Efelychwyr hediadau, ffair hwyl a mwy o arddangosfeydd ar y ddaear gwych yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni. Arddangosfeydd ar y ddaear ar agor o 10.00 tan 6.00pm
Arddangosfeydd ar y ddaear yr RAF
Rydych wedi gweld yr hyn maent yn gallu’i wneud yn yr awyr, eleni cewch gyfle i gael cipolwg agos ar y Red Arrow Hawk.
Yr Hawk T1 Systemau BAE rheolaeth ddeuol yw awyren hyfforddi fwyaf datblygedig y Llu Awyr Brenhinol, ac mae wedi’i defnyddio gan y Red Arrows ers 1979.Mwy o wybodaeth.
Sgiliau Rygbi Chwyddadwy
Cerbyd Recriwtio
Gleider
Y Fyddin
2 Gerbyd SV HGV
1 cerbyd recriwtio
Cwrs Ymosod
Rhediad Bomiwr y Corfflu Hyfforddiant Awyr
Y Llynges Frenhinol
Allgymorth 4 (NEU 4) – Dewch i ymweld â’r stondin “Ffit am Oes” i ddysgu sut gall gweithgareddau corfforol, bwyd a maeth eich helpu i’ch cadw’n ffit ac yn iach.
Dewch i wylio dau gogydd yn coginio pryd syml, cyflym ac iachus (‘maethlon, blasus – o’r badell i’r plât mewn 15 munud’!) wrth iddynt adrodd hanesion am eu cyfnod yn y Llynges Frenhinol a’r Llynges Forol.
Mae pob cyflwyniad coginio yn para oddeutu 20 munud. Yn ystod y cyflwyniad, ceir esboniad am becyn dogn 24 awr (a ddefnyddir gan filwyr ar faes y gad. Cynigir platiau bach o’r bwyd i’r gynulleidfa ar ddiwedd pob cyflwyniad.
Arddangosfeydd ar y ddaear sy’n ymwneud â’r awyr
Pabell y Red Arrows
Gallwch reidio yn un o’r awyrennau Hawk gydag Asgell-gomander ‘Red 1’ yn un o’n harddangosfeydd gwych. Cyflawnir yr efelychiad hynod realistig hwn drwy gydberthyniad manwl gywir system symud hydrolig bwerus gyda saethiadau ffilm golwg bersonol. Mae efelychydd y Red Arrows bob amser yn boblogaidd iawn ym mhob digwyddiad y mae’n mynd iddo.
Reid efelychydd Hediad Coffa Brwydr Prydain
Mae reid efelychydd Hediad Coffa Brwydr Prydain yn cynnig hediad trawiadol ar awyren Spitfire.
Cyffredinol
Ardal wylio i’r anabl
Gorsafoedd ailgylchu
Stondinau masnach
Ffair hwyl
Offer chwyddadwy
Lluniaeth
Bydd amrywiaeth eang o fwyd ar gael yn y safle arddangos ar y ddaear ger y Rec a’r Senotaff a hefyd ger y Ganolfan Ddinesig. Bydd te, coffi a diodydd meddal ar gael. Bydd yr amrywiaeth o fwyd yn cynnwys tatws pob, cyri, byrgers, pysgod a sglodion, mochyn rhost a crèpes yn ogystal â hufen ia, toesenni, losin a chyffaith.