Roedd penwythnos Sioe Awyr Cymru’n un gwych gyda channoedd o filoedd o bobl yn mwynhau digwyddiad awyr agored am ddim mwyaf y wlad.
Cafodd ymwelwyr o bob rhan o’r DU eu difyrru gan arddangosiadau’r Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain, Typhoon yr Awyrlu Brenhinol ac eraill dros ddeuddydd y sioe awyr.
Roedd torfeydd enfawr wedi mwynhau amrywiaeth eang o arddangosfeydd rhyngweithiol, gweithgareddau ac adloniant byw ar y ddaear yn ogystal â gweld y cyffro yn yr awyr yn y digwyddiad a drefnwyd gan Cyngor Abertawe.
Ymhlith y nodweddion, ac yn newydd ar gyfer 2025, roedd grŵp plymio sgwadron y Llynges Frenhinol, gyda’i arddangosfa tanc plymio gyffrous, a gynigiodd gipolwg prin i ymwelwyr ar fyd beiddgar plymwyr clirio ffrwydron.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, “Fel un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau blynyddol Abertawe, roedd y sioe awyr yn llwyddiant ysgubol, gan barhau i gefnogi enw da’r ddinas fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr.
“Roedd sêr y sioe mynediad am ddim yn cynnwys y cannoedd o filoedd o ymwelwyr a fwynhaodd ddiwrnod allan neu benwythnos yn Abertawe. Arweiniodd yr awyrgylch teuluol at benwythnos gwych, ac ni ddifethwyd hwyliau pobl gan y glaw.
“Mae’r sioe awyr yn cyfrannu miliynau o bunnoedd at yr economi leol, ac rydym yn diolch i fusnesau a phreswylwyr lleol am eu hamynedd gyda’r ffyrdd a oedd ar gau, ac i’r holl fasnachwyr am eu cyfraniad at lwyddiant y sioe ddiweddaraf.
“Rydym hefyd yn gwerthfawrogi dealltwriaeth y rheini yr effeithiwyd ar eu trefniadau dyddiol gan y newidiadau ffyrdd a roddwyd ar waith er diogelwch pawb.”
Mae Cyngor Abertawe’n estyn eu diolch i bawb a ddaeth i’r Sioe Awyr, yn ogystal â staff y cyngor, y gwasanaethau brys, noddwyr y sioe a phartneriaid eraill y cyngor a helpodd i wneud y digwyddiad yn arddangosfa o’r radd flaenaf ar gyfer y ddinas.
Mae ystod eang o ddigwyddiadau o’r safon uchaf yn cael eu cynnal eleni yn Abertawe, a chroesewir IRONMAN 70.3 Abertawe unwaith eto i’r ddinas ar 13 Gorffennaf.
Mae rhagor o wybodaeth am haf gwych o ddigwyddiadau yn Abertawe ar gael yn: www.croesobaeabertawe.com