Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 25 and 26 July 2026

  • Sioe Awyr Cymru
    • Arddangosiadau Awyr
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Sioe Awyr Cymru Gyda’r Hwyr
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr a Chefnogwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru

Mae gwasanaeth parcio a theithio cwbl hygyrch ar gael o safleoedd Parcio a Theithio Fabian Way.
Rhagor o fanylion ac i gadw’ch lle yma.

Meysydd Parcio’r Digwyddiad

Mae pob un o feysydd parcio’r digwyddiad yn cynnig lefelau gwahanol o hygyrchedd ac mae gan bob maes parcio ardal a neilltuir ar gyfer cwsmeriaid anabl. Rhagor o fanylion ac i archebu’ch lle yma.

Meysydd Parcio ac Arwynebau’r Digwyddiad

I gael rhagor o wybodaeth am feysydd parcio a lleoedd hygyrch eraill sydd ar gael yng nghanol y ddinas, ewch i www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio

Man gollwng ar gyfer tacsis

Man gollwng canolog i dacsis yw yng nghilfach Neuadd Brangwyn.

Cludiant Cyhoeddus

Ewch i wefan Traveline Cymru www.travelline.cymru neu ffoniwch 0800 464 0000 i gael help i drefnu teithiau ar fws, coets a thrên.

Bydd bysus yn teithio’n ôl yr arfer – gwiriwch amserlenni ar wefan Traveline Cymru. Efallai y bydd oedi oherwydd traffig trwm.

Toiledau dros dro ar gyfer y digwyddiad

Bydd toiledau symudol hygyrch safonol y diwydiant mewn amrywiaeth o leoliadau trwy gydol y digwyddiad.

Toiledau parhaol i’r anabl (adnoddau RADAR)

Mae’r cynllun allwedd RADAR yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n darparu mynediad at wasanaethau cyhoeddus o safon gan ddefnyddio allwedd.

Mae’r toiledau parhaol i’r anabl ar gael ar hyd Bae Abertawe ym:-

  • Marina Abertawe (allwedd RADAR)
  • Canolfan Ddinesig (does dim angen allwedd)
  • Llyn Cychod Parc Singleton (allwedd RADAR)
  • Lido Blackpill (allwedd RADAR)
  • Sgwâr Oystermouth (allwedd RADAR)
  • Knab Rock (does dim angen allwedd)

Safleoedd Changing Places

Gall Changing Places ddarparu cyfleusterau toiled hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu dwys a lluosog a phobl anabl eraill na all ddefnyddio toiledau hygyrch safonol.

Mae’r cyfleuster yn darparu lle ychwanegol i bobl anabl a’u cynorthwywyr neu ofalwyr personol a mainc newid y gellir newid ei huchder ynghyd â theclyn codi.

Mae gan y lleoliadau canlynol, ar hyd promenâd Bae Abertawe a chanol y ddinas, gyfleusterau Changing Places.

  • The Secret Bar and Kitchen
  • Canolfan Ddinesig
  • Bydd angen allwedd RADAR ar Doiledau Cyhoeddus Gorsaf Fysus y Cwadrant
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Canolfan Hamdden yr LC
  • Gorsaf Drenau Abertawe

Mannau Gwybodaeth

Mae dau fan gwybodaeth cyhoeddus o fewn arddangosiadau ar y ddaear y Sioe Awyr, un yn y Ganolfan Ddinesig ac un ger y Senotaff, a bydd y ddau wedi’u marcio ag arwyddion baneri fframiau sgaffaldiau uchel. Bydd staff Cyngor Abertawe sydd yn y mannau gwybodaeth yn gallu ateb unrhyw ymholiadau am y digwyddiad a’r cyfleusterau y gall fod eu hangen arnoch.

Ardaloedd Gwylio
Hygyrch Senotaff
Cymorth Cyntaf
Masnachwyr ac Arddangosiadau
Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe

Bydd Cangen Abertawe o’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn y ddwy ardal wylio hygyrch drwy gydol penwythnos y Sioe Awyr, gan gynnig gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth i ymwelwyr a theuluoedd. Hoffem ddiolch i gangen Abertawe o’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth am ei chefnogaeth barhaus wrth ein helpu i greu digwyddiad croesawgar a chynhwysol i bawb.

Sylwer bod yr ardaloedd gwylio hygyrch ar agor i bob ymwelydd sydd â gofynion hygyrchedd, a’r rhai sydd ag anghenion mynediad ychwanegol. Gofynnwn yn garedig i bob ymwelydd barchu’r mannau hyn fel y gall y rhai y mae eu hangen arnynt fwynhau’r Sioe Awyr yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion Mawr! Sioe Awyr Cymru Gyda’r Hwyr
  • Mae Sioe Awyr Cymru’n ôl 25 a 26 Gorffennaf, 2026
  • Sioe Awyr Cymru: Penwythnos o hwyl i’r teulu a champau awyrol anhygoel
  • Ardaloedd gwylio hygyrch yn Sioe Awyr Cymru
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
https://youtu.be/zWpNsrb5GBk

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 25 A 26 GORFFENNAF 2026!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://youtu.be/zWpNsrb5GBk?si=VYr7IqgVos-umv4C

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Cyngor Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2026 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo