Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 1 and 2 July 2023

  • Sioe Awyr Cymru
    • Mae Ap Swyddogol SAGC23 yma!
    • Wythnos y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Newyddion
  • Cynlluniwch eich ymweliad
    • Parcio
    • Ffyrdd ar Gau
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Teithio
    • Gwybodaeth i Ymwelwyr
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
    • Mapiau
    • Dronau
    • Cyfyngiadau Hwylio
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cymraeg
    • English

Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru

Teithio i’r digwyddiad

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad

Mae gwasanaeth parcio a theithio cwbl hygyrch ar gael o safleoedd Parcio a Theithio Stiwdio’r Bae (trwy gyffordd 42 yr M4) a Glandŵr (cyffordd 45 yr M4).

Am ragor o fanylion ac i gadw’ch lle, ewch i.

Meysydd Parcio’r Digwyddiad

Mae pob un o feysydd parcio’r digwyddiad yn cynnig lefelau gwahanol o hygyrchedd ac mae gan bob maes parcio ardal a neilltuir ar gyfer cwsmeriaid anabl. Am ragor o fanylion ac i archebu’ch lle ymlaen llaw, ewch i.

Meysydd Parcio ac Arwynebau’r Digwyddiad

I gael rhagor o wybodaeth am feysydd parcio a lleoedd hygyrch eraill sydd ar gael yng nghanol y ddinas, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio

Man gollwng ar gyfer tacsis

Man gollwng canolog i dacsis yw yng nghilfach Neuadd Brangwyn.

Cludiant Cyhoeddus

Ewch i wefan Traveline Cymru www.travelline.cymru neu ffoniwch 0800 464 0000 i gael help i drefnu teithiau ar fws, coets a thrên.

Bydd bysus yn teithio’n ôl yr arfer – gwiriwch amserlenni ar wefan Traveline Cymru. Efallai y bydd oedi oherwydd traffig trwm.

Cyfleusterau lles

Toiledau dros dro ar gyfer y digwyddiad

Bydd toiledau symudol hygyrch safonol y diwydiant mewn amrywiaeth o leoliadau trwy gydol y digwyddiad.

Toiledau parhaol i’r anabl (adnoddau RADAR)

Mae’r cynllun allwedd RADAR yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n darparu mynediad at wasanaethau cyhoeddus o safon gan ddefnyddio allwedd.

Mae’r toiledau parhaol i’r anabl ar gael ar hyd Bae Abertawe ym:-

  • Marina Abertawe (allwedd RADAR)
  • Y Ganolfan Ddinesig (does dim angen allwedd)
  • Llyn Cychod Parc Singleton (allwedd RADAR)
  • Lido Blackpill (allwedd RADAR)
  • Sgwâr Oystermouth (allwedd RADAR)
  • Knab Rock (does dim angen allwedd)

Safleoedd Changing Places

Gall Changing Places ddarparu cyfleusterau toiled hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu dwys a lluosog a phobl anabl eraill na all ddefnyddio toiledau hygyrch safonol.

Mae’r cyfleuster yn darparu lle ychwanegol i bobl anabl a’u cynorthwywyr neu ofalwyr personol a mainc newid y gellir newid ei huchder ynghyd â theclyn codi.

Mae gan y lleoliadau canlynol, ar hyd promenâd Bae Abertawe a chanol y ddinas, gyfleusterau Changing Places.

  • Y Ganolfan Ddinesig
  • The Secret Bar and Kitchen
  • Bydd angen allwedd RADAR ar Doiledau Cyhoeddus Gorsaf Fysus y Cwadrant
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Canolfan Hamdden yr LC
  • Gorsaf Drenau Abertawe

Mannau Gwybodaeth

Mae dau fan gwybodaeth cyhoeddus o fewn arddangosiadau ar y ddaear y Sioe Awyr, un yn y Ganolfan Ddinesig ac un ger y Senotaff, a bydd y ddau wedi’u marcio ag arwyddion baneri fframiau sgaffaldiau uchel. Bydd staff Cyngor Abertawe sydd yn y mannau gwybodaeth yn gallu ateb unrhyw ymholiadau am y digwyddiad a’r cyfleusterau y gall fod eu hangen arnoch.

Ardaloedd Gwylio Hygyrch

Darperir dwy ardal wylio hygyrch yn Sioe Awyr Cymru eleni, bydd gan y ddwy doiled dros dro i’r anabl, stiward, cadeiriau plygadwy ar gyfer eich cydymaith (os oes angen) a golygfeydd da o’r arddangosiadau awyr ac ardal y traeth. Y cyntaf i’r felin gaiff fanteisio ar y cyfleuster hwn.

Senotaff

Mae mynediad llawr caled ar gael o’r ffordd/maes parcio i’r promenâd. Mae’r ardal hon ar ardal laswelltog wastad sy’n edrych dros y traeth gyda llwybr hygyrch dros dro o’r promenâd iddo.

Y cyfleusterau sydd ar gael yn yr ardal hon:-

  • Ardal ddynodedig arbennig ar gyfer pobl ag anableddau a’u teuluoedd
  • Toiled dros dro i’r anabl
  • Stiward i reoli mynediad i gwsmeriaid anabl yn unig
  • Stondinau arlwyo a masnach â chownteri hygyrch
  • Y Bwrdd Hedfan – ardal VIP hygyrch
  • Toiled Changing Places, 250m i ffwrdd, yn The Secret Bar and Kitchen
  • Mae’r siglen gadair olwyn hefyd ar gael ym Mharc Victoria i deuluoedd sydd am gamu’n ôl o’r Sioe Awyr ar unrhyw adeg.

Canolfan Ddinesig 

Mae mynediad llawr caled ar gael o’r ffordd/maes parcio sy’n arwain at lwybr hygyrch dros dro i’r ardal laswelltog y tu ôl i’r Ganolfan Ddinesig.

Y cyfleusterau sydd ar gael yn yr ardal hon:-

  • Ardal ddynodedig arbennig ar gyfer pobl ag anableddau a’u teuluoedd
  • Toiled dros dro i’r anabl
  • Stiward i reoli mynediad i gwsmeriaid anabl yn unig
  • Stondinau arlwyo a masnach â chownteri hygyrch
  • Mae’r lleoliad yn golygu y byddwch yn agos at y Ganolfan Ddinesig, i bobl y gall fod angen iddynt ddod o hyd i le tawelach y tu mewn i Lyfrgell Abertawe.
  • Mynediad i Doiled Changing Places y Ganolfan Ddinesig (50m o’r ardal wylio i’r anabl)

Sylwer bod Sioe Awyr Cymru yn ddiwrnod mas gwych i deuluoedd, ond gall yr arddangosiadau awyr fod yn swnllyd. Os yw’ch plentyn neu’r person rydych chi’n ei gefnogi’n cael ei gynhyrfu gan sŵn, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod ag unrhyw gyfarpar neu ddyfeisiau cefnogi gyda chi fel amddiffynwyr clustiau – nid yw trefnwyr y Sioe Awyr yn darparu’r rhain.

Efallai bydd rhai masnachwyr yn gwerthu amddiffynwyr clustiau.

Cymorth Cyntaf

Mae dau fan cymorth cyntaf yn y Sioe Awyr gyda swyddogion cymorth cyntaf cymwys yn bresennol bob amser. Gofynnwch i stiward os oes angen cymorth meddygol arnoch.

Masnachwyr ac arddangosiadau

Mae mwyafrif ein harlwywyr/masnachwyr ac arddangosiadau ar hyd neu’n agos at ffordd darmac neu bromenâd. Gan fod hwn yn rhannol yn safle maes glas, mae rhai masnachwyr ar arwyneb glaswelltog.

Mae rampiau a chyrbau isel mewn nifer o fannau ar hyd Oystermouth Road i wella hygyrchedd.  

Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe

Mae Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe yn darparu sgwteri a chadeiriau olwyn trydan, yn ogystal â chadeiriau olwyn arferol, i helpu pobl â symudedd cyfyngedig i siopa neu ymweld â chyfleusterau eraill yng nghanol Dinas Abertawe.

Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe, Gorsaf Fysus Dinas Abertawe, Plymouth Street, Abertawe SA1 3AR

E-bost cyswllt: llogicyfarparsymudeddabertawe@abertawe.gov.uk

I logi sgwter symudedd, archebwch drwy:-

https://www.abertawe.gov.uk/llogicyfarparsymudedd

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, ffoniwch 01792 635428.

Cysylltwch a ni

News

  • Mae e’ nôl! Mae’r Eurofighter Typhoon yn dod i Abertawe
  • Mae’r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe
  • Sioe Awyr Cymru wych yn denu torfeydd enfawr i Abertawe
  • ‘The Tigers’ yn galw heibio Sioe Awyr Cymru 2022
  • Hediad Coffa Brwydr Prydain yn ymddangos yn Sioe Awyr Cymru 2022
https://youtu.be/6UmaqUYo32M

YN DYCHWELYD I’R AWYR UWCHBEN BAE ABERTAWE AR 1 A 2 GORFFENNAF 2023!

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=6UmaqUYo32M

Joio Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

Cysylltwch a ni

  • Cymraeg
  • English

Cyngor Abertawe

Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2023 · Wales National Air Show

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo