Bydd dau brif fan ailgylchu yn y sioe awyr, gyda baneri enfawr ac arwyddion yn dangos eu lleoliad. Bydd aelodau o dîm ailgylchu’r cyngor wrth law i’ch helpu i roi’r sbwriel yn y biniau cywir. Gallwch ddod o hyd i’r mannau ailgylchu drwy edrych ar y byrddau gwybodaeth ar y safle, ar y map neu drwy ymweld â’r mannau gwybodaeth. Bydd casglwyr sbwriel yn cerdded ardal y prom a chaiff y sbwriel a gesglir ei ddidoli nes ymlaen er mwyn ei ailgylchu.
Wyddech chi?
Cafodd 1296.5 kg o sbwriel ei ailgylchu ar ôl sioe awyr 2011. Roedd yr holl sachau sbwriel, namyn un, yn addas i’w hailgylchu – helpwch ni i barhau â’r gwaith da.