Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn dychwelyd i Abertawe ar 11 ac 12 Gorffennaf 2015!
Dros benwythnos 11 ac 12 Gorffennaf, bydd Dinas Bennaf Cymru unwaith eto’n cynnal Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.
Gellir gweld y sioe hon ar hyd 5 milltir Bae Abertawe o SA1 i Ben y Mwmbwls gan roi golygfeydd godidog o’r arddangosiadau awyr sy’n cynnwys rhai o dimau arddangosiadau awyr milwrol a sifil gorau’r byd. Mae atyniadau ar y ddaear yn cynnwys pentref milwrol rhyngweithiol, stondinau masnach, adloniant i blant, ffair hwyl a llawer mwy.
Ym Mae Abertawe, mae ein Sioe Awyr wedi tyfu ac wedi sefydlu ei hun fel un o brif ddigwyddiadau mawr Cymru. Yn 2013 denodd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru gynulleidfa o dros 180,000 o bobl.
Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yw’r digwyddiad awyr mwyaf, ac un o’r digwyddiadau cynulleidfaol mwyaf yng Nghymru. Amcangyfrifwyd y denwyd 180,000 o bobl i Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2013, 60,000 yn fwy na 2011.
Order Your Timetable
Due to the nature of the event time tables will be made available with all purchases of the event programme. Here is the running order. Find out more here.
Mwy o wybodaeth
Mae gennym dudalennau penodol ar gyfer parcio, teithio a gwybodaeth i ymwelwyr. Cymerwch gipolwg a dechreuwch drefnu heddiw.
Yr Wybodaeth Ddiweddaraf
Er mwyn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl newyddion ar gyfer y digwyddiad hwn ac eraill yn Abertawe:
- Cofrestrwch i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf drwy’r cylchlythyr Joio Bae Abertawe.
- Dilynwch Joio Bae Abertawe ar Facebook.
- Dilynwch Joio Bae Abertawe ar Twitter.
- Ewch i wefan Joio Bae Abertawe am fwy o ddigwyddiadau gwych.
- Ewch i wefan Dewch i Fae Abertawe am wybodaeth i ymwelwyr.