Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 5 and 6 July 2025

  • Sioe Awyr Cymru
    • Amserlen Sioe Awyr Cymru
    • Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru!
    • Diwrnod y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Ffyrdd ar Gau

Cynhelir Sioe Awyr Cymru, sef digwyddiad i deuluoedd am ddim mwyaf Cymru, ar 5 a 6 Gorffennaf 2025 dros Fae Abertawe.

Bydd Sioe Awyr Cymru eleni’n cynnwys arddangosiadau ar y ddaear, awyrennau llonydd, arddangosfeydd a sioe awyr ardderchog

Am fod rhagor o bobl yn dod i’r digwyddiad, ac i gynnal y digwyddiad yn ddiogel, bydd ardal y digwyddiad unwaith eto’n cynnwys rhan o Oystermouth Road a bydd angen cau nifer o ffyrdd i’n galluogi i wneud hyn.

Bydd y ffyrdd sydd ar gau eleni fel a ganlyn;

Cam 1 

12 ganol dydd, dydd Gwener 4 Gorffennaf – 5am dydd Sadwrn 5 Gorffennaf

  • Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau tua’r gorllewin yn unig (o gyffordd West Way i Brynmill Lane)
  • Yn ogystal â hyn, bydd DIM mynediad i’r ffordd gerbydau i’r dwyrain o Oystermouth Road a Bond Street, St Helens Road a Beach Street yn ystod y cyfnodau hyn.
  • Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.

Cam 2

5am dydd Sadwrn 5 Gorffennaf – 5am Dydd Llun 6 Gorffennaf

  • Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau i’r ddau gyfeiriad. (o gyffordd West Way i Sketty Lane).
  • Bydd dargyfeiriadau ar waith
  • Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
  • Bydd mynediad i Stryd Argyle drwy ddilyn dargyfeiriad byr heibio’r Ganolfan Ddinesig.
  • Bydd Pantycelyn Road ar gau (rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road) rhwng 8am a 7pm ar y ddau ddiwrnod.
  • Cynhelir mynediad i Brifysgol Abertawe a Brynmill Lane drwy Sketty Lane

Am resymau diogelwch ac i helpu symudiad traffig yn yr ardal, bydd yn rhaid i ni sicrhau nad yw cerbydau’n parcio ar rai ffyrdd. Er mwyn gallu sicrhau hyn, bydd cyfyngiadau parcio ar y ffyrdd hyn a chaiff cerbydau sydd wedi’u parcio ar y ffyrdd a ddangosir isod eu halio ymaith. Os bydd cau’r ffyrdd hyn yn effeithio arnoch, gofynnwn yn garedig i chi symud eich cerbyd i leoliad arall.

Bydd cyfyngiadau parcio a pharth halio ymaith o 12 ganol dydd dydd Gwener, 4 Gorffennaf tan 5am ddydd Llun, 7 Gorffennaf ar:

  • Ddwy ochr Oystermouth Road/Mumbles Road
  • Dwy ochr Bryn Road

Ni chaiff beicwyr fynd ar hyd Promenâd Abertawe, o’r Ganolfan Ddinesig i Sketty Lane, rhwng 7am dydd Iau, 3 Gorffennaf a 11pm nos Fawrth, 8 Gorffennaf.

Hoffem eich sicrhau y cynhelir mynediad i gerbydau brys ar bob adeg. Os bydd gennych unrhyw bryderon neu broblemau yn ystod penwythnos y digwyddiadau, gallwch ffonio’n Llinell Gyswllt ar gyfer Preswylwyr a Busnesau ar 01792 635428 ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul o 10am i 6.30pm.

Fel y gwyddoch, bydd digwyddiadau mawr o’r math hwn, er eu bod yn hynod bwysig i’r ddinas, yn anffodus yn tarfu rhywfaint ar y gweithgareddau beunyddiol arferol. Hoffem ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi i chi, a diolch i chi unwaith eto am eich cydweithrediad. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch special.events@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635428 (yn ystod oriau swyddfa arferol).

Pam y mae ffyrdd yn cael eu cau ddydd Gwener pan nad yw'r digwyddiad yn dechrau tan ddydd Sadwrn?

Ein blaenoriaeth bennaf yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel. Bydd cau ffyrdd yn ein helpu i wneud hynny. Mae'r Sioe Awyr yn parhau i dyfu ac mae'n denu mwy o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae'n tyfu'n fwy na'r lle sydd ar gael ar y promenâd ar gyfer digwyddiadau ar y ddaear a nifer yr ymwelwyr.

Drwy ganiatáu i drefnwyr y digwyddiad ar y ddaear adeiladu eu stondinau ac atyniadau ar y ffordd, bydd mwy o le am ragor o atyniadau a mwy o le i bobl symud o gwmpas. Er mwyn adeiladu'r stondinau a'r atyniadau'n ddiogel ar y ffordd, bydd angen i ni gau'r ffordd ddydd Gwener. I leihau'r effaith, rydym ond wedi cau'r lonydd i'r gorllewin.

Beth os oes argyfwng? Fydd y gwasanaethau brys yn gallu ein cyrraedd ni, yn enwedig os yw ffyrdd ar gau?

Bydd y gwasanaethau brys ar safle'r digwyddiad drwy gydol y penwythnos er mwyn rhoi cymorth yn ôl yr angen.

Er bydd rhai ffyrdd ar gau, bydd mynediad i gerbydau brys ar bob adeg.

A fydd modd i mi gael mynediad i Ysbyty Singleton?

Ni fydd y ffyrdd a fydd ar gau na safle’r digwyddiad yn effeithio ar Ysbyty Singleton, a bydd mynediad iddi yn dilyn y drefn arferol.

Alla i gael mynediad i Brifysgol Abertawe o hyd?

Gallwch - ewch i Lôn Sgeti, gan droi i'r chwith.

Alla i gael mynediad i Lyn Cychod Singleton/Pub on the Pond?

Gallwch - ewch i Lôn Sgeti, gan droi i'r chwith.

Bydd llawer o bobl yn mynd i'r digwyddiad ac mae nifer o ffyrdd ar gau - faint o draffig a ddisgwylir?

Fel y byddech yn ei ddisgwyl ar gyfer digwyddiad o'r maint hwn, bydd llawer o draffig yn yr ardal yn ystod y penwythnos. Rydym yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod cyn lleied o darfu ag sy'n bosib, ond gwnewch gynlluniau addas.

Rwyf am deithio i'r Mwmbwls/Gŵyr, sut y gallaf gyrraedd yno?

Oherwydd y bydd y ffordd ar gau ar hyd Heol Ystumllwynarth, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio llwybrau eraill er mwyn cael mynediad i'r Mwmbwls/Gŵyr.

Rwyf am deithio i ffwrdd o Abertawe, sut y gallaf gyrraedd yr M4?

Oherwydd y bydd y ffordd ar gau ar hyd Heol Ystumllwynarth, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio llwybrau eraill i gyrraedd yr M4.

Ond pam mae'r ffyrdd hyn yn cael eu cau pan fo digwyddiad mor fawr yn cael ei gynnal?

Penwythnos y Sioe Awyr yw un o benwythnosau prysuraf y flwyddyn i bobl sy'n dod i Abertawe, gyda thros 200,000 yn mynd iddi yn yr ychydig flynyddoedd blaenorol. Mae'r mesurau diogelwch cynyddol a newydd yn cael eu rhoi ar waith oherwydd maint y torfeydd disgwyliedig.

Rwy'n byw'n lleol, beth am gludiant cyhoeddus? A fydd hyn yn effeithio ar fy llwybr bws arferol?

Effeithir ar nifer o lwybrau bysus gan gynnwys 4, 4A, 8 a 14, ond mae First Cymru'n rhedeg llwybrau amgen. Mae'r wybodaeth lawn am y newidiadau hyn ar gael ar wefan First Cymru

Gwasanaethau Cwsmeriaid: 01792 572 255, 8am – 8pm bob dydd
Traveline: 0800 4640000 (AM DDIM) 7am – 8pm bob dydd

Rwy'n byw ym Marina Abertawe - sut bydd cau'r ffordd yn effeithio arna' i?

Pan fydd y ffordd ar gau byddwch yn dal i allu cyrraedd y Marina drwy Dunvant Place. Ni fydd ffyrdd i'r dwyrain o Dunvant Place ar gau.

Rwy'n teithio i Abertawe i gyfeiriad y dwyrain, pa lwybrau y dylwn eu dilyn?

Awgrymwn eich bod yn gadael traffordd yr M4 ar gyffordd 47 ac yn dilyn yr A483 tuag at Abertawe. Bydd arwyddion cyfeiriol yn eich arwain i'r digwyddiad.

Rwy'n teithio i Abertawe i gyfeiriad y gorllewin, pa lwybrau y dylwn i eu dilyn?

Awgrymwn eich bod yn gadael traffordd yr M4 ar gyffordd 42 ac yn dilyn yr A483 tuag at Abertawe. Bydd arwyddion cyfeiriol yn eich arwain i'r digwyddiad.

Oni fydd 'na draffig ar ôl y digwyddiad hefyd?

Fel gyda'r mwyafrif o ddigwyddiadau chwaraeon neu wyliau cerddoriaeth mawr, ar ddiwedd yr arddangosfeydd awyr, gellir disgwyl llawer iawn o draffig wrth i bawb geisio gadael ar yr un pryd. Fodd bynnag, bydd ein harddangosfeydd ar y ddaear ar agor tan 6.30pm ac yn darparu adloniant i deuluoedd. Beth am fynd i ganol y ddinas i fwynhau pryd o fwyd wrth aros i'r traffig dawelu?


Cysylltwch a ni

News

  • Newyddion mawr wrth i’r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe
  • Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru
  • Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos
  • Mae’n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe
  • Ceisiadau stondinau masnach 2024 ar agor!
https://www.youtube.com/watch?v=bqqhpH5CK6g

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 5 A 6 GORFFENNAF 2025!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=npBNLhkrWwg

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • English
  • Cymraeg

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2025 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo