[Image courtesy of The Norwegian Air Force Historical Squadron]
Awyren SB Lim-2 (MiG-15UTI) yw hon a adeiladwyd yng Ngwlad Pwyl, ac a gynhyrchwyd gan WSK-Mielec ym 1952. Gweithredir yr awyren gan Sgwadron Hanesyddol yr Awyrlu Norwyaidd fel cynrychiolydd ‘gelyn’ y Rhyfel Oer.
Ar ôl i wasanaeth Awyrlu Gwlad Pwyl ddod i ben ym 1990, allforiwyd yr awyren i UDA, a’i lleoli y tu allan i Forks, Washington. Dychwelwyd yr awyren i Ewrop yn ystod haf 2014. Cyn-beirianwyr MiG-15 profiadol Awyrlu Gwlad Pwyl sy’n gwneud y gwaith cynnal a chadw ar yr awyren.
O ystyried y ffin a rennir rhwng gogledd-ddwyrain Norwy a Rwsia, a’r brwydrau niferus rhwng Awyrlu Brenhinol Norwy ac awyrennau Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer, mae’r MiG Pwyleg yn ychwanegiad priodol i Sgwadron Awyr Hanesyddol yr Awyrlu Norwyaidd.
Mae’r awyren wedi’i phaentio a’i marcio fel “RED 18” i gynrychioli MiG-–15 y peilot a’r gofodwr RwsiaiddSofietaidd, Yuri Gagarin. Ef oedd y dyn cyntaf i deithio i’r gofod ym 1961. Cyn ei hyfforddiant fel gofodwr, roedd Yuri Alekseyevich Gagarin yn filwr ger y ffin â Norwy a 40 km yn unig o ddinas Norwyaidd Kirkenes fel peilot awyrennau ymladd yn hedfan y MiG-15.