Mae Abertawe’n paratoi ar gyfer penwythnos gwefreiddiol wrth i Sioe Awyr Cymru ddychwelyd i Fae Abertawe ar 5 a 6 Gorffennaf. Bydd trefnwyr y digwyddiad, Cyngor Abertawe, yn parhau i sicrhau hygyrchedd i bawb sy’n dod, yn enwedig unigolion ag anghenion hygyrchedd. Bydd ardal wylio a chyfleusterau pwrpasol ar gael unwaith eto er mwyn atgyfnerthu profiad pawb sy’n dod i Sioe Awyr Cymru.

Mae cangen Abertawe o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn falch o gefnogi Sioe Awyr Cymru eto eleni drwy ddarparu gwirfoddolwyr i gefnogi pobl sy’n defnyddio’r ardaloedd gwylio hygyrch. Er bod yr ardaloedd hyn ar gael i unrhyw un ag anghenion ychwanegol, mae sawl teulu sy’n gysylltiedig â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn defnyddio’r ardal wylio hygyrch ac yn ei chanmol.
Meddai aelod o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, “Heb yr ardaloedd hygyrch, ni fyddem yn gallu dod i wylio’r Sioe Awyr – mae gwybod bod ardal bwrpasol ar gyfer unrhyw un ag unrhyw fath o angen hygyrchedd yn cynnig cysur go iawn, ac mae’n golygu y gallwn fwynhau’r sioe gyda’n gilydd fel teulu. Mae gwybod bod gwirfoddolwyr ystyriol yno’n rhyddhad mawr i ni, rhag ofn y bydd angen eu help arnom.”
Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, “Rydym yn ymrwymedig i wneud Sioe Awyr Cymru’n brofiad pleserus i bawb. Bydd yr ardal wylio ddynodedig a’r gwasanaethau cymorth gan sefydliadau fel Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn helpu i sicrhau y gall pawb ymuno yng nghyffro’r digwyddiad hwn.”
Yn ogystal â’r ardaloedd gwylio dynodedig yn y senotaff a’r safle dinesig, bydd Sioe Awyr Cymru’n darparu cyfleusterau hygyrch, gan gynnwys toiledau hygyrch a chymorth gan wirfoddolwyr hyfforddedig drwy gydol y digwyddiad.
Bydd Sioe Awyr Cymru’n ddigwyddiad bythgofiadwy, gan gynnig perfformiadau penigamp gan dimau awyr o fri.