôn ar y chwith, gan fynd dros Afon Tawe
  • Ewch heibio Sainsbury’s ar eich chwith
  • Arhoswch yn y lôn ar y chwith
  • Ewch heibio'r 'LC' ar eich chwith
  • Ar ôl yr 'LC' mae Arena Abertawe
  • Wrth i chi gyrraedd y goleuadau traffig nesaf, cymerwch y troad nesaf i'r chwith Dunvant Place
  • Dilynwch y ffordd, gan gymryd y troad cyntaf ar y chwith i Stryd Paxton/Maes Parcio Gwyn

Click here for Google Map Directions

Haen 3

Caeau Chwarae Brenin Siôr V (Porffor)

  • Cost fesul cerbyd: £10*
  • Côd Post: SA2 9AU
  • Arwyneb y maes parcio: Gwair
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma
Cyfarwyddiadau ar gyfer Maes Parcio Caeau Chwarae Brenin Siôr V

*Peidiwch â cheisio mynd drwy gyffordd 42 gan y bydd ffyrdd sydd ar gau yn eich atal*

  • Gadewch yr M4 ar gyffordd 47, gan ymuno â'r A483
  • Dylai traffig ar yr M4 sy'n mynd i'r dwyrain gymryd yr ail allanfa i'r A483 (arwyddion am Abertawe)
  • Dylai traffig ar yr M4 sy'n mynd i'r gorllewin gymryd y bedwaredd allanfa i'r A483 (arwyddion am Abertawe)
  • Wrth i chi gyrraedd y gylchfan, cymerwch y troad cyntaf ar y chwith (arwyddion am Abertawe) i Heol Caerfyrddin
  • Arhoswch ar y ffordd hon am oddeutu 1.4 filltir
    Ewch i'r lôn ar y dde
  • Wrth i chi gyrraedd y gyffordd â thafarn The Marquis Arms, trowch i'r dde i Heol y Cocyd (A4216) (arwyddion am Gŵyr). Dilynwch yr arwyddion isod
  • Arhoswch ar yr un ffordd (A4216) am tua 1.3 milltir tan eich bod yn cyrraedd set o oleuadau traffig. Ger y goleuadau hyn, ewch tua’r dde (arwyddion am Gŵyr
  • Wrth i chi gyrraedd y gylchfan nesaf, ewch yn syth ymlaen (gan aros ar yr A4216, sef Heol Vivian)
  • Wrth i chi gyrraedd y goleuadau traffig nesaf, ewch yn syth yn eich blaen heibio tafarn The Vivian (ar y dde) i Heol Dillwyn
  • Wrth i chi gyrraedd y goleuadau traffig nesaf, trowch i'r chwith
  • Wrth i chi gyrraedd y gylchfan fach, cymerwch y troad cyntaf ar y chwith i Lôn Sgeti (A4216)
  • Ar ddiwedd y ffordd hon,defnyddiwch y lôn ar y dde a throwch i Heol y Mwmbwls, A4067
  • Cymerwch y troad cyntaf ar y dde i Gaeau Chwarae Brenin Siôr V/Maes Parcio Porffor

Click here for Google Map directions

*Yn ogystal â ffi archebu o 5% fesul pryniad

Meysydd parcio talu ar y diwrnod

Bydd nifer o feysydd parcio ‘talu wrth gyrraedd’ ar gael hefyd ar benwythnos y digwyddiad

Ysbyty Singleton (Melyn)

  • Cost fesul cerbyd: £10
  • Côd Post: SA2 8QG
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
Cyfeiriadau ar gyfer Maes Parcio Gorlif Ysbyty Singleton

*Peidiwch â cheisio cael mynediad drwy gyffordd 42 oherwydd caiff eich llwybr ei rwystro gan y bydd ffyrdd ar gau*

  • O'r M4, cymerwch gyffordd 47 i ymuno â'r A483
  • Os ydych wedi teithio tua'r dwyrain ar yr M4, cymerwch yr ail allanfa i ymuno â'r A483 (arwydd Abertawe)
  • Os ydych wedi teithio tua'r gorllewin ar yr M4, cymerwch y bedwaredd allanfa i ymuno â'r A483 (arwydd Abertawe)
  • Ar y cylchfan, cymerwch y troad cyntaf i'r A4216 (arwydd Abertawe) ar Heol Caerfyrddin
  • Gyrrwch ar hyd y ffordd hon am oddeutu 1.4 milltir
  • Ewch i'r lôn ar y dde
  • Wrth gyffordd y Marquis Arms (y dafarn) trowch i'r dde i Heol y Cocyd ar yr A4216 (arwydd Gŵyr).
  • Dilynwch yr arwyddion isod
  • Arhoswch ar yr un ffordd (A4216) am tua 1.3 milltir tan eich bod yn cyrraedd set o oleuadau traffig. Ger y goleuadau hyn, ewch tua’r dde (arwyddion am Gŵyr)
  • Ar y cylchfan nesaf, ewch yn syth ymlaen (er mwyn aros ar yr A4216, Heol Vivian)
  • Ewch yn syth drwy'r goleuadau traffig nesaf heibio tafarn The Vivian (ar y dde) i Heol Dillwyn
  • Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig nesaf
  • Wrth y cylchfan bach, cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i Lôn Sgeti
  • Cymerwch y troad cyntaf ar y dde i faes parcio gorlif Ysbyty Singleton/melyn

Click here for Google Map Directions


Prifysgol Abertawe (Gwyrdd)

  • Cost fesul cerbyd: I’w Gadarnhau
  • Côd Post: SA2 8PP
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
Cyfeiriadau ar gyfer Maes Parcio Prifysgol Abertawe

*Peidiwch â cheisio cael mynediad drwy gyffordd 42 oherwydd caiff eich llwybr ei rwystro gan y bydd ffyrdd ar gau*

  • O'r M4, cymerwch gyffordd 47 i ymuno â'r A483
  • Os ydych wedi teithio tua'r dwyrain ar yr M4, cymerwch yr ail allanfa i ymuno â'r A483 (arwydd Abertawe)
  • Os ydych wedi teithio tua'r gorllewin ar yr M4, cymerwch y bedwaredd allanfa i ymuno â'r A483 (arwydd Abertawe)
  • Ar y cylchfan, cymerwch y troad cyntaf i'r A4216 (arwydd Abertawe) ar Heol Caerfyrddin
  • Gyrrwch ar hyd y ffordd hon am oddeutu 1.4 milltir
  • Ewch i'r lôn ar y dde
  • Wrth gyffordd y Marquis Arms (y dafarn) trowch i'r dde i Heol y Cocyd ar yr A4216 (arwydd Gŵyr). Dilynwch yr arwyddion isod
  • Arhoswch ar yr un ffordd (A4216) am tua 1.3 milltir tan eich bod yn cyrraedd set o oleuadau traffig. Ger y goleuadau hyn, ewch tua’r dde (arwyddion am Gŵyr
  • Ar y cylchfan nesaf, ewch yn syth ymlaen (er mwyn aros ar yr A4216, Heol Vivian)
  • Ewch yn syth drwy'r goleuadau traffig nesaf heibio tafarn The Vivian (ar y dde) i Heol Dillwyn
  • Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig nesaf
  • Trowch i'r chwith ar y cylchfan bach i Lôn Sgeti (yr A4216)
  • Ar waelod y ffordd hon, cymerwch y lôn ar y chwith a throwch i Heol y Mwmbwls, yr A4067
  • Cymerwch yr ail droad i'r chwith i Brifysgol Abertawe/y maes parcio gwyrdd

Click here for Google Map Directions

Bydd meysydd parcio eraill ar gael yng nghanol y ddinas nad ydynt yn ymwneud â’r digwyddiad. Mae gwybodaeth am y rhain ar gael ar-lein yma.

Parcio a Theithio

Bydd dau safle Parcio a Theithio pwrpasol yn gweithredu yn ystod y penwythnos ar gyfer ymwelwyr â Sioe Awyr Cymru’n unig

Sylwer – gall traffig ar benwythnosau Sioe Awyr Cymru fod yn brysur iawn, a bydd yn cymryd amser i’r bysus Parcio a Theithio deithio rhwng y safle a’r digwyddiad. Dylech ystyried hyn wrth wneud eich cynlluniau teithio.

Sylwer – mae eich tocyn parcio yn caniatáu i un cerbyd (car/fan fach) gyda hyd at 5 person barcio rhwng 8.30am ac 8pm ar 5 Gorffennaf 2025 neu 6 Gorffennaf 2025 at ddiben mynd i Sioe Awyr Cymru. Ni chaniateir parcio dros nos. Ni chaniateir cartrefi modur. Mae amodau a thelerau llawn ar gael yma, ac anfonir e-bost â gwybodaeth gyfeiriol atoch bythefnos cyn y digwyddiad a fydd yn eich arwain i ddilyn yr arwyddion cyfeiriol â system côd lliw. Ni chaniateir ailfynediad.

Stiwdios y Bae, Fabian Way

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o faes parcio Stiwdios y Bae ar Fabian Way (Cyffordd 42 yr M4) wrth gyrraedd Abertawe, gan ollwng a chodi pobl wrth y Ganolfan Ddinesig.

Gyda llwybr cyflym, bydd yr amser teithio o safle parcio a theithio Stiwdios y Bae i’r digwyddiad yn llai, ond caniatewch ddigon o amser i barcio’ch car a dal y bws er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli’r hwyl.

  • Cost fesul cerbyd: £12.50*
  • Côd Post: SA1 8PZ
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
  • Bydd bysus yn gwasanaethu rhwng 8.30am ac 8.00pm
  • Cadw lle parcio yma
Cyfarwyddiadau ar gyfer Parcio a Theithio

Parcio a Theithio – Stiwdio'r Bae

  • Gadewch yr M4 ar gyffordd 42, gan ymuno â'r A483
  • Dilynwch arwyddion Parcio a Theithio'r Digwyddiad
  • Wrth i chi nesáu at y gylchfan, ewch i'r lôn ar y dde sydd ag arwydd ar gyfer Amazon/Llandarcy
  • Cymerwch yr ail allanfa ar gyfer Ffordd Amazon a dilynwch arwyddion Parcio a Theithio'r Digwyddiad
  • Ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf, bydd bysus yn rhedeg rhwng 8:30 ac oddeutu 20:30
  • Ddydd Sul 3 Gorffennaf, bydd bysus yn rhedeg rhwng 8:30 ac oddeutu 20:30
  • Caniatewch ddigon o amser i chi gyrraedd y digwyddiad

Click here for Google Map Directions

*Yn ogystal â ffi archebu o 5% fesul pryniad

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo