Mae ffurflenni cais masnach ar gyfer Sioe Awyr Cymru yn rhoi cyfle gwych i chi hybu’ch busnes i gynulleidfa enfawr, gyda phrisiau’n dechrau o £300 yn unig.

Gyda stondinau masnachu yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, cewch fynediad at:
- Gynulleidfa deuluol
- Cyfle i fasnachu am ddeuddydd
- Stondinau amrywiol eu maint
- Sioe Awyr Fwyaf Cymru
- Mynediad i 200,000+ o gwsmeriaid posib.
Rydym yn deall y pwysau ariannol y mae pobl yn eu hwynebu yn sgîl y flwyddyn ddigynsail hon, ac er mwyn eich cefnogi ychydig, rydym yn cynnal yr un prisiau â digwyddiad 2019 nes 31 Mawrth 2021, a gallwch hefyd gadw’ch lle drwy dalu blaendal o 25% yn unig*. Ni fydd angen i chi dalu’r swm llawn tan 1 mis cyn y digwyddiad.
*Os caiff y Sioe Awyr ei chansio o ganlyniad i COVID-19, naill ai trwy reolau lleol neu ddeddfwriaethau cenedlaethol, caiff y dewisiadau canlynol eu cynnig i fasnachwyr:
- trosglwyddo’r taliadau i Sioe Awyr 2022 a manteisio ar unrhyw gynnig cynnar;
- ad-daliad llawn.
Os bydd y digwyddiad yn digwydd yn ol y bwriad ond dan fesuriadau COVID-19, ni fydd masnachwyr sy’n dewis peidio a bod yno’n derbyn ad-daliad.
Dylid talu’r balans o 75% erbyn dydd Mercher 2 Mehefin 2021; caiff e-bost gyda dolen i’r dudalen lle gellir talu’n ddiogel ei e-bostio atoch yn y pythefnos yn y dyddiad hwn. Os na chaiff ei dalu erbyn 2 Mehefin 2021 caiff eich lle ei ryddhau ac ni fyddwch yn derbyn ad-daliad.
Rheoliadau ar gyfer masnachwyr ac arddangoswyr
Asesiad Risg Tân ar gyfer Masnachwyr a Stondinau Marchnad
Cyfleoedd Noddi
Mae Cyngor Abertawe’n trefnu ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau arobryn sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae gwybodaeth yma am sut gallwch ein helpu i gynnal a gwella’r digwyddiadau hyn.
This post is also available in: English