Mae gwasanaeth parcio a theithio cwbl hygyrch ar gael o safleoedd Parcio a Theithio Stiwdio’r Bae (trwy gyffordd 42 yr M4) a Glandŵr (cyffordd 45 yr M4).
Am ragor o fanylion ac i gadw’ch lle, ewch i.
MeysyddParcio’r Digwyddiad
Mae pob un o feysydd parcio’r digwyddiad yn cynnig lefelau gwahanol o hygyrchedd ac mae gan bob maes parcio ardal a neilltuir ar gyfer cwsmeriaid anabl. Am ragor o fanylion ac i archebu’ch lle ymlaen llaw, ewch i.
Meysydd Parcio ac Arwynebau’r Digwyddiad
I gael rhagor o wybodaeth am feysydd parcio a lleoedd hygyrch eraill sydd ar gael yng nghanol y ddinas, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio
Man gollwng ar gyfer tacsis
Man gollwng canolog i dacsis yw yng nghilfach Neuadd Brangwyn.
Cludiant Cyhoeddus
Ewch i wefan Traveline Cymru www.travelline.cymru neu ffoniwch 0800 464 0000 i gael help i drefnu teithiau ar fws, coets a thrên.
Bydd bysus yn teithio’n ôl yr arfer – gwiriwch amserlenni ar wefan Traveline Cymru. Efallai y bydd oedi oherwydd traffig trwm.
Cyfleusterau lles
Toiledau dros dro ar gyfer y digwyddiad
Bydd toiledau symudol hygyrch safonol y diwydiant mewn amrywiaeth o leoliadau trwy gydol y digwyddiad.
Toiledau parhaol i’r anabl (adnoddau RADAR)
Mae’r cynllun allwedd RADAR yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n darparu mynediad at wasanaethau cyhoeddus o safon gan ddefnyddio allwedd.
Mae’r toiledau parhaol i’r anabl ar gael ar hyd Bae Abertawe ym:-
- Marina Abertawe (allwedd RADAR)
- Y Ganolfan Ddinesig (does dim angen allwedd)
- Llyn Cychod Parc Singleton (allwedd RADAR)
- Lido Blackpill (allwedd RADAR)
- Sgwâr Oystermouth (allwedd RADAR)
- Knab Rock (does dim angen allwedd)
Safleoedd Changing Places
Gall Changing Places ddarparu cyfleusterau toiled hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu dwys a lluosog a phobl anabl eraill na all ddefnyddio toiledau hygyrch safonol.
Mae’r cyfleuster yn darparu lle ychwanegol i bobl anabl a’u cynorthwywyr neu ofalwyr personol a mainc newid y gellir newid ei huchder ynghyd â theclyn codi.
Mae gan y lleoliadau canlynol, ar hyd promenâd Bae Abertawe a chanol y ddinas, gyfleusterau Changing Places.
- Y Ganolfan Ddinesig
- The Secret Bar and Kitchen
- Bydd angen allwedd RADAR ar Doiledau Cyhoeddus Gorsaf Fysus y Cwadrant
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Canolfan Hamdden yr LC
- Gorsaf Drenau Abertawe
Mannau Gwybodaeth
Mae dau fan gwybodaeth cyhoeddus o fewn arddangosiadau ar y ddaear y Sioe Awyr, un yn y Ganolfan Ddinesig ac un ger y Senotaff, a bydd y ddau wedi’u marcio ag arwyddion baneri fframiau sgaffaldiau uchel. Bydd staff Cyngor Abertawe sydd yn y mannau gwybodaeth yn gallu ateb unrhyw ymholiadau am y digwyddiad a’r cyfleusterau y gall fod eu hangen arnoch.
Ardaloedd Gwylio
HygyrchSenotaff
Canolfan Ddinesig
Cymorth Cyntaf
Masnachwyr ac Arddangosiadau
Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe