Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 2 and 3 July 2022

  • Sioe Awyr Cymru
    • Mae Ap Swyddogol SAGC22 yma!
    • Wythnos y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Sioe Awyr Cymru 2017

Gorffennaf 13, 2017 By Chris Williams

Darparodd Sioe Awyr Cymru 2017 benwythnos anhygoel arall o acrobateg awyrol gan dorri record arall!

Daeth y torfeydd mwyaf erioed hyd yn hyn i Abertawe dros benwythnos 1 a 2 Gorffennaf 2017 ar gyfer Sioe Awyr Cymru lle cafwyd penwythnos gwych i’r teulu. Er gwaethaf y glaw ar y dydd Gwener, daeth y tywydd braf mewn pryd ar gyfer y penwythnos gyda’r haul yn gwenu ar y dydd Sadwrn. Gyda’r Sioe Awyr yn fwyfwy poblogaidd bob blwyddyn, daeth torfeydd mawr i Fae Abertawe i baratoi am y diwrnod o’u blaenau a mwynhau’r arddangosfeydd gwych ar y ddaear neu’r haul ar y traeth.

Bu Tîm Raven, perfformwyr awyr beiddgar o Abertawe, yn cychwyn y cyffro ar y dydd Sadwrn gan syfrdanu’r torfeydd a’u paratoi ar gyfer y penwythnos gwych o’u blaenau. Roedd y diwrnod yn llawn cyffro, a gwelwyd arddangosiadau hen a newydd gan gynnwys Autogyro, Pitts Special, y Bristol Blenheim, Awyren Tutor yr RAF, Strikemaster a mwy. Roedd amser hyd yn oed i Dîm Arddangos Cwymp Rhydd y Tigers alw heibio, i Typhoon yr RAF greu sŵn ac i Hediad Coffa Brwydr Prydain arddangos y Spitfire a’r Hurricane eiconig. Ac wrth gwrs, pwy allai anghofio Red Arrows yr RAF?

Roedd y tywydd yn well byth ar y dydd Sul, a chyda rhestr o berfformwyr a oedd yn cynnwys y Chinook, bu’r torfeydd yn mwynhau diwrnod gwell yn y Sioe Awyr na’r diwrnod cynt! Gyda llai o gymylau, roedd y Red Arrows yn gallu perfformio’r arddangosfa uchel yn y cymylau i’w potensial llawn, gan greu golygfeydd anhygoel dros Fae Abertawe a rhai cyfleoedd gwych i dynnu lluniau.

Erbyn y diwedd roedd torfeydd enfawr wedi mwynhau’r arddangosfeydd, gyda 250,000 o bobl yn gwylio Sioe Awyr Cymru 2017. Diolch i bawb a ddaeth i wylio a llongyfarchiadau i chi i gyd – rydych chi wedi torri record!

Byddwn yn dychwelyd yn 2018 gyda phenwythnos arall a fydd yn llawn cyffro yn yr awyr uwchben Bae Abertawe, gan obeithio torri record unwaith eto! Tan hynny, gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf am Sioe Awyr Cymru drwy ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol neu gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio.

Welwn ni chi yn 2018!

Filed Under: Airshow News

Arddangosfa Typhoon wedi’i chadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Mawrth 29, 2017 By Chris Williams

Mae’r tîm arddangos wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.

Yr awyr-lefftenant, Ryan Lawton, o RAF Coningsby fydd peilot arddangosfeydd y Typhoon eleni.

Yn ôl y ffigurau, mae Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, werth miliynau o bunnoedd i’r economi leol, gan helpu i ddenu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i lan y môr a nifer o leoliadau eraill ar draws y ddinas.

Prifysgol Abertawe fydd prif noddwr y digwyddiad eleni ac mae’r Red Arrows hefyd wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod tîm arddangos rhagorol arall wedi cadarnhau y bydd yn cymryd rhan yn y Sioe Awyr yn ystod yr haf, gan sicrhau ein bod ni’n cyflawni’n nod o greu digwyddiad sy’n parhau i fodloni disgwyliadau pobl bob blwyddyn.

“Wrth i’r cyngor barhau i weithio ar drefniadau’r digwyddiad y tu ôl i’r llenni, gall preswylwyr ac ymwelwyr ddisgwyl mwy o berfformwyr yn cadarnhau eu lle dros yr wythnosau nesaf.

“Yn ogystal ag arddangosfeydd awyr, bydd adloniant ar y tir hefyd yn rhan o’r digwyddiad, a gaiff ei gynnal yr haf hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol.”

Gydag uchafswm cyflymder o dros 1,300mya, mae’r Typhoon yn gallu cyrraedd uchder o 55,000 troedfedd. Mae’r awyren oddeutu 16 metr o hyd ac mae lled ei hadenydd yn mesur dros 11 metr.

Filed Under: Airshow News, Newyddion, Press Releases

Lletygarwch VIP bellach ar gael

Mehefin 9, 2016 By Chris Williams

VIP-hospitalityGallwch wylio Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2016 mewn steil bellach gyda phecynnau VIP!

Mae’n bleser gan Dragon Events gynnig cyfle VIP unigryw i edmygu’r arddangosiadau hedfan ac mewn lleoliad sy’n agos at yr arddangosiadau ar y ddaear.

Mwynhewch eich diwrnod mewn steil VIP go iawn o’r babell fawr foethus gyda’r golygfeydd gorau o Fae Abertawe!

– Detholiad o deisennau crwst Danaidd a the/choffi wrth gyrraedd
– te a choffi am ddim ar gael trwy’r dydd
– bar tâl â staff (gydag opsiynau i archebu gwin/siampên ymlaen llaw i’ch bord)
– cyfleusterau toiled unigryw
– mae patio a dodrefn rattan yn yr ardd breifat i wylio’r hediadau yn yr awyr agored
– Gweinir cinio rhwng 12pm a 2pm
– bordydd pwrpasol i 10 ag enw corfforaethol/enw’r cwmni arnynt
– gweinydd personol

Bwydlen 2016

Prynu tocynnau yma

 

Filed Under: Airshow News

Breitling Wingwalkers yn dychwelyd ar gyfer 2016

Mehefin 3, 2016 By Chris Williams

WingWalkersCerddwyr adenydd beiddgar wedi’u cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru

Bydd cerddwyr adenydd beiddgar yn perfformio yn yr awyr uwchben Bae Abertawe’r haf hwn.

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau bod y Breitling Wingwalkers, sy’n enwog ar draws y byd, wedi cael eu hychwanegu at y rhestr o berfformwyr yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a gynhelir ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf a dydd Sul, 3 Gorffennaf.

Mae tîm Breitling Wingwalkers yn defnyddio awyrennau dwbl Boeing Stearman o’r 1940au sy’n rhuo drwy’r awyr ar gyflymder o hyd at 150mya.  Pan fydd yr awyrennau’n hedfan, bydd y cerddwyr adenydd yn perfformio llawsafiadau ac yn dringo o gwmpas yr awyren yn erbyn pwysau’r gwynt, gan godi llaw ar y dorf ar y ddaear ar yr un pryd.

Mae’r tîm wedi perfformio ym mhedwar ban byd, mewn gwledydd sy’n cynnwys Tsieina, India, Awstralia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’r rhestr o berfformwyr ar gyfer sioe awyr yr haf hwn yn dechrau cynyddu bellach. Mae’r Breitling Wingwalkers yn hynod boblogaidd gyda phobl sy’n dwlu ar erobateg, felly mae eu hychwanegu at sioe awyr mis Gorffennaf yn hwb arall i ddigwyddiad a fydd yn un cofiadwy.

“Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n rhoi adloniant o safon am ddim i bobl leol yn eu dinas eu hunain, ac mae hefyd yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr, gan helpu i hybu ein siopau, ein tafarndai, ein gwestai a busnesau eraill.

“Mae’r digwyddiad yn un o brif uchafbwyntiau rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe, sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb yr haf hwn ac yn y dyfodol.”

Filed Under: Airshow News

Y Typhoon yn ymuno â pherfformwyr SAGC16!

Mawrth 21, 2016 By Chris Williams

Typhoon Eurofighter

Bydd jet ymladd arloesol sy’n gallu hedfan ar gyflymder o oddeutu 1,000mya heb ôl-losgwyr yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni.

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd yr Eurofighter Typhoon yn dychwelyd i’r digwyddiad yn yr haf.

Cynhelir Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ar benwythnos dydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf. Hwn fydd y tro cyntaf i’r sioe awyr gael ei chynnal yn ystod dau haf yn olynol wrth i Gyngor Abertawe geisio’i gwneud yn ddigwyddiad blynyddol.

Yn ogystal ag arddangosiadau awyr bydd adloniant ar y ddaear, ffair hwyl a stondinau masnach ar hyd promenâd Abertawe yn rhan o’r Sioe Awyr Genedlaethol hefyd.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yw’r digwyddiad am ddim gorau o’i fath yn y wlad. Y llynedd, denodd mwy na 170,000 o wylwyr, gan greu dros £7.6 miliwn i’r economi leol. Mae’n newyddion gwych i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr a dyna pam rydym yn benderfynol o geisio’i sefydlu fel digwyddiad blynyddol.

“Er bod y sioe awyr dros dri mis i ffwrdd o hyd, mae’r cynllunio wedi bod ar y gweill ers sawl mis. Mae’r Eurofighter Typhoon wedi bod yn hynod boblogaidd yn y digwyddiad yn y gorffennol, felly mae’n dipyn o gamp ein bod wedi sicrhau y bydd yn dychwelyd unwaith eto ar gyfer sioe awyr yr haf hwn.”

“Gall preswylwyr lleol ac ymwelwyr sy’n dod i’r ddinas ar gyfer y digwyddiad fod yn sicr ein bod yn gallu cyflwyno sioe o’r radd flaenaf yn yr awyr uwchben Abertawe. Cadarnheir mwy o awyrennau ac adloniant ar y ddaear dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”

Cadarnhawyd eisoes fod y Red Arrows yn ymddangos yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2016. Ffurfiwyd y Red Arrows, sef
Tîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol yn swyddogol, ym 1964. Ers hynny maent wedi perfformio dros 4,700 o arddangosiadau mewn 56 o wledydd ledled y byd.

Filed Under: Newyddion

  • « Previous Page
  • 1
  • …
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • Next Page »

Cysylltwch a ni

News

  • Brilliant 2022 Wales Airshow attracts huge crowds to Swansea
  • ‘The Tigers’ yn galw heibio Sioe Awyr Cymru 2022
  • Hediad Coffa Brwydr Prydain yn ymddangos yn Sioe Awyr Cymru 2022
  • Red Arrows yn dychwelyd ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2022!
  • Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2021
https://youtu.be/6UmaqUYo32M

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=6UmaqUYo32M

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2022 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo