*Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2020*
O ganlyniad i’r sefyllfa bresennol, mae digwyddiadau a drefnir yn uniongyrchol gan Gyngor Abertawe wedi’u canslo neu eu gohirio nes diwedd Awst 2020.
Mae’n ddrwg gennym gyhoeddi bod y digwyddiadau a ganslwyd yn cynnwys Sioe Awyr Cymru 2020 a oedd i’w chynnal ar 4 a 5 Gorffennaf eleni.

Os prynoch chi’r ap yn 2016, 2017, 2018, 2019 newyddion da.. byddwch yn cael yr ap eleni fel diweddariad AM DDIM! Bydd yr ap yn costio £1.99 i’r rhai sydd heb ei ddefnyddio o’r blaen, a chyda’r amseroedd arddangos ar flaen eich bysedd ac adran talebau sy’n llawn dop eleni, rydym yn teimlo ei fod yn cynnig gwerth am arian anhygoel a hefyd yn helpu i godi arian tuag at un o hoff ddigwyddiadau AM DDIM mwyaf Cymru.
5 RHESWM ALLWEDDOL DROS LAWRLWYTHO’R AP – EICH RHAGLEN RITHWIR AR GYFER #SAGC20

1. BYDDWCH YN DERBYN Y DIWEDDARAF AM YR AMSERLEN AMSERAU ARDDANGOS MEWN AMSER GO IAWN – Cewch wybod pa arddangosiadau a gynhelir a phryd. Caiff yr amserlen ei diweddaru mewn amser go iawn gan roi’r newyddion diweddaraf i chi am unrhyw newidiadau a wnaed i’r amserlen ar y diwrnod.
2. GALLWCH ARBED ARIAN GYDAG AMRYWIAETH O DALEBAU GOSTYNGIADAU- Gallwch gael llawer o dalebau gostyngiadau gwych i’w defnyddio mewn nifer o fusnesau de Cymru.
3. BYDDWCH YN DERBYN Y NEWYDDION DIWEDDARAF– Cewch y newyddion diweddaraf am y Sioe Awyr ar yr ap hwn yn unig drwy hysbysiadau uniongyrchol. Byddwn yn rhyddhau peth gwybodaeth allweddol am y Red Arrows a’r Typhoon yn ystod y cyfnod cyn rhyddhau’r amserlen lawn.
4. GWYBODAETH DDEFNYDDIOL AM Y TIMAU – Mae’n arweiniad defnyddiol ar yr holl dimau arddangos i’w gadw yn eich poced. Am £1.99 yn unig rydym yn meddwl ei bod yn werth da am arian o’i gymharu â phris rhaglen bêl-droed neu ddigwyddiad arall (y mae’n rhaid talu amdanynt!).
5. BYDDWCH YN HELPU I GEFNOGI SIOE AWYR GENEDLAETHOL CYMRU – Trwy brynu’r ap am ffi fechan byddwch yn helpu i gynnal y digwyddiad gwych hwn ym Mae Abertawe yn flynyddol.
**BYDD YR AP YN CAEL EI RYDDHAU I’R APPSTORE A GOOGLE PLAY!**
This post is also available in: English