Nid arddangosiadau acrobatig trawiadol yn yr awyr yn unig sy’n cael eu cynnig yn ystod Sioe Awyr Cymru, mae llawer o bethau difyr i deuluoedd ar y ddaear hefyd!
Isod, gweler rhagflas o’r hyn a oedd ar gynnig yn ystod Sioe Awyr Cymru 2019, a’r hyn gallwch ei ddisgwyl yn 2021!
Mae llawer i’w weld ac i’w wneud, gan gynnwys efelychwyr hedfan, ffeiriau, atgynhyrchiadau o awyrennau ar y ddaear, cerbydau ac arddangosiadau’r lluoedd arfog a llawer mwy. Cofiwch, bydd digon o fwyd a diod ar gynnig hefyd!

Bydd yr arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10.00am i 6.00pm ar y ddeuddydd, gallwch gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi’r traffig a mwynhau’r arddangosiadau cyn i’r cyffro go iawn ddechrau yn yr awyr.
Rhagflas yn unig yw’r wybodaeth isod o’r hyn a fydd yn cael ei gynnig yn ystod Sioe Awyr Cymru 2019, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn 2020 er mwyn gweld hyn i gyd a llawer mwy!
Wrth i Sioe Awyr Cymru dyfu’n fwy ac yn well bob blwyddyn, mae’r arddangosiadau ar y ddaear yn gwneud yr un peth! Eleni, yn ogystal â’r ffaith y bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau a gweithgareddau gwych, bydd hyd yn oed mwy i’w weld a’i wneud ar Heol Ystumllwynarth hefyd.

Lluniaeth
Bydd amrywiaeth o fwyd ar gael yn yr ardal arddangos ar y ddaear ger y Rec a’r Senotaff a hefyd ger y Ganolfan Ddinesig. Bydd te, coffi a diodydd meddal ar gael hefyd. Bydd yr amrywiaeth o fwyd sydd ar gael yn cynnwys tatws pob, cyri, byrgyrs, pysgod a sglodion, cig moch rhost a chrempogau, ynghyd â hufen iâ, toesenni, losin a chyffug.
Atgynhyrchiad o awyren hanesyddol

Dewch i weld atgynhyrchiad maint llawn o awyrennau Spitfire a Hurricane! Bydd cynrychiolwyr hyrwyddo hanesyddol ar gael i ddarparu sgyrsiau ac i gynnig ffeithiau a manylion am yr awyren wrth i chi archwilio rhai o awyrennau enwocaf hanes milwrol Prydain. Gallwch chi hefyd fynd y tu mewn i atgynhyrchiad y Chinook a’i archwilio.
Gwasanaethau Arfog
Bydd llawer mwy o bethau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau arfog i’w gweld a’u gwneud gan gynnwys y canlynol:
- Heriau ffitrwydd y fyddin
- Arddangosiadau gan y Corfflu Drymiau
- Cerbydau ymladd mawr
- Offer chwyddadwy
- Ôl-gerbydau gwybodaeth
- A llawer mwy
Dewch i fod yn rhan o’r cyffro gydag efelychwyr a phrofiadau rhithrealiti
Ydych chi erioed wedi eisiau’r profiad o sefyll ar gludydd awyrennau pan fydd y jetiau’n codi? Neu, beth am eistedd yn sedd peilot un o Red Arrows yr RAF?
Archwiliwch yr arddangosiadau ar y ddaear yn ystod Sioe Awyr Cymru 2019 er mwyn dod o hyd i’r profiadau rhithrealiti a’r efelychwyr hedfan hyn, yn ogystal â llawer mwy!
Arddangosiadau Cŵn Heddlu’r RAF
Peidiwch â cholli’ch cyfle i weld Tîm Arddangos Milwrol Cŵn Heddlu’r RAF yn Sioe Awyr Cymru 2019, gydag arddangosiadau ddwywaith y dydd ar draeth Bae Abertawe
Cadetiaid Awyr
Bydd y cadetiaid awyr yn dychwelyd i Sioe Awyr Cymru gydag arddangosiadau crefft maes, radios a gallwch brofi’ch hun gyda’u tŵr dringo symudol
Cwrdd â’r Tîmau
Os nad yw gwylio’r awyrennau o’r promenâd yn ddigon, bydd gennych y cyfle i gwrdd â Thîm Raven, The Blades, Tîm Parasiwt y Tigers a pheirianwyr y Red Arrows, Chinook a Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain
Ffair Hwyl a Difyrion
Bydd reidiau, difyrion gemau a ffair ym Maes Parcio Gorllewinol y Ganolfan Ddinesig dros y penwythnos ar gyfer y Sioe Awyr, bydd hwyl i’r teulu cyfan!
Adloniant Llwyfan
Bydd tair llwyfan i’r Sioe Awyr lle darperir cerddoriaeth fyw ac adloniant drwy’r dydd yn y lleoliadau canlynol:
- Y Senotaff
- Canolfan Ddinesig
- Heol Ystumllwynarth
This post is also available in: English