Oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r digwyddiad 2025 hwn?
Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae pecynnau ar gael sy’n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu’ch anghenion a’ch amcanion. I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch Commercial@swansea.gov.uk
Cefnogir Tîm Arddangos y Typhoon gan Bassetts Motor Group

Dechreuodd gwmni Bassetts mewn ffordd ddigon di-nod sawl blwyddyn yn ôl. Sefydlwyd y cwmni gan deulu Francis yn seiliedig ar werthoedd cryf, gwaith caled ac ymrwymiad i wasanaethu cymunedau de a Gorllewin Cymru. Ers y dyddiau cynnar hyn, mae’r busnes wedi tyfu yn un o’r 20 o ddelwriaethau gorau yng Nghymru, gan gynrychioli ystod amrywiol a blaengar o frandiau modurol.
Heddiw, mae Bassetts yn cynnal saith delwriaeth â sawl masnachfraint yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, gan gynnig dewis arbennig o wneuthurwyr sefydledig a newydd i’w cwsmeriaid. Er bod y grŵp wedi tyfu, mae’n parhau i fod yn driw i’w ethos teuluol sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth rhagorol, buddsoddi yn ei bobl a chefnogi’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Gyda thîm dwyieithog a threftadaeth leol falch, mae Bassetts yn parhau i ddatblygu gyda’r un ymroddiad, uniondeb ac ymagwedd sy’n blaenoriaethu cwsmeriaid sydd wedi diffinio’r busnes ers cenedlaethau.
Cefnogir y Bwrdd Hedfan gan Faes Awyr Caerdydd

Mae Maes Awyr Caerdydd yn falch o gefnogi Sioe Awyr Cymru, un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf cyffrous Cymru. Mae Maes Awyr Caerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu cymunedau, cefnogi twristiaeth a chyfrannu at yr economi ranbarthol ac mae ein partneriaeth â Sioe Awyr Cymru’n adlewyrchu cyfle a rennir i arddangos y diwydiant hedfan i gynulleidfa eang.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn darparu mynediad i amrywiaeth o gyrchfannau gan gynnwys ein llwybr trawsatlantig newydd i Toronto, Canada, gan gynnig opsiynau ar gyfer teithwyr hamdden a busnes.
Rydym yn falch o gefnogi’r Sioe Awyr a bod yn rhan o benwythnos syn dathlu hedfan ac yn cyflwyno cyffro’r awyr i ymwelwyr o bob oedran.
Bandiau Arddwrn Arhoswch yn Ddiogel – cefnogir gan Gynnig Gofal Plant Cymru
Amserlen Sioe Awyr Cymru – cefnogir gan Lepas – Day’s Motor Group

Amserlen Sioe Awyr Cymru – cefnogir gan Lepas – Day’s Motor Group
Mae newyddion mawr gan Day’s – rydyn ni wedi ychwanegu enw newydd sbon at y teulu: Lepas, a fydd yn ymuno â’n casgliad o gerbydau Ford, Peugeot, Chery a Geely yn Day’s ym Mhlas-marl.
Brand newydd gan Chery yw Lepas, ac mae’n gwneud ei ffordd i’r DU gyda rhywbeth ychydig yn wahanol. Yn gyntaf mae’r L8, cerbyd SUV hybrid plygio i mewn gyda phum sedd a digon o le, a fydd yn eich galluogi i yrru yn hyderus ac mewn steil. Bydd pob car yn y casgliad Lepas yn defnyddio trydan mewn rhyw ffordd, naill ai fel cerbyd hybrid neu hybrid plygio i mewn neu gerbyd trydan 100%, felly mae digonedd o ddewis yn dibynnu ar yr hyn sy’n addas i chi.
Mae’n ddewis gwych newydd i unrhyw un sy’n chwilio am rywbeth gwahanol i gerbyd SUV arferol, gyda chefnogaeth brand y mae pobl wedi ymddiried ynddo ers dros ganrif.
Dewch i’w weld drosoch eich hun yn Day’s ym Mlas-marl.
www.days.co.uk/pages/lepas/lepas-new-cars
Partner Teithio – First Bus

Yn First Bus rydym o’r farn bod dyfodol trafnidiaeth yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn gysylltiedig. Fel un o weithredwyr mwyaf y DU, rydym yn falch o gadw cymunedau’n symud, o Abertawe i Aberdeen, gan gludo miliwn o gwsmeriaid i’r gwaith, yr ysgol ac i weithgareddau hamdden bob dydd heb drafferth.
Rydym yn canolbwyntio ar ddyfodol trafnidiaeth lân ac rydym yn gweithio i wella ansawdd aer a lleihau tagfeydd trwy drosglwyddo i gerbydlu heb allyriadau 100% erbyn 2035. Gyda chefnogaeth 14,000 o weithwyr proffesiynol ymroddedig, rydym eisoes yn gweithredu dros 800 o gerbydau trydan yn ein cerbydlu o 4,500 o gerbydau ac rydym yn arwain y ffordd gyda’n technoleg tocynnau Tapio i Mewn ac Allan sy’n hawdd eu defnyddio.
Rydym yn falch o fod yn gyflogwr sy’n cynnig cyflog byw gwirioneddol gan fuddsoddi’n helaeth yn ein pobl a thechnoleg o’r radd flaenaf i sicrhau bod pob taith yn gyfeillgar, yn ddibynadwy ac yn ddidrafferth.
Mwynhewch y sioe a gadewch i ni drefnu’r daith adref!
De a Gorllewin Cymru | First Bus
Radnor Hills – yma i hydradu’r cadetiaid gwirfoddol

Mae Radnor Hills, a sefydlwyd ym 1990, yn gynhyrchydd diodydd meddal arobryn yng nghefn gwlad hardd Heartsease yn Nhrefyclo, Powys.
Mae portffolio diodydd amrywiol Radnor yn cael ei wneud gan ddefnyddio dŵr ffynnon o Gymru sy’n eithriadol o bur, o dir fferm y teulu sydd ychydig funudau o’r llinell gynhyrchu er mwyn sicrhau’r cynnyrch mwyaf ffres.
Mae ein brandiau’n cynnwys dŵr ffynnon Radnor Hills, Heartsease Farm, Radnor Splash a’n hamrywiaeth o ddiodydd sy’n arwain y farchnad i blant oedran ysgol, Radnor Fizz.
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn sylfaen i’n cwmni a gellir ailgylchu ein holl gynnyrch – mae ein poteli plastig a’n deunyddiau lapio tynn yn hollol ailgylchadwy ac maent hefyd yn cynnwys 30% o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, nid oes gwelltyn ar ein cartonau a gellir ailgylchu ein caniau alwminiwm yn ddiddiwedd.
Mae Radnor Hills wedi ennill gwobrau gan gynnwys y wobr Rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd a noddir gan Lywodraeth Cymru a gwobr Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn Gwobrau Bwyd a Diod Cymru.
Tesco – cefnogi’r cadetiaid gwirfoddol yn hael

O aelodau o’r lluoedd arfog sy’n dal i wasanaethu a chyn-filwyr i filwyr wrth gefn a theuluoedd milwrol, rydym yn hynod falch o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Dyna’r rheswm dros ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog y llynedd a lansio partneriaeth a fydd yn para am dair blynedd rhwng ein Rhwydwaith Lluoedd Arfog a Help for Heroes.
- Codwyd mwy na £23m dros elusennau’r Lluoedd Arfog ers 2016.
- Y manwerthwr cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.
- Cysylltwyd mwy nag 20,000 o gydweithwyr â’r Lluoedd Arfog.
Tesco – Yn falch o gefnogi ein Lluoedd Arfog
Partner Cerbydau – Day’s Rental
