Gan y disgwyliwyd y nifer uchaf o ymwelwyr erioed yn Sioe Awyr Cymru 2017, cyflwynwyd mesurau diogelwch ychwanegol a newydd ar gyfer y digwyddiad. Roedd hyn yn cynnwys cau Heol Ystumllwynarth o’i chyffordd â Ffordd y Gorllewin i Heol y Mwmbwls wrth ei chyffordd â Lôn Sgeti. Roeddent ar gau i’r ddau gyfeiriad o oddeutu 10am nes ar ôl yr arddangosiadau olaf am oddeutu 6pm ar y ddau ddiwrnod.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda gwybodaeth am Sioe Awyr 2018 cyn gynted ag y cadarnheir gwybodaeth cau ffyrdd.