
Mynnwch eich arweiniad gorau i Sioe Awyr Cymru yng nghledr eich llaw gydag ap swyddogol Sioe Awyr Cymru. Eich rhaglen ddigidol, bydd gennych bopeth y mae angen i chi ei wybod am y digwyddiad ar flaenau eich bysedd, gan gynnwys diweddariadau byw, amserlen swyddogol yr arddangosiadau, gwybodaeth am yr awyrennau a llawer mwy. Ap noddyr gan Home from Home
Os prynoch chi’r ap yn 2016, 2017, 2018, 2019, 2022 newyddion da.. byddwch yn cael yr ap eleni fel diweddariad AM DDIM! Bydd yr ap yn costio £1.99 i’r rhai sydd heb ei ddefnyddio o’r blaen, a chyda’r amseroedd arddangos ar flaen eich bysedd ac adran talebau sy’n llawn dop eleni, rydym yn teimlo ei fod yn cynnig gwerth am arian anhygoel a hefyd yn helpu i godi arian tuag at un o hoff ddigwyddiadau AM DDIM mwyaf Cymru.
Sylwer: Ydych chi wedi lawrlwytho’r ap yn ystod y blynyddoedd blaenorol ar Apple? I weld y newyddion diweddaraf, efallai y bydd angen i chi ddadosod ac ailosod yr ap cyn digwyddiad eleni i sicrhau eich bod yn gweld yr wybodaeth ddiweddaraf. Defnyddwyr Android – rydych chi’n barod amdani!
5 RHESWM ALLWEDDOL DROS LAWRLWYTHO’R AP – EICH RHAGLEN RITHWIR AR GYFER #SAGC23

1. DERBYN Y DIWEDDARAF AM AMSERLEN AMSERAU ARDDANGOS MEWN AMSER GO IAWN
Gallwch dderbyn hysbysiadau gwthio’n syth i’ch ffôn sy’n rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’r amserlen arddangos er mwyn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw ddigwyddiadau drwy gydol y penwythnos!
2. MYNEDIAD AT YR AMSERLEN SWYDDOGOL – gydag ap Sioe Awyr Cymru, chi fydd y cyntaf i weld yr amserlen arddangos swyddogol ar gyfer y penwythnos cyn gynted ag y caiff ei rhyddhau ar wythnos y Sioe Awyr. A chewch hysbysiad gwthio i roi gwybod i chi pan fydd ar gael!
3. BYDDWCH YN DERBYN Y NEWYDDION DIWEDDARAF – gallwch dderbyn hysbysiadau gwthio gyda’r holl newyddion diweddaraf am y Sioe Awyr yn y cyfnod cyn y digwyddiad, gan gynnwys gwybodaeth am
4. GWYBODAETH AM Y TIMAU – Arweiniad defnyddiol yn eich poced sy’n cynnwys gwybodaeth am yr holl dimau arddangos wrth i bob un gael ei gyflwyno ar gyfer Sioe Awyr Cymru.
5. Y CYFAN Y MAE EI ANGEN ARNOCH YNG NGHLEDR EICH LLAW – dewch o hyd i wybodaeth am barcio, sut i drefnu’ch taith a llawer mwy!
**BYDD YR AP YN CAEL EI RYDDHAU I’R APPSTORE A GOOGLE PLAY!**